Gwaith
Diwrnod Ym Mywyd: Cyfieithydd
![]() |
| Ysgol Dafydd Llwyd |
![]() |
Codais y bore yma gan droir teledu ymlaen i glywed newyddion y dydd. Wedi gwisgo cefais Ready Brek yn sydyn a dechreuais ar fy ngwaith am y dydd. Nid oeddwn yn mynd i Landrindod yn y car heddiw gan fy mod yn mynd i Ysgol Dafydd Llwyd i wneud cyfweliad ar y teledu drwy gyfrwng y Gymraeg am y Prosiect Diwrnod ym Mywyd. Cyn mynd, bues yn gweithio ar y cyfrifiadur glinfwrdd yn cyfieithu dogfen ir Gymraeg - rhywbeth a dybiais na fyddain digwydd yn aml yn 1891 ac yn enwedig ar gyfrifiadur! Cyrhaeddais Ysgol Dafydd Llwyd am tua 10 y bore ac roedd y lle yn llawn bwrlwm a gweithgaredd. Roeddwn yn teimlon reit nerfus am wneud y cyfweliad ond fe aeth popeth yn iawn. Fe fwynheais i weld y plant yn eu gwisgoedd. Ar ôl ffarwelio âr tim a Iolo WIlliams, es i weithio ir Trallwng. Yn ystod fy amser cinio, es i ir Siop Flodau i drefnu fy mlodau ar gyfer fy mhriodas ar y 5ed o Hydref. Yn y prynhawn, bues i wrthin brysur yn cyfieithu ar y cyfrifiadur. Pan gyrhaeddais i adre, cefais fy swper a gwyliais newyddion S4C am 7.30. Dyna ller oeddwn ar y teledu gyda John Meredydd yn fy nghyfweld. Roeddwn in meddwl bod y Prosiect Diwrnod ym Mywyd wedi cael sylw da yn y wasg ac roeddwn yn falch, er nad oeddwn yn hoffi gweld fy hunan ar y teledu o gwbl! Wedi hynny, es i wneud mwy o drefniadau ar gyfer fy mhriodas, ambell i alwad ffôn ac ati, cyn troi am y gwely wedi blinon lân ar ôl diwrnod eitha prysur a chofiadwy fel seren deledu!! (dim mewn gwirionedd!!) a chyfieithydd.