Powys: Diwrnod Ym Mywyd

1891

In English

Hafan

Addysg

Amodau Cymdeithasol

Bywyd yn y Cartref

Cyfraith a Threfu

Cymuned

Diwylliant

Gofal Iechyd

Gwaith

Powys: Y Pryd Hynny a Nawr

Trafnidiaeth


Mynegai


E-bost




A Village Postman
A village postman in 1891
Casgliadau Sadie Cole

"The village postman with his key unlocks
What seems to common eyes a letter-box . . .
But 'tis a treasure-trove of hopes and fears,
Of truths and joys and sweethearts' smiles
     and tears."

Gwaith

Gwaith Postman Gwledig yn 1891

Yn 1891, roedd Swyddfa Bost Llanandras yn Broad Street, ac Ernest Jones oedd yr Is-bostfeistr. Roedd ef hefyd yn argraffydd, yn gwerthu deunyddiau ysgrifennu ac yn cofnodi genedigaethau. Roedd ganddo dau glerc i'w helpu yn y Swyddfa Bost sef Hannah Culley (neu Colley) o Chapel Terrace ac Emma Jones o High Street. Roedd tad Emma yn bostman y dref. Yn ogystal, roedd yna dri phostman gwledig - Herbert Williams, John Lewis a James Young.

Tref farchnad oedd Llanandras yn gwasanaethu nifer o bentrefi llai, amryw o gymunedau bychain ynysig a ffermydd gwasgaredig. Roedd yn ganolfan dosbarthu post ar gyfer ardal helaeth dwyrain Sir Faesyfed a rhan o Swydd Henffordd. Mae'n rhaid cofio nad pob cartref oedd â hawl i gael llythyrau wedi'u dosbarthu iddynt yn 1891; roedd y Swyddfa Bost Gyffredinol wedi bod yn sôn am gynnig y gwasanaeth hwn am bron 50 mlynedd ychydig ar ôl dyfodiad y Post Ceiniog Unffurf yn 1840. Serch hynny, erbyn 1891 roedd y gwasanaeth dosbarthu llythyrau rhad ac am ddim bron yn gyflawn, diolch i waith postmyn gwledig. Yn 1898, roedd y gwasanaeth yn gyflawn o'r diwedd. I gael eich llythyrau wedi'u dosbarthu'n rhad ac am ddim, roedd rhaid i aneddleoedd fod o fewn 70 llath i lwybr swyddogol y postman; mae'n sefyll i reswm felly na fyddai ffermydd a thyddynnod anghysbell mewn ardal megis Sir Faesyfed wedi derbyn y gwasanaeth.

Why Send Away . . . for PRINTING ORDERS?
Advert for E H Jones from
Presteigne Parish Magazine, 1893
Casgliadau Sadie Cole

(Roedd Anthony Trollope, sy'n enwocach fel nofelydd, wedi chwarae rhan allweddol wrth osod seiliau nifer o ffyrdd dosbarthu gwledig wrth iddo weithio fel Syrfëwr ar gyfer Swyddfa'r Post. Hefyd, roedd yn gyfrifol am gyflwyno blychau post ar ochr y ffyrdd i hwyluso casglu llythyrau.)

Erbyn 1891, roedd nifer o Is-swyddfeydd Post bychain wedi agor mewn pentrefi bychain, gan weithio ochr yn ochr â'r swyddfeydd post mwy o fewn y trefi. Roedd tair is-swyddfa bost i Lanandras ar y pryd, pob un gyda'i is-Bostfeistr ei hunan - un yn Nortyn gydag Amos Mantle yn gyfrifol, un arall yn Combe lle'r oedd Annie Lucas yn rheoli a'r drydedd yn Byton. Byddai llythyrau a pharseli'n cael eu gadael yn y swyddfeydd hyn i'w casglu gan bobl nad oedd eu tai ar lwybr y postman (mae llwybr dosbarthu yn derm sy'n cael ei ddefnyddio o hyd gan bostmyn heddiw). Byddai llythyrau a pharseli'n cael eu gadael hefyd i'r postman gludo i'r brif swyddfa.

Gydag ychydig bach o ddychymyg, gallwn ddilyn un o bostmyn gwledig Llanandras trwy gydol ei ddydd.

Byddai'n cyrraedd yn gynnar iawn yn Swyddfa'r Post; un o reolau ei waith oedd y dylai fyw yn y dref lle'r oedd yn gweithio. Cyn mynd ar ei daith, byddai'n didoli'r post a ddosbarthwyd gyda cheffyl a chert o Lanllieni (Leominster) yn bentwr ar gyfer pob postman ac is-swyddfa. Pan gwnaed hyn, byddai'n didoli ei lythyrau a'i barseli ei hunan er mwyn eu dosbarthu. Mae hyn dal yn cael ei alw'n 'facing the letters.' Yna, byddai'n edrych i weld a oedd unrhyw lythyrau neu barseli cofrestredig i'w dosbarthu, ac yn arwyddo i ddweud ei fod yn cymryd cyfrifoldeb am unrhyw bost cofrestredig a bod ganddo'r gwaith papur cywir ar eu cyfer.

Yn ogystal â dosbarthu llythyrau a pharseli, roedd yn rhaid iddo eu casglu o dai ac is-swyddfeydd. Roedd hefyd yn gwerthu stampiau ac yn derbyn post cofrestredig. Er mwyn gallu cyflawni'r dyletswyddau hyn yn iawn, rhoddwyd cwdyn lledr i bob postman yn cynnwys nifer o eitemau swyddogol:

  • Gwerth pum swllt o stampiau. Gan ei fod ond yn costio 1 dimai i bostio llythyr a ½d am gerdyn post byddai, o bosibl, yn cludo 40 x 1d and 40 x stampiau ½. Bob diwrnod, byddai'n rhaid iddo edrych i weld os oes ganddo'r nifer yma o stampiau, gan gynnwys
  • Yr holl ffurflenni oedd eu hangen i gofrestru llythyrau a pharseli;
  • Tap mesur a chlorian â sbring i fesur a phwyso parseli.

Ni fedrai unrhyw barsel fod yn fwy na 3 troedfedd 6 modfedd o hyd a 2 troedfedd 6 modfedd o gylchedd. Ni fyddai'n rhaid iddo chwaith dderbyn parseli yn pwyso mwy na 11 pwys gan unrhyw un, neu os oedd ganddo ormod o lwyth. Yn ogystal â'r rhain, roedd ganddo chwiban i'w chwythu fel y doi'n agos at unrhyw grwp o dai i rybuddio ei fod yn cyrraedd fel y gallai unrhyw un a llythyr i'w gasglu ddod ag ef iddo.

Weight of waterproof capes
Weight of Waterproof Capes To Be Included In
The Weight Carried By Rural Postmen
Post Office Circular to Surveyors, 1891
Casgliadau Sadie Cole

Presteigne Duplex Obliterator
Cerdyn post a
Dilëydd Deublyg 'Duplex'
Casgliadau Sadie Cole

Pan fyddai'n gadael Swyddfa Bost Llanandras, nid oedd disgwyl iddo gludo mwy na 35 pwys ond byddai'n cludo mwy na hyn yn aml iawn. Pan gyflwynwyd math newydd o glogyn i ddal dwr yn 1891, roedd rhaid cynnwys pwysau'r clogynnau hyn yn y 35 pwys.

Nid ydym yn gwybod pa lwybr yn union yr oedd y postman gwledig yn ei gymryd ond rydym yn gwybod mai'r pellter cyfartalog ar gyfer cylchdaith oedd 16 milltir. Gan fod Syrfewyr Swyddfa Bost yn awyddus i gynnwys cymaint o bobl â phosibl yn y dosbarthiad, byddai'r ffordd yn cael ei dewis yn ofalus ar gyfer y pellter lleiaf rhwng pentrefi. Byddai hyn yn aml yn golygu bod y postman yn gorfod teithio ar hyd caeau a chamfeydd. Dechreuodd nifer o'n llwybrau troed cyhoeddus heddiw fel llwybrau dosbarthu'r postmyn. Rydym yn gwybod bod rhaid cadw at amserlen lem ac efallai mai ein postman ni fyddai'r un fyddai'n dosbarthu gyntaf i Stapleton. Roedd rhaid iddo fod yno erbyn 8 a.m. O Stapleton, byddai'n mynd i Combe, gan ddosbarthu i bob ty o fewn terfyn 70 llath fel yr oedd yn cerdded. Efallai y byddai'n rhaid iddo weithiau groesi caeau a dringo camfeydd. Roedd rhaid iddo gyrraedd Is-swyddfa Combe am 9 a.m. Yma, roedd yn dosbarthu unrhyw gyflenwadau yr oedd Annie Lucas eu hangen, ac yn gadael llythyrau a pharseli er mwyn i bobl nad oedd yn rhy bell o'i lwybr eu casglu. Erbyn 10 a.m., roedd rhaid iddo fod yn Byton ac wedyn byddai'r llwybr yn mynd ag ef i Kinsham a Willey. Byddai ei daith yn dod i ben o bosibl yn Boresford lle'r oedd cysgodfan fechan y gallai aros ynddi tan yr amser i ddychwelyd i Lanandras, gan gasglu llythyrau o flychau llythyrau ar ochr y ffordd wrth iddo fynd. Roedd rhaid gwagio'r blychau hyn ar adegau penodol: Byton 4.45 p.m., Combe 5.30 p.m. a Stapleton 6.15 p.m. Wedi gwneud hyn, byddai'n dychwelyd i Swyddfa Bost Llanandras lle'r oedd yn dosbarthu'r post a gasglwyd i'w didoli yn llythyrau lleol a chenedlaethol. Byddai post lleol yn cael ei ddosbarthu'r diwrnod canlynol; roedd y post oedd i fynd ymhellach yn cael eu cludo i Lanllieni lle gosodwyd hwy ar y trên i Gaerwrangon a Birmingham i'w didoli'n genedlaethol.

News from Abroad
Casgliadau Sadie Cole

Roedd y cerdyn post hwn dyddiedig 17 Rhagfyr 1891 wedi'i adael yn Is-swyddfa Nortyn i'w gasglu gan y postman gwledig ar ei daith. Rhoddwyd stamp dyddiad Nortyn iddo i ddangos pryd y cafodd ei dderbyn. Aethpwyd ag ef i Swyddfa Bost Llanandras lle cafodd y stamp ei ddileu gyda Dilëydd Deublyg 'Duplex' Llanandras. Roedd hyn yn sicrhau na ellid defnyddio'r stamp eto ac yn brawf o bryd a lle yr aeth y cerdyn post i mewn i'r System Post Brenhinol. Gelwir y math yma o stamp llaw yn Stamp Deublyg ('Duplex') oherwydd bod un rhan yn dangos enw'r dref a dyddiad postio a'r rhan arall yn dangos rhif Swyddfa Bost y dref honno - Llanandras 627.

Roedd bywyd y postman gwledig yn galed iawn yn 1891: roedd yn gweithio oriau hirion, saith niwrnod yr wythnos am gyflog o 16/- yr wythnos. Os oedd ei lwybr yn fwy na 14 milltir y dydd, roedd hawl ganddo i gael bob yn ail ddydd Sul i ffwrdd. O leiaf nid oedd rhaid cludo unrhyw barseli ar ddydd Sul. Roedd ychydig bryder bod y dyletswydd hon ar ddydd Sul yn rhwystro postmyn rhag mynychu gwasanaethau'r Eglwys.

Cyn iddo gael ei benodi, roedd rhaid i bostman gwledig gytuno i 57 rheol oedd yn nodi ei ddyletswyddau a'i ymddygiad a'u harwyddo. Roeddynt yn cynnwys rheolau megis:

"Not to carry parcels by their string . . ."
"No calling 'by' while working . . ."
"No smoking on duty . . ."
"No lobbying about pay and conditions to the public . . ."
"Not to be connected directly or indirectly to the ownership or management of a public house . . ."
"He is forbidden to agitate for the discontinuance of a Sunday delivery."
"He must live where he starts his walk."
"Uniform to be worn at all times when on duty."

Pei gwelid yn torri unrhyw un o'r rheolau hyn, byddai'n gallu arwain at ddirwy neu golli swydd hyd yn oed. Roedd cyrraedd yn hwyr neu heb het neu dei yn rhesymau cyffredin dros gael dirwy. Byddai cael eich canfod yn feddw ar ddyletswydd yn arwain at golli eich swydd ar unwaith.

Byddai'n cael pythefnos o wyliau'r flwyddyn, ond roedd hyn yn rhywbeth diweddar. Yn 1881, pan gyflwynwyd deiseb gan bostmyn Caerlyr i'r Postfeistr Cyffredinol yn gofyn am gael gwyliau blynyddol, ei sylwadau oedd:-"that their work is performed in more healthful conditions than that of Letter Carriers in populous towns . . . that they have advantage of relief or partial relief from Sunday duty." Gwrthodwyd eu deiseb.

Felly, mae gennym ddarlun o'r postman gwledig yn cludo ei lwyth trwm saith niwrnod yr wythnos, ar hyd 16 milltir o lwybrau a chaeau, gan ddringo camfeydd a chau gatiau ar ei ffordd. Gwnaed y cyfan mewn unrhyw dywydd am oddeutu 16/- yr wythnos.

Sadie Cole
April 2002



¦ Mynegai ¦ Hafan ¦ Addysg ¦ Amodau Cymdeithasol ¦ Bywyd yn y Cartref ¦ Cyfraith a Threfin ¦
¦ Cymuned ¦ Diwylliant ¦ Gofal Iechyd ¦ Gwaith ¦ Powys: Y Pryd Hynny a Nawr Trafnidiaeth ¦
¦ Am y Prosiect ¦ Partneriaid ¦ Ffynonellau & Cydnabyddiaeth ¦ Llinell Amser - 1891 ¦ Llinell Amser - 2002 ¦