Powys: Diwrnod Ym Mywyd

1891

In English

Hafan

Addysg

Amodau Cymdeithasol

Bywyd yn y Cartref

Cyfraith a Threfu

Cymuned

Diwylliant

Gofal Iechyd

Gwaith

Powys: Y Pryd Hynny a Nawr

Trafnidiaeth


Mynegai


E-bost




Gwaith

Melinau Yd Dwr yn Sir Faesyfed

Howey Mill
Melin Howey
Amgueddfa Sir Faesyfed

Roedd gan Sir fechan Maesyfed dros saithdeg o felinau yd dwr yn gweithio yn rhan gyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Erbyn 1891 dim ond 39 o felinau oedd yn dal i weithio a byddai'r nifer yn gostwng yn raddol nes mai dim ond rhyw ddwsin oedd yn dal i weithio erbyn yr 1930au.

Roedd y rhan fwyaf o'r melinau yd yn eithaf bach ac yn gweithio dim ond dau set o feini melin - un set ar gyfer malu blawd i'w fwyta gan bobl ac un set ar gyfer bwyd anifeiliaid.

Nid oes gennyf un stori am unrhyw felin arbennig yn 1891 ond trwy ddefnyddio gwahanol ffynonellau gallaf roi syniad o fywyd melinydd yn hwyr yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Roedd rhai melinwyr yn gweithio ar eu pen eu hunain ac eraill yn cyflogi mab neu felinydd jermon i'w cynorthwyo. Gallai rhai oedd â digon o fasnach gael labrwr a/neu was a allai fod yn brentis yn ddiweddarach.

Donkey led by boy.  Illus. by Rob Davies

Byddai ffermwyr yn mynd â'u sachau o yd i'r felin gan ddefnyddio eu certi. Os mai ond ychydig oedd ganddynt i'w falu byddent yn aros nes ei fod wedi'i falu ac efallai byddent yn cael cynnig cwrw tra byddent yn disgwyl. Roedd gan y Felin Newydd yn Llanandras asyn a fyddai'n gallu cludo 2 1/2 bwyseli o flawd - wedi eu rhoi bob ochr i'w gefn ar gyfer eu dosbarthu. Byddai'r melinydd yn y Felin Newydd yn malu yd "gooding" (wedi'i ynganu fel 'food' yn y Saesneg) yn rhad ac am ddim, i weddwon a phobl dlawd a oedd wedi'i gasglu drwy lloffa yn y cae.

Gleaning.  Illus. by Rob Davies

Yn ôl pob tebyg, roedd yr hafau'n sychach y pryd hynny. Ni allai rhai melinau weithio pan yr oedd yna sychder felly gwnaed y rhan fwyaf o'u gwaith yn ystod misoedd yr hydref a'r gaeaf. Efallai oherwydd hyn roedd gan y rhan fwyaf o felinau ychydig o dir - 4 - 10 acer gan fwyaf - tir pori a dolydd lle gallai'r melinydd gadw anifeiliaid fel incwm ychwanegol. Ychydig cyn yr 1890au roedd y melinydd yn Bleddfa yn cadw Tafarn Hundred House yn ogystal â rhedeg y felin. Yr un oedd y stori yn Bochrwyd lle'r oedd ceidwad Gwesty'r Boat hefyd yn felinydd, ond erbyn 1895 roedd y melinydd yna yn werthwr glo ac nid yn geidwad gwesty.

Cold winter night in the kiln.  Illus. by Rob Davies

Summers seem to have been drier then. Some mills could not work in drought conditions so most of their work was done in the autumn and winter months. Perhaps because of this most mills had a small amount of land - 4 to 10 acres usually - down to pasture and meadow so the miller could keep animals as an additional income. One finds that just before the 1890's the miller at Bleddfa kept the Hundred House Inn as well as running the mill. The same was true at Boughrood where the keeper of the Boat Inn was also the miller, but by 1895 the miller there was also a coal merchant and not an inn keeper.

Roedd Thomas Davies y "melinydd" ym Melin Caerfagu, Nantmel yn 1881 yn disgrifio'i hun yng Nghyfrifiad 1891 fel "ffermwr". Roedd yn byw yn y felin gyda'i wraig a'i ddau o blant ynghyd â Dennis Cheese oedd yn 64 mlwydd oed, a ddisgrifiwyd fel "melinydd cyffredinol". Mae'n ymddangos bod Thomas erbyn hyn yn canolbwyntio ar y 10.7 acer a oedd gyda'r felin a ddisgrifiwyd mewn rhybudd arwerthiant fel "tir pori gwych gyda chyflenwad da o ddwr".

Mae'n amlwg bod yn rhaid i felinwyr gael incwm ychwanegol. Roedd gan Thomas Rowlands, y melinydd yn Felin Argoed, Nantmel yn 1891 haearn arall yn y tân. Disgrifir y felin yn y Cyfrifiad o'r flwyddyn honno fel "Siop groser a Melin Yd". Erbyn 1901 mae Cyfeirlyfr Kelly yn nodi mai Mrs Ann Evans sy'n rhedeg y busnes groser a "swyddfa bost" - felly roedd is-swyddfa bost wedi'i ychwanegu at weithgareddau'r felin. Roedd y felin yn rhan o Ystad Doldowlod a dim ond tenant oedd y melinydd.

Ambell waith y melinwyr oedd yn berchen eu melinau ond roedd llawer ohonynt yn felinwyr tenant neu yn gweithio ar ystadau melinau neu ffermydd mawr oedd yn berchen y melinau. Gyrrwyd llawer o felinau gwledig allan o fusnes wrth i felinau mawr wedi'u gyrru gan stem gael eu sefydlu yn Lerpwl a'r dociau mawr eraill gan gwmnïau fel Joseph Rank & Co, Henry Leetham & Co a'r CWS i gynhyrchu blawd rhad ar gyfer y boblogaeth drefol a oedd yn tyfu'n gyflym yn rhan olaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Roedd y cwmnïau mawr hyn yn defnyddio yd o Ogledd America ac Awstralia a chyfrannodd hyn at y dirwasgiad amaethyddol ym Mhrydain yn ystod y cyfnod hwn gan ychwanegu at broblemau melinwyr cefn gwlad.

Monaughty Mill, Bleddfa
Monaughty Mill, Bleddfa

The millers sometimes owned their mill but many were tenant millers or worked for estate mills or the mills belonging to large farms. The setting up of large steam driven mills at Liverpool and the other great docks by such companies as Joseph Rank & Co., Henry Leetham & Co and the CWS to produce cheap flour for the rapidly growing urban population in the latter part of the 19th century was driving many rural mills out of business. These large companies were using grain from North America and Australia and contributed to the agricultural depression in Britain at this time and added to the problems of the rural millers.

Cyfraniad gan Geoff Ridyard Cymdeithas Sir Faesyfed

Ffynonellau:

Cyfrifiad 1841, 1881 a 1891
Mapiau a Rhoddion y Degwm, amrywiol, tua 1840
W H Howse, MS notebooks
Deunydd Archifau Swyddfa Cofnodion Cyngor Sir Powys, amrywiol.



¦ Mynegai ¦ Hafan ¦ Addysg ¦ Amodau Cymdeithasol ¦ Bywyd yn y Cartref ¦ Cyfraith a Threfin ¦
¦ Cymuned ¦ Diwylliant ¦ Gofal Iechyd ¦ Gwaith ¦ Powys: Y Pryd Hynny a Nawr Trafnidiaeth ¦
¦ Am y Prosiect ¦ Partneriaid ¦ Ffynonellau & Cydnabyddiaeth ¦ Llinell Amser - 1891 ¦ Llinell Amser - 2002 ¦