Bywyd yn y Cartref
Albwn Lluniau'r Teulu Lomax
Prynodd Thomas ac Anne Lomax, o deulu o entrepreneuriaid o Swydd Gaerhirfryn, Neuadd Bodfach yn Llanfyllin yn 1854. Byddai eu plant John ac Anne yn cael dylanwad mawr ar Lanfyllin.
|
|
|
Roedd John yn dod i oed yn ddigwyddiad mawr yn lleol.

Darn o bapur newydd,
'The Coming-of-Age of Mr John Lomax'
Archifau Sir Powys
Daeth yn ffigur amlwg yn lleol, gan gymryd rhan mewn nifer o faterion lleol. Ei arwyddair oedd "Service before self". Câi ei gydnabod fel tirfeddiannwr cyfiawn. Roedd ef a'i chwaer yn ymwneud â chynnal ysgol leol a sioe Llanfyllin.

Rhoi gwobrau yn Sioe Llanfyllin, tua 1900. Mae Mrs Lomax
i'r chwith o'r dystysgrif hirsgwar a'r cwpan.
Yn y gert, gwelir y tarw coronnog a phedwar dyn yn gwisgo ffedogau,
siacedi streip a hetiau gyda chantel wedi troi am i fyny.
Archifau Sir Powys
![]() Anne Lomax yn gyrru cert, tua 1900 Archifau Sir Powys ![]() Mrs Lomax, tua 1910 Archifau Sir Powys Serch hynny, er eu gwaith yn y gymuned, teulu tawel oeddynt a oedd yn treulio llawer o'u hamser ym Modfach gyda'u ceffylau a'u cwn. |
Mae'r llun isod yn dangos Anne gyda'i chyfnither, Laura Pughe. Roedd y Pugheiaid yn perthyn o ochr ei mam, ac roeddynt eu hunain yn ffigurau lleol amlwg yn Llanfyllin.
|
Roeddynt yn hoff iawn o'r ddramâu a phasiantau, ac mae nifer o enghreifftiau o'r digwyddiadau hyn yn lluniau'r teulu.
|
|
|

Anne mewn cwragl, tua 1894
Archifau Sir Powys

Anne Lomax yn gyrru cert, tua 1900
Archifau Sir Powys
Ni briododd yr un o'r plant.
Bu'r ddau'n byw gyda'u mam tan iddi farw, ac wedi i John farw yn 1936, etifeddodd Anne y ty, a bu'n byw yno tan ei marwolaeth yn 1944.
Mae cyfrifiad 1891 yn dangos mai ychydig
oedd yn y cartref, gyda Mrs Lomax oddi cartref ar ddiwrnod y cyfrifiad.
| 1891 Census | ||||||
| Bodfach Hall, Llanfyllin | ||||||
| Name | Position
in household |
Marital status |
Age | Occupation | Place of Birth | English/Welsh
speaker |
| John Lomax | Head | S | 26 | Local magistrate - Living on own means | Montgomeryshire Llanfyllin | English |
| Annie E Lomax | Sister | S | 25 | Living on own means | Montgomeryshire Llanfyllin | English |
| Laura Pughe | Cousin | S | 29 | Living on own means | Flintshire Mold | English |
| Richard Dale | Servant | S | 28 | Butler | Staffordshire Stafford | English |
| Mary Davies | Servant | S | 49 | Cook | Montgomeryshire ? | English |
| Mary King | Servant | S | 30 | Housemaid | Somersetshire Charlton Macknell | English |
| Jane Jones | Servant | S | 21 | Kitchenmaid | Montgomeryshire Llanfechain | Welsh |