| |
|
1891 |
Diwrnod ym Mywyd
Gofaint Y Sir:
Trodd Morgan yn anfoddog yn ei wely, gyda swn carnau ceffylau ar y ffordd o Droedrhiwdalar Crossroads i'r Gefail yng Nglandulas yn tarfu ar ei gwsg. Roedd y wawr newydd dorri oddeutu 5.30 am. Roedd yn gwybod ar unwaith bod ceffylau yn dod i'w efail i gael eu pedoli ac mai Mr Williams o Gwmfadog fyddai'n dod â thîm o geffylau gwedd i gael pedolau newydd. Roedd yn amser cynhaeaf a Williams eisiau diwrnodau llawn o waith allan o'i weithiwr fferm, ac roedd eisiau bod yn ôl yn y fferm ychydig ar ôl 7.30, gan felly sicrhau diwrnod llawn o waith gan ei weithwyr. Cododd Morgan allan o'i wely gan gymryd bowlenaid sydyn o lymru a chroesi'r ffordd i fynd i'r efail. Agorodd y drws a chynnau tân yn yr efail gan wneud pedolau i'r ceffylau. Wedi gwneud hyn, dechreuodd naddu'r carnau a'u paratoi ar gyfer y pedolau gan osod y bedol boeth ar y garn a'u gwasgu yno er mwyn iddynt ffitio. Roedd yr aer yn llawn o fwg chwerw ac ar ôl addasu lleoliad y bedol a bodloni ei bod yn ffitio, dechreuodd hoelio'r bedol ar y garn a thacluso'r garn orffenedig. Edrychodd i mewn i'r siop a gweld Mr Williams yn cysgu'n drwm ar y fainc waith. Nid oedd codi mor gynnar yn y bore yn mynd i'w amddifadu yntau o'i gwsg. Pan gyflawnwyd y dasg hon, aeth Morgan i nôl ei fuwch yn y beudy i'w godro ar gyfer llaeth i'r cartref ac i'w gymysgu â'r blawd haidd i'r mochyn yr oedd yn ei besgi i ddarparu cig ar gyfer y gaeaf. Ar ôl cael ei frecwast, aeth yn ôl i'r efail lle'r oedd dyn yn disgwyl am wneud addasiadau i lafn y bladur newydd a brynodd. Roedd y llafnau hyn a oedd yn cael eu gwneuthuro gan gwmni 'Isaac Nash' yn cael eu gwneud hyd at batrwm safonol. Roedd gan wahanol ardaloedd wahanol fathau o 'handlenni pren ar gyfer y cryman ac roedd angen addasu bôn y llafn ychydig ar gyfer gwahanol fathau o grymanau. Am fwy o wybodaeth, ewch i weld http://www.scythesupply.com/snaths.html.
Roedd ceffyl arall i gael pedolau newydd a chadwyn i'w hatgyweirio wedi hynny trwy greu dolen newydd a'i asio i mewn i'r gadwyn wedi'i dryllio. Roedd angen gwneud tân yn y grât a dechreuodd wneud hyn ond cyrhaeddodd ceffyl arall i gael eu pedoli. Erbyn hyn roedd yn amser cinio felly cafodd egwyl fer i fwyta'i ginio a baratowyd gan ei wraig Bessy. Tra'n bwyta, eisteddodd Kitty, ei ferch fach dwy flwydd oed, ar ei lin a bwydodd hithau hefyd. Aeth yn ôl i'r gwaith gyda dau geffyl i gael pedolau newydd ac yna treuliodd ychydig amser yn gweithio wrth y grât. Wedi hynny, edrychodd ar yr aradr rhydd y bu wrthi'n ei gwneud. Roedd yn dipyn o dasg i wneud i'r aradr droi y cwysi'n gywir. Mae gwraig yn galw heibio'r drws i godi heyrn tân y bu'n eu gwneud . .. roeddynt yn cynnwys prociwr, gefeiliau, rhaw dân a dwy gleten ar gyfer ei blwch haearn. Roedd y gefeiliau yn waith cain oedd oddeutu dwy lathen o hyd gyda cholfach anghyffredin ar y cymal rhwng y ddwy goes. Roedd yn enwog am ei ddawn wrth wneud y rhain, ac roedd cryn alw amdanynt fel anrhegion priodas. Mae'n cymryd egwyl arall am ei de gan gofleidio ei annwyl Kitty. Wedi hynny, mae'n gwneud ychydig o waith o amgylch y ty a'r ardd cyn mynd yn ôl i'r efail. Erbyn hyn, mae'n amser gwneud pedolau i geffylau y mae'n disgwyl eu pedoli yn ystod yr ychydig ddyddiau nesaf. Tua 7.30, cyrhaedda ychydig o ddynion, fel y gallant gael ychydig o fanion wedi'u gwneud ar frys ar gyfer y diwrnod nesaf. Mae gan un dyn gwlltwr i'w baratoi. Cyllell fawr yw hon sy'n cael ei gosod ar yr aradr er mwyn torri'r tir o flaen y swch aradr fel y gellir ffurfio'r cwys. Roedd hyn yn dasg drom ac roedd gofyn cael cymorth Curwr, dyn sy'n defnyddio gordd i wastadu'r haearn. Roedd bechgyn y ffermydd yn mwynhau hyn er mwyn cael arddangos eu nerth, ond nid oedd pob un yn gallu defnyddio'r ordd yn gywir. Byddai hyn yn gwylltio Morgan a byddai'n rhaid iddynt drosglwyddo'r ordd i gurwr mwy profiadol. Wedi hynny, mae Morgan yn mynd i'r ty am swper, ond nid yw'r cyfan wedi'i wneud. Mae mwy o bobl yn galw heibio gyda gwaith am yfory. Nid yw diwrnod Morgan drosodd eto - mae'n newid ei ddillad ac yn ymolchi i gael gwared â'r parddu a chwys ar ei gorff. Bydd yn mynd allan wedyn i harneisio'r ferlen cyn ei marchogaeth i Lanfair-ym-Muallt i ymarfer gyda Chôr Meibion Llew Buallt am 10pm. Maent yn mynd i gystadlu yn yr Eisteddfod Genedlaethol yng Ngogledd Cymru - digwyddiad y buont yn fuddugoliaethus ynddi, Mae'r daith i Lanfair-ym-Muallt ac yn ôl tua 16 milltir ac mae'n cyrraedd adref oddeutu 2am. Diwrnod llawn yn ôl unrhyw safonau. Toiling, rejoicing, sorrowing, Thanks, thanks to thee, my worthy friend, Longfellow Cyfrannwr: Ellis Mathias |
¦ Mynegai ¦ Hafan ¦ Addysg ¦ Amodau Cymdeithasol ¦ Bywyd yn y Cartref ¦ Cyfraith a Threfin ¦ ¦ Cymuned ¦ Diwylliant ¦ Gofal Iechyd ¦ Gwaith ¦ Powys: Y Pryd Hynny a Nawr Trafnidiaeth ¦ ¦ Am y Prosiect ¦ Partneriaid ¦ Ffynonellau & Cydnabyddiaeth ¦ Llinell Amser - 1891 ¦ Llinell Amser - 2002 ¦ |
|