|
1891
In English
Hafan
Addysg
Amodau Cymdeithasol
Bywyd yn y Cartref
Cyfraith a Threfu
Cymuned
Diwylliant
Gofal Iechyd
Gwaith
Powys: Y Pryd Hynny a Nawr
Trafnidiaeth
Mynegai
E-bost
|
Diwylliant ac Adloniant
Llwybrau cerdded
o amgylch Llandrindod
|

Bandstand, Gwesty'r
Ty Pwmpio, Llandrindod
Amgueddfa Sir Faesyfed
|
Roedd cerdded yn
weithgaredd hamdden pwysig i bobl oes Fictoria gan ei fod yn arwain at
fanteision o ran iechyd ynghyd â rhoi cyfle i weld y cefn gwlad
yn uniongyrchol. Roedd gan Landrindod nifer o atyniadau i'r cerddwr.
Yn y dref ei hunan,
roedd yna lwybrau cerdded o amgylch Parc y Creigiau, lle'r oedd y dyfroedd
'chalybeate', ystafelloedd pwmpio a'r ffynnon.
wedi'u lleoli.
Roedd y Parc yn ganolfan i lawer iawn o fywyd y dref ar y pryd.
|
|
Yn arwain o Barc
y Creigiau, roedd llwybr at Lam y Cariadon, craig oedd yn ymwthio allan
o'r Afon Ithon a oedd yn ffefryn gan ymwelwyr Oes Fictoria.
Ffefryn arall oedd
Comin Llandrindod oedd yn edrych dros y dref. Mae Arweinlyfr Evans o 1891
yn dweud:
|

Llam y Cariadon, Llandrindod
Archifau Sir Powys
|
|

Golygfa o Landrindod
o'r Comin
Archifau Sir Powys
|
"Llandrindod
Common is about five miles long and three-quarters of a mile wide; and
though not luxuriant in vegetation, is still far from being of a barren
appearance. When the furze is in flower, and you have the distant mountains
of Radnorshire in view, the common seems more like a paradise than a
desert."
|
|
Roedd eglwysi a chapeli
yn gyrchfannau cyffredin eraill a'r un a gawsai ymweliad amlaf oedd Eglwys
Sant Mihangel yng Nghefnllys. Roedd yr eglwys mewn lleoliad rhamantus
mewn dyffryn coediog heddychlon ar odre Bryn Cefnllys, lle'r oedd castell
urddasol arfer sefyll.
Roedd gan Eglwys
Sant Mihangel y fantais ychwanegol o gael pont beryglus iawn yn mynd tuag
ati, o'r enw 'Shaky Bridge' am y rhesymau amlwg:
|

Eglwys a Dyffryn Cefn
Llys, Llandrindod
Archifau Sir Powys
|
|

Shaky Bridge, Llandrindod
(Mae'r strwythur presennol wedi'i
wneud o ddur cadarn iawn a choncrit.)
Archifau Sir Powys
Ymhellach ar hyd
dyffryn Ithon yn Llanbadarn Fawr, roedd pont arall - y Bont Alpine.
Mae Arweinlyfr Heywood
o'r 1890au yn nodi: "it is a charming object which has attracted
many an artist" and Evans describes it as "one of the
most charming sights in the neighbourhood of Llandrindod, especially so
when the trees are in full verdure."
|

Y Bont Alpine.
Llandrindod.
Archifau
Sir Powys
|
| |

Yr Afon Ithon
o'r Bont Alpine, Llandrindod
Archifau Sir Powys |
|