|
Gwaith
Ffermwr
John Stephens: Gweithwyr
fferm
Roedd y gweithwyr a gyflogai John
ar y fferm yn tueddu o fynd a dod, gyda rhai o'r staff yn rhai achlysurol
i helpu gyda'r cynhaeaf. Er nad yw'r llyfr poced yn rhoi manylion am y
rôl y byddai pob gwas yn ei gyflawni, roedd John Williams yn amlwg
yn weithiwr medrus o ryw fath, gan fynnu £41 y flwyddyn mewn cyflog,
oedd yn swm sylweddol gan godi i £41.10/- yn 1903 cyn i John Robinson
ddod yn ei le.
Yn ddigon rhyfedd, nid oes sôn
am gyflog Evaneline Jones, y wraig cadw ty.
|
Cneifwyr yn Stad Rhydoldog,
Cwm Elan
Amgueddfa Sir Faesyfed |