Addysg
Diwrnod Ym Mywyd: Myfyrwraig
6.30am Dechreuodd fy niwrnod yn hen ddigon cynnar. Doedd dim ots gen i godi mor fore gan fod y tywydd yn braf ar hyn o bryd. Maen gwneud gwahaniaeth gwybod fod yr haul allan ac na wnaiff hi fwrw glaw heddiw. Dw in falch. Ges i rawnfwyd i frecwast ac wedyn rhoi popeth yn y car a chychwyn am y brifddinas, Caerdydd. Dw i newydd ddechrau gwenud cwrs dysgu i raddedigion yn yr Athrofa yng Nghyncoed. Bydda in gwneud y cwrs uwchradd (Cymraeg) a dw in edrych mlaen yn ofnadwy. Wrth gwrs dw in eitha anhyderus ond mae hynnyn naturiol, maen siwr.
Car bach da sy gen i : Volvo 340 (car A-tw-B) ac maer car ma wedi cael ei basio i lawr drwyr teulu om mam im brawd ac wedyn i fi. Dw in mynd dros y mynydd fel arfer i gyrraedd Caerdydd ar hyd yr A465 (Heads of the Valleys) ac i lawr yr A470, ond gan fod Cyncoed ar ochr ddwyreiniol y ddinas maen haws mynd ir Fenni ac wedyn ar hyd yr M4. Mae hin cymryd rhyw awren fel arfer i gyrraedd y lle. Wrth gwrs mae hin dibynnu ar y traffig.
Mae na ryw 70 ohonon nin gwneud y cwrs ac maen nhwn dod o bobman yng Nghymru. Fi ydyr unig un o Bowys ond eto dydy hyn ddim yn fy synnu. Dw i ddim yn nabod neb arall om hoedran i syn siarad Cymraeg ac yn dod o Grughywel.
![]() |
Mi aeth y boren dda iawn a chymerais i nodiadau fel myfyrwraig fach dda. Adeg cinio aeth criw ohoonom ir undeb Myfyrwyr a chael peint o gwrw a panini sef rhyw baguette wedi wasgu ai gynhesu. Bwyd iawn ond diolch byth, roedd y cwmnin well.
Ar ôl gorffen darlithoedd yn y prynhawn es ir lle cyfrifiaduron yn y coleg a chael siecio fy nghyfeiriad e-bost. Mae gen i ddau gyfeiriad e-bost. Mae un yn gysyltiedig âr coleg ac maer llall yn gyfeiriad Hotmail.
![]() |
Roedd gen i sawl neges ar y cyfeiriad Hotmail a oedd yn wych. Es i ir Unol Daleithiau i weithior haf yma ar haf diwethaf, a dw i wedi bod i sawl gwlad yn ddiweddar, felly mae gen i gyfeillion dros y byd. Heddiw roedd gen i neges gan ffrindiau yn Hawaii, Boston (Massachusetts), Yr Ariannin, Yr Almaen, ar Alban. Dw i byth mor boblogaidd â hyn!
Mae cadw menw cysylltiad drwyr e-byst yn ffordd rhad a sydyn i gyfathrebu. Mae llythyr yn cymryd rhyw dridiau i gyrrraedd Yr Almaen a llefydd yn Ewrop, rhyw bum diwrnod ir Unol Daleithiau a sawl wythnos ir Ariannin. Bydda in ysgrifennu llytyrau yn aml oherwydd fy mod yn credu ei fod yn dal yn neis cael rhywbeth drwyr post.
Ar ôl sbel go hir felly yn ateb negeseuon, roedd hin amser i mi fynd ar draws y ddinas i Dreganna (Catnon), im cartre newydd. Gan fod y cwrs yma yng Nghaerdydd mae hin haws o lawer imi fyw yma. Ffeindiais i dy ar y penwythos drwy gysylltiad tramor: mi wnes i gyfarfod y boi yma yn Y Wladfa yn ôl ym mis Mai ac felly mi wnaethon ni gytuno i gyfarfod unwaith y down ni yn ôl i Gymru. Dyna a wnaethon ni, a digwydd bod, roedd on symud o Gaerdydd i Sir Fôn, felly dw in symud i fewn.
Cysgais mewn sach gysgu mewn lle dieithr a newydd yng Nghaerdydd. Buasain well gen i fod yn nghefn gwlad ond yma fydd rhaid bod am y tro.
Soniais i am de? Ges i basta pesto a chaws neis. Nos da.