Powys: Diwrnod Ym Mywyd

1891

In English

Hafan

Addysg

Amodau Cymdeithasol

Bywyd yn y Cartref

Cyfraith a Threfu

Cymuned

Diwylliant

Gofal Iechyd

Gwaith

Powys: Y Pryd Hynny a Nawr

Trafnidiaeth


Mynegai


E-bost




Diwylliant ac Adloniant

Priodasau

Llun priodas, tua 1895
Llun priodas, tua 1895,
o bosibl yn Llandrindod
Amgueddfa Sir Faesyfed


Mae priodasau wedi bod yn llawn o draddodiadau ac ofergoelion erioed ond nid erioed cymaint ag yn ystod Oes Fictoria. Roedd yna draddodiadau am y dydd gorau i briodi:

Monday for wealth
Tuesday for health
Wednesday the best day of all
Thursday for losses
Friday for crosses
Saturday for no luck at all

a'r mis gorau. Y gred oedd bod mis Mai a'r Grawys yn adegau gwael i briodi tra mai fel arall oedd y farn am fis Mehefin.

Ni ddylai'r priodfab weld y briodferch yn ei gwisg briodas cyn dydd y briodas. Dechreuodd y Frenhines Fictoria y ffasiwn o wisgo priodferched mewn gwyn, ac roeddynt yn aml yn gwisgo ffrogiau gyda godreon hirion. Daeth yn arfer hefyd i wisgo fêl, y byddai'r briodferch yn gwisgo dros ei hwyneb hyd nes y byddai wedi gadael yr eglwys, ac i wisgo menig gwyn hirion.

Bride & Groom from photograph above
Manylion o ffotograff

I ddynion, roedd hetiau silc yn hanfodol, fel yr oedd cotiau â chynffon gyda thwll botwm arbennig yn y llabed i ddal blodyn. Mynd a dod wnaeth y ffasiwn o wisgo menig. Byddai tad y briodferch a'r ystlyswyr yn gwisgo'n debyg i'w gilydd.

Yn aml, bydd morynion yn gwisgo dillad ffasiynol newydd, fel arfer mewn lliwiau gwahanol fel i beidio â thynnu sylw oddi wrth y briodferch.

Serch hynny, nid oedd priodasau'n dilyn y ffasiynau o hyd. Mae'r canlynol sy'n dod o'r Brecon and Radnor Express yn ddisgrifiad o briodas yn Aberhonddu yn 1891:

"On Tuesday morning last the Plough Congregational chapel in Brecon was the scene of a very pretty wedding. The parties between whom the nuptial knot was tied being Mr W P James, son of Mr J James of Brynawel, Brecon and Miss Eleanor Mary Williams, Viaduct House, Brecon. Both the young people being very much respected and beloved in the town, a great amount of interest was taken in the happy event, and although the hour at which the ceremony was performed was somewhat early, a goodly number of friends and well-wishers assembled in the chapel. The bride, who was accompanied by her father, looked exceedingly well in her handsome dress of grey corded silk with hat to match. She also wore a beautiful enamelled brooch, the gift of the bridegroom, and carried a bouquet of bridal flowers (the gift of the best man Mr T D James). The bridesmaids - Miss Aurelia Williams and Miss Lizzie A Williams - were very prettily attired in blue (green shaded) bengaline, trimmed with old gold satin, with hats to match . . . the newly wedded couple and the wedding party left the chapel under a heavy downpour of rice, and drove to Viaduct House where the wedding breakfast was partaken of. . ."



¦ Mynegai ¦ Hafan ¦ Addysg ¦ Amodau Cymdeithasol ¦ Bywyd yn y Cartref ¦ Cyfraith a Threfin ¦
¦ Cymuned ¦ Diwylliant ¦ Gofal Iechyd ¦ Gwaith ¦ Powys: Y Pryd Hynny a Nawr Trafnidiaeth ¦
¦ Am y Prosiect ¦ Partneriaid ¦ Ffynonellau & Cydnabyddiaeth ¦ Llinell Amser - 1891 ¦ Llinell Amser - 2002 ¦