Amodau Cymdeithasol
Diwrnod Ym Mywyd: Wedi ymdeol I
![]() |
Deffro eto heddiw i ddiwrnod arall heulog. Maen anodd credu bod y pythefnos diwethaf wedi bod mor braf - Ha Bach Mihangel go iawn. Roeddwn yn meddwl pan gawsom gymaint o niwl ym mis Awst y byddai heulwen a gwres yn dilyn. Yr hen ddywediad yn dod i go - gwres wedi niwl yr haf ac eira wedi niwl Tachwedd! Alun fy ngwr yn gwirfoddoli bore ma yn Siop yr Hosbis. Maer siop wedi ei sefydlu ers dros bum mlynedd bellach ac maen cael cefnogaeth yr ardal ac ymwelwyr.
Ar ôl golchi llestri brecwast penderfynu newid y gwely ac wedi rhoi dillad yn y peiriant golchi mynd am gawod cyn cael seibiant gyda phaned o goffi i edrych ar y Liverpool Daily Post. Yn ôl y papur heddiw,
Roedd yn rhaid hefyd wrth gwrs edrych ar y dudalen marwolaethau, priodasau a genedigaethau.
Ar ôl twtior llofftydd ar stafell molchi darparu ein pryd nos. Y fwydlen heno: Casserole Iau a Cennin. Alun yn cyrraedd adre tua un or gloch, wedi cael bore prysur yn y siop. Ymwelwyr yn dal o gwmpas; maen rhaid bod y tywydd braf yn dal i ddenu ymwelwyr.
Treulior prynhawn yn gwirfoddoli yn Telecanolfan Machynlleth. Fel arfer roed y Ganolfan yn brysur iawn, pump yn dilyn cyrsiau cyfrifiaduron, eraill yn dod i mewn i ddefnyddior We, llungopio, llenwi ffurflenni, a.y.b.
Cyrraedd adre tua 5.00 ac yn dilyn ein pryd nos, treulio cyfnod ar y cyfrifiadur yn darparu Rhybuddion ac Agenda ar gyfer cyfarfod nesa Pwyllgor Apêl Eisteddfod Maldwyn ar Gororau 2003. Mae angen codi £10,000 yn nhref Machynlleth ac mae dros £6000 eisoes wedi ei godi. H__ E__ yn ffonio i drafod materion ynglyn â Chanolfan Glyndwr ar camau ynglyn â chael lifft ir Ganolfan.
![]() |
|
Chanolfan Glyndwr
|
Cyfarfod cynta tymor newydd Merched y Wawr Bro Ddyfi yng Nghanolfan Glyndwr. Tua 30-40 yn bresennol a braf oedd clywed y Llywydd yn croesawu tair aelod newydd. Cefais fy ethol i gynrychiolir gangen ar Bwyllgor Llety a Chroeso Eisteddfod Maldwyn gydag A__ O__. Wrth wrando ar y Llywydd yn cyhoeddi gweithgareddau ychwanegol y tymor, fe fydd hin Wanwyn cyn troi - Yoga, Bowlio Deg, ymarfer ar gyfer cynhyrchiad y Rhanbarth yn yr Eisteddfod ac mae sôn hefyd am arbrofi cyfarfod o Ferched y Wawr yn y prynhawn er mwyn yr aelodau hyn(Y). Y wraig wadd oedd E__ J__ or Bala. Teitl ei sgwrs oedd Siarad drwy fy Het a chafwydd amser difyr yn gwrando arni yn rhannu ei hatgofion am naw het. Roedd ganddi ddawn dweud arbennig a chawsom chwerthin wrth wrando ar ei hanesion. Wrth gwrs roedd rhai or hetiau wedi ei helpu hi i roi sylfaen gadarn ar ei bywyd, fel yr het oedd ganddi pan yn dweud adnodau yn y Capel a het ei nain a ddaeth ag atgofion i ni i gyd or amser roedden ni wedi ei dreulio gydan neiniau. Cystadleuaeth y noson oedd het wedii haddurno. Jane a gafodd y wobr a Sylvia Williams a ddaeth yn ail ac roedd y ddwy ohonynt yn edrych yn smart iawn yn eu hetiau.



Cyrraedd adre mewn pryd i glywed newyddion deg. Y brif stori oedd y ddadl yn y Senedd ynglyn ag Iraq. Diolch bod rhai o aelodaur Blaid Lafur yn erbyn rhyfel. Pryder yn dal ynglyn â chanlyniadau lefel A. Maen bryd datrys y mater er mwyn ir plant gael chwarae teg.
Cyn mynd ir gwely, penderfynu rhoi rhyw hanner awr ar dapiau Prosiect Llafur Menywod 1920-1960, prosiect Merched y Wawr. Crynodebu rhai or tapiau tan ryw 11.30. Yn ôl C__ S__, syn gyfrifol am y prosiect, derbyniwyd 1001 o dapiau.