![]() |
|||
|
2002
|
Addysg Diwrnod Ym Mywyd: Cynorthwy-ydd Dosbarth yn Ysgol Bro Ddyfi Codi am 7.30, cawod sydyn, gwisgo a Corn Flakes i frecwst. Gwagio cynnwys y
rhewgell a mynd â nhw i rewgell Nain drws nesaf. Ma'e rhewgell yn 34 mlwydd
oed ac ar ei 'last legs'. Mae'r un newydd yn cyrraedd heddiw tua 4.00.
10.05 Gwers arall Fathemateg gyda Blwyddyn 11 (15-16 oed) - Pythagoras. Paned o goffi am 10.55. 11.10 Gwers arall Fathemateg gyda Blwyddyn 8, tynnu, ychwanegu, rhannu a lluosi. 12.00 Gwers Saesneg. Stori Little Red Riding Hood - fersiwn gwreiddiol a fersiwn Roald Dahl, cymharu'r ddwy. 12.50 Cinio o'r diwedd. CUPASOUP Minestrone, rôl frown, banana a iogwrt, paned a sgwrs yn Ystafell yr Athrawon. 1.45 Gwers Ddaearyddiaeth gyda Blwyddyn 9 (13-14 oed). Trafod problemau datblygu'r goedwig law yn Brasil. Helpu'r plant gwannaf i ateb cwestiynau. 2.35 Gwers olaf y dydd. Paratoi a llunogopio taflenni ar gyfer gwersi sillafu a gwneud posteri ar y cyfrifiadur ar gyfer y clwb gwaith cartref. 3.40 Cyrraedd adref. Ifor y gwr, Nerys y ferch hynaf a minnau yn symud yr hen rewgell allan o'r bwtri. Golchi'r wal a'r llawr a phaentio'r wal tu ôl iddi. 4.15 Dovey Vision yn cyrraedd gyda'r rhewgell newydd. Cael paned. Gwagu bocsys o Viking Direct yn cynnwys inc i'r argraffydd a phapur. Swper sydyn heno, pitsa, bins, rôls bara brown a salad i chwech ohohom, Ifor a minnau, Nerys, Glesni a Lowri, y tair merch, a Bedwyr, sef cariad Nerys. 6.45 Mynd i Lanbrynmair gyda ffrind i ddewis llyfrau newydd ar gyfer yr Ysgol Sul. Sawl llyfr ar sêl, £1 yr un. Prynu 14 ar gyfer anrhegion Nadolig i'r plant. Prynu chwech o lyfrau eraill ar gyfer y dosbarthiadau. Adref erbyn 8.45pm. Ifor a Nerys yn mynd at Nain drws nesaf i nôl y bwyd o'r rhewgell a minnau yn ei roi'n drefnus yn y rhewgell newydd.
9.30 Eistedd i lawr efo paned o goffi ac i wylio ychydig o deledu, dim mwy heno. Ifor yn mynd i nôl Lowri o'r 'Windband' yn y dref, mae hi'n chwarae'r ffliwt yno bob nos Fawrth am ddwyawr. Glesni wedi methu mynd heno, dolur gwddf ganddi a gormod o waith ysgol, arholiadau TGAU ar y gorwel. Darllen Y Blewyn Glas a mynd i'r gwely am 10.30pm. | ||
¦ Mynegai ¦ Hafan ¦ Addysg ¦ Amodau Cymdeithasol ¦ Bywyd yn y Cartref ¦ Cyfraith a Threfin ¦ ¦ Cymuned ¦ Cyfathrebu ¦ Diwylliant ¦ Gofal Iechyd ¦ Gwaith ¦ Powys: Y Pryd Hynny a Nawr Trafnidiaeth ¦ ¦ Am y Prosiect ¦ Partneriaid ¦ Ffynonellau & Cydnabyddiaeth ¦ Llinell Amser - 1891 ¦ Llinell Amser - 2002 ¦ |
|||