| 05.15 |
Larwm yn canu. Amser codi er mwyn paratoi mynd i'r gwaith yn y swyddfa
yn Ystradgynlais |
| 05.35 |
Cerdded i'r gwaith a chyrraedd am 05.40. |
| 05.45 |
Trafod digwyddiadau y dydd cynt a chael trafodaeth gyda dau heddwas oedd
yn dechrau am 6.00. |
| 06.05 |
Cwpaned o de i Heddwas R__T__ Rhif 444 a Heddwas M__ W__ Rhif 385. Ac
un i'r Rhingyll wrth gwrs. |
| 06.20 |
Allan ar patrol. Fi gyda Heddwas T__ (tair blynedd fel plismon) a Heddwas
W__ (dros ugain mlynedd) mewn cerbyd er ei ben ei hun. Heddwas W__ yn gofalu
am bentrefi Pontsenni, Defynnog a Threcastell. Heddwas T__ a minnau, bentrefi
Abercraf, Ystradgynlais a Chwmtwrch. |
| 09.00 |
Nôl i'r Swyddfa. Dau heddwas eto yn dechrau gwaith. Trafodaeth eto
am waith y dydd o'r blaen |
| 09.30 |
Brecwast adref yn y ty. |
| 10.15 |
Cerdded yn y pentref. Cael sgwrs gyda pobl y pentref: B__ D__, Siop Ddillad,
a C__ yn siop fwyd y pentref, i enwi ambell un. |
| 12.00 |
Nôl i'r swyddfa. Dechrau gwaith papur. |
| 14.00 |
Gorffen gwaith wedi trafod gwaith a digwyddiadau'r dydd gyda Rhingyll
H__ sydd yn awr yn dechrau gweithio. |
| 14.20 |
Cyrraedd adref. Cael sbel yn y gadair i gysgu. |