Gwaith
Ffermwr John Stephens: Elw
Mae mantolen John ar gyfer 1897 yn dangos ei fod yn gwneud y mwyafrif o'i arian ar y fferm. Dim ond £53.14/- a gafodd o werthu cnydau, lle'r oedd gwerthu defaid wedi arwain at £84.15. Elw bychan iawn oedd hyn o'i gymharu â gwerthu gwartheg am £195.15/-. Dim ond £30 a gafwyd am werthu ty.
Credyd anarferol ar ei fantolen, nad yw'n cael ei adlewyrchu ar fantolenni diweddar, yw'r credyd hwnnw sy'n ymwneud ag yswiriant sef £501.13/- a oedd yn swm enfawr ar y pryd. Efallai bod hyn yn ymwneud â marwolaeth tad John, gan fod y rhan colledion ar ei fantolen yn dangos iddo dalu £50.4/- mewn costau angladd yn ystod y flwyddyn honno.
Yn ogystal, talodd John swm mawr o arian i ad-dalu dyled y flwyddyn hon, oedd yn rhywbeth na ddigwyddodd eto mewn cyfrifon diweddarach. Yn amlwg, nid oedd yn ddyn oedd yn credu mewn benthyca arian, ac efallai mai ei benderfyniad i dalu ei ddyledion a'i hysgogodd i werthu ei stoc llywodraeth (consolau).
Lwyddodd, er hynny, i ddiweddu'r
flwyddyn gydag elw o £26.19.6/-, er bod ei gyfrifon am y ddwy flynedd
ganlynol yn dangos diffyg.
