| Diwylliant
ac Adloniant
Bedyddio
Roedd mwyafrif pobl oes Fictoria
- er nad y cyfan - yn bedyddio eu plant. Petaech yn Anghydffurfiwr, byddai'r
bedydd yn cael ei gyflawni yn yr eglwys neu gapel y byddent yn ei fynychu,
er nad oedd rhai Anghydffurfwyr megis y Bedyddwyr yn cytuno â bedyddio
babanod,. Weithiau, byddai plant yn cael eu bedyddio yn yr eglwys fwyaf
cyfleus neu yn hen eglwys blwyf y fam petai mwyafrif ei theulu yn byw
yno. Yn aml, byddai babanod yn cael eu bedyddio o fewn mis o'u geni ac
weithiau'n llawer cynharach na hynny petaent yn credu na fyddai'r baban
yn byw. Ni fyddai plant ar rai adegau'n cael eu bedyddio tan y byddent
ychydig flynyddoedd yn hyn.
|
Mam a phlentyn mewn
gwn bedyddio, gan T Roberts, Llandrindod
Amgueddfa Sir Faesyfed |