| |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
|
1891 |
Bywyd yn y Cartref John Hughes, Glangrwyne Yn ôl cyfrifiad 1891, gwraig o'r enw Sophia Parkinson oedd perchennog neu ddeiliad Neuadd Glangrwyne ger Llangenni yn Sir Frycheiniog (a gai ei adnabod hefyd fel Sunny Bank). ![]() Cwrdd yng Nglangrwyne, tua 1910 Archifau Sir Powys Serch hynny, erbyn 1901, roedd yn nwylo Trevor F Thomas, peiriannydd o Ferthyr Tudful. Roedd yn wr cefnog, oedd yn medru fforddio cyflogi nifer o weision ac athrawes o Ffrainc i Vivian, ei ferch ifanc. ![]() Gweithwyr Ystad Glangrwyne Archifau Sir Powys
![]() Mr Hughes gyda'i wyr, Willie Archifau Sir Powys
Mae lluniau o deulu Mr Hughes yn Archifau Sir Powys yn dyddio o'r 1890au pan ddechreuodd Mr Hughes weithio yno. Mae'n debygol mai llun o fab hynaf John, Willie, gyda'i daid yw hwn. Gwelir John Hughes eto yn y lluniau hyn gyda staff Sunny Bank. Mae'n bosibl mai ei fab ieuengaf, George, yw'r bachgen ym mlaen y llun. ![]() Staff Glangrwyne Mae John Hughes yn sefyll yn y canol yn y cefn, gydag Emma Hughes yn eistedd o'i flaen. Archifau Sir Powys | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
¦ Mynegai ¦ Hafan ¦ Addysg ¦ Amodau Cymdeithasol ¦ Bywyd yn y Cartref ¦ Cyfraith a Threfin ¦ ¦ Cymuned ¦ Diwylliant ¦ Gofal Iechyd ¦ Gwaith ¦ Powys: Y Pryd Hynny a Nawr Trafnidiaeth ¦ ¦ Am y Prosiect ¦ Partneriaid ¦ Ffynonellau & Cydnabyddiaeth ¦ Llinell Amser - 1891 ¦ Llinell Amser - 2002 ¦ |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||