![]() |
|
|
2002
|
Amodau Cymdeithasol Diwrnod Ym Mywyd: Wedi ymdeol II ![]() 9.00! Ar ei hôl hi - codin hwyr. Rhaid trio dal i fyny cyn nos. Bore bendigedig o Hydref - braf cael byw a bod yn iach. Gwneud ychydig o waith ty a smwddio (ych a fi!) Cinio reit handi a mynd i weld mam i ffrind i mi a fu farwn ddiweddar wedi cystudd blin. Cael Anti Nel yn rhyfeddol a meddwl am y gnoc ddiweddara o golli merch. Maen syndod o ble maer nerth yn dod. Newyddion am fachgen ifanc or ardal wedi cael damwain. Roedd wedi mynd i weld ei wartheg yn y mynydd ar rheini wedi ymosod arno. Mae yn yr ysbyty mewn Uned Gofal Dwys. Gobeithio y daw newyddion gwell yfory. Plantos (wyrion) yma or ysgol. Cael te fel arfer efo Nain! Braf cael eu cwmni - au hasbri. Pwyllgor Dawns heno at Steddfod Genedlaethol Meifod 2003. Eisiau cael trefn ar raglen y Babell Ddawns. Pwyllgor hwylus iawn. A fydd Plaid Cymrun uno âr Democratiaid Rhyddfrydol i redeg y Cynulliad? Mae rhyw swn ym mrig y morwydd. Bywyd tawel yng nghefn gwlad? Dw i ddim yn meddwl. |
¦ Mynegai ¦ Hafan ¦ Addysg ¦ Amodau Cymdeithasol ¦ Bywyd yn y Cartref ¦ Cyfraith a Threfin ¦ ¦ Cymuned ¦ Cyfathrebu ¦ Diwylliant ¦ Gofal Iechyd ¦ Gwaith ¦ Powys: Y Pryd Hynny a Nawr Trafnidiaeth ¦ ¦ Am y Prosiect ¦ Partneriaid ¦ Ffynonellau & Cydnabyddiaeth ¦ Llinell Amser - 1891 ¦ Llinell Amser - 2002 ¦ |
|