Gwaith
Busnesau bychain yn Broad Street
Cliciwch ar y ddelwedd
am fwy o fanylion am bobl oedd yn rhedeg y busnesau hyn. |
Roedd y siopau a busnesau bychain oedd yn llenwi'r mwyafrif o Broad Street yn 1891 yn niferus ac amrywiol, fel y gellid ei ddisgwyl o dref fawr yng nghanolbarth Cymru. Os rhywbeth, roedd yn adlewyrchu llewyrch Y Drenewydd yn ystod y cyfnod, gyda dewis o adwerthwyr gwahanol - y siopau mwyaf sylfaenol megis y gwerthwr llysiau ochr yn ochr â siopau arbenigol megis stiwdios ffotograffwyr. Mae'r graff isod yn dangos y gwahanol fathau o siopau oedd yn bodoli yn Broad Street ar y pryd: Yn ogystal ag amrywiol siopau, roedd yna Swyddfa Post. |