Diwylliant ac Adloniant

Sioeau Ffilmiau Cynnar

Dechreuodd y sinema fodern yn 1891, pan ddyfeisiodd Thomas Edison y cinetosgop a'r cinetograff (gweler .http://edison.rutgers.edu/chron2.htm#91) Ym mis Rhagfyr 1895, cafwyd y perfformiad cyntaf o'r sinematograff gan y brodyr Lumiere ym Mharis. Erbyn diwedd yr 1890au, roedd ffilmiau cynnar yn cael eu dangos yn Neuadd Tref Machynlleth. Yn y cychwyn, roeddynt yn cael eu cyfuno gydag adloniant arall, megis sioe deithiol Lieut Walter Cole:

Cole's Improved Animated Photos
"Cole's Delightful Ventriloquial Recitals
and Humorous Mimetic Entertainments"
Archifau Sir Powys

Yn ei delegram ar yr 2il Chwefror 1899, roedd asiantau Baring Bros o Cheltenham yn awyddus na ddylid cynnal eu sioe yn rhy agos at yr un blaenorol:

Telegram from Baring, Cheltenham
Telegram o Baring, Cheltenham
Archifau Sir Powys

"Wire vacant dates from Octr 26 onwards. Have any animated photos been lately? Baring, Cheltenham"

Fel mae'r daflen isod yn dangos, roedd Mr Baring yn gwneud honiadau mawrion am ei daith ffilmiau deithiol:

ac roedd amrywiaeth mwr o bynciau ar gael:

Slade's Electro-Photo Marvel
"Slade's Electro-Photo Marvel,
Animated Pictures"
Archifau Sir Powys

"Scenes from the Great Diamond Jubilee Procession"
"Scenes from the Great Diamond Jubilee Procession"
Archifau Sir Powys

Roedd Demeny, a wnaeth offer Mr Slade, yn ffigwr llai ond arwyddocaol yn natblygiad y sinema. Gellir dod o hyd i fwy o wybodaeth arno yma: