|
1891
In English
Hafan
Addysg
Amodau Cymdeithasol
Bywyd yn y Cartref
Cyfraith a Threfu
Cymuned
Diwylliant
Gofal Iechyd
Gwaith
Powys: Y Pryd Hynny a Nawr
Trafnidiaeth
Mynegai
E-bost
|
Diwylliant ac Adloniant
Beiciau
yn 1891
Roedd beiciau wedi bod mewn bodolaeth
am nifer o flynyddoedd cyn 1891, ond roeddynt yn eitem ddrud iawn i unigolyn
ei brynu o hyd. Er enghraifft, byddai beic yn costio £6 - £9,
pan mai cyflog blynyddol unigolyn proffesiynol oedd yn codi ar yr ysgol
waith oedd £700 (gweler y Wefan Fictoraidd am wybodaeth
ar gyflogau oes Fictoria). Roedd y "Sharp Shooter" a hysbysebwyd
uchod yn costio £12, oherwydd technoleg newydd y teiars niwmatig
(gweler isod).
|

Hysbyseb ar gyfer y beic
"Sharp Shooter", o Raglen
Sioe Cymdeithas Arddio'r Trallwng, 1894
Amgueddfa Powysland a
Chanolfan Camlas Sir Drefaldwyn
|
|

Damwain beic ddifrifol,
fel a nodwyd yn y Brecon and Radnor Express
Llyfrgell Llandrindod.
|
SERIOUS BICYCLE
ACCIDENT
Last week, Mr Osmond
Larkin met with a serious accident whilst proceeding along the Watton
Road on his bicycle. He came into collision with Messrs. Jones Bros. horse
and cart, with the result that he was knocked down and the wheel of the
vehicle passed over his chest and arm. He also sustained injuries to the
head. Mr Larkin was promptly taken to Dr. Owen's surgery, where his injuries
were attended to, and now we are happy to state he is out of danger and
rapidly recovering. The bicycle was broken, and the horse's legs badly
cut.
|

Beic 'Aerial' cyffredin
Yr Amgueddfa Seiclo Genedlaethol, Llandrindod |
|
Y ddau fath o feic oedd ar gael yn
1891 oedd y beic cyffredin a'r beic 'diogelwch'. Mae'r beic cyffredin
yn fwy cyfarwydd gyda'i enw poblogaidd - y beic peniffardding. Byddai'r
olwyn fawr yn rhoi ychydig o ddiogelwch i'r sawl a ai arno rhag rawtiau
a rhigolau'r ffyrdd gwledig ym Mhowys, er y byddai wedi bod yn anodd iawn
seiclo oddi ar y prif ffyrdd.
|
|

Beic gyda ffrâm fetel a bambw, tua 1895
Yr Amgueddfa Seiclo Genedlaethol, Llandrindod
|
Roedd y beic 'diogelwch' yn debyg
iawn i feiciau heddiw, ond bod ganddynt deiars rwber caled a solet. Roedd
y fframiau wedi'u gwneud o fetel gan fwyaf, er y byddai bambw'n cael ei
ddefnyddio ar adegau. Gyda'r beic penodol hwn, roedd rhai rhannau o'r
ffrâm yn fetel oedd yn edrych fel bambw, tra'r oedd y rhannau eraill
yn bambw.
|
|

'Beic diogelwch 'Swift', 1888
Yr Amgueddfa Seiclo Genedlaethol, Llandrindod
|
Cafwyd chwyldro o bwys yn 1888 pan
gafodd y teiar niwmatig ei ddyfeisio gan Dunlop. Wedi'u gosod ar y beic
diogelwch, arweiniodd y teiar mwy cyfforddus a chyflymach hwn at dwf mewn
seiclo fel dull o deithio a hamdden. Datblygwyd yr un dechnoleg ymhellach
ar gyfer teiars cerbydau.
|
|

Dau feic tair olwyn yn Fife,
o On your bicycle : an illustrated history of cycling
gan James McGurn. London : Murray, 1987.
|
Aeth ychydig o amser heibio cyn i'r
beic ddod yn ddull derbyniol o deithio i ferched, gan mai'r farn gyffredinol
oedd mai dim ond ar gyfer perfformwyr syrcas a gwragedd ag enw drwg yr
oedd yn briodol. Roedd merched yn defnyddio beiciau tair olwyn ond nid
oedd y rhain, mae'n debyg, yn ymarferol ar gyfer teithiau hir. Erbyn diwedd
yr 1890au, daethpwyd o hyd i ddulliau amrywiol o seiclo gan sicrhau fod
merched yn edrych yn barchus wrth fynd ar gefn beic.
|
|

'Skirtsaver'
Yr Amgueddfa Seiclo Genedlaethol, Llandrindod
|
|

Hysbyseb ar gyfer Dyfais Sicrhau'r
Sgert wrth Seiclo, tua 1894
Yr Amgueddfa Seiclo Genedlaethol, Llandrindod
|
Dull arall oedd i osod rhesen wifrog
ar yr olwyn gefn i atal y sgert rhag cael ei dal yn adain yr olwyn.
Mae mwy ar hanes y beic ar wefan
yr Amgueddfa Seiclo Genedlaethol.
|
|

Clwb Seiclo'r Gelli y tu allan
i Ashbrooke House, tua 1890
Amgueddfa
ac Oriel Gelf Brycheiniog
|
|