
Bwyd
'Benger' i Fabanod, Plant a'r Methedig.
Yn Flasus, Maethlon a Threuliadwy.
Archifau Sir Powys
Bywyd yn y Cartref
Bwyd
Er bod llawer o'r bwyd yn cael ei
gynhyrchu a'i dyfu'n lleol, roedd dibyniaeth ar fwyd gwneuthuredig yn
cynyddu. Roedd mwy ar gael o ganlyniad i'r cynnydd mewn diwydiant, ac
i'w gael yn hwylus gyda dyfodiad y rheilffyrdd.

Coco Van Houten Coco Van Houten.
Coco Pur Toddadwy.
Hawdd i'w Dreulio.
Archifau Sir Powys

Hysbyseb Bara Hovis,
o 'Heywood's Guide to
Llandrindod Wells'
Archifau Sir Powys
Yn gynharach yn y ganrif, gallai
bwyd fod yn eithaf perygl; roedd yn gyffredin i ychwanegu pob math o bethau
at fwyd, er mwyn ymddangosiad yn unig yn aml. Er enghraifft, roedd pobyddion
yn aml yn gwynu blawd ag alwm (swlffat alwminiwm a photasiwm) er mwyn
gwneud i fara brown ymddangos yn wyn.
Yn raddol, cafodd pethau eu rheoli,
gydag enwau 'dibynadwy' yn ceisio rhoi sicrwydd i ddefnyddwyr am ansawdd
y bwyd. Roedd hysbysebion y cyfnod yn pwysleisio purdeb y cynhwysion,
ynghyd â'u heffeithiau llesol.
|