| |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
|
1891 |
Addysg Ysgol Llawr-y-Glyn ![]() Ysgol Llawr-y-Glyn Casgliad preifat Roedd gan yr ysgol gynradd hon yn Sir Drefaldwyn ddau aelod o staff dysgu: Mr John Roberts, athro cymwys yr ail ddosbarth, a Margaret Evans, yr athrawes wnïo. Roedd Margaret Evans yn absennol yn aml yn ystod 1891 oherwydd salwch ac ymddiswyddodd ym mis Ebrill y flwyddyn ganlynol. Roedd Mr Roberts yn lletya mewn ty y drws nesa i'r ysgol:
Roedd cofnodion Mr Roberts yn llyfr log yr ysgol ar gyfer 1891 yn fyr iawn, ac yn cynnwys sylwadau ynglyn â phresenoldeb yn bennaf, ond ar y 29ain Mai nododd:
Daeth ei resymau dros fod yn absennol yn amlwg ar y 5ed o Fehefin:
Daeth Mr Percy Jones yn ei le pan ail agorwyd yr ysgol ar y 14eg o Fedi. Un o'i dasgau cyntaf oedd i ddysgu o adroddiad yr Arolygwr Ysgolion ar gyfer y flwyddyn, a roddodd ganlyniadau cymysg i'r ysgol o dan ei ragflaenydd:
Gwelodd yn fuan iawn ei fod yn delio â phroblemau arferol o blant yn absennol o achos eu bod yn cynorthwyo gyda'r cynhaeaf:
Ac ym mis Rhagfyr:
| ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
¦ Mynegai ¦ Hafan ¦ Addysg ¦ Amodau Cymdeithasol ¦ Bywyd yn y Cartref ¦ Cyfraith a Threfin ¦ ¦ Cymuned ¦ Diwylliant ¦ Gofal Iechyd ¦ Gwaith ¦ Powys: Y Pryd Hynny a Nawr Trafnidiaeth ¦ ¦ Am y Prosiect ¦ Partneriaid ¦ Ffynonellau & Cydnabyddiaeth ¦ Llinell Amser - 1891 ¦ Llinell Amser - 2002 ¦ |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||