|
Erbyn 1891, roedd gwahanol gwmnïoedd
rheilffordd yn aml yn cystadlu gyda'u gilydd am fusnes, yn enwedig ar
deithiau poblogaidd. Arweiniodd hyn at welliant mewn safonau ar y trenau.
Cyflwynwyd y Cerbydau Pullmann moethus gyntaf yn y 1870au ar gyfer teithwyr
dosbarth cyntaf. Aeth yr hen gerbydau dosbarth cyntaf wedyn yn gerbydau
ail ddosbarth. Doedd hyd yn oed y mwyafrif llethol o deithwyr trydydd
dosbarth ddim yn teithio mewn cerbydau agored -- fel yr oedden nhw yn
nyddiau cynnar y rheilffordd! Cafwyd rheolau a oedd yn pennu fod peth
darpariaeth ar gyfer teithwyr trydydd dosbarth a sefydlwyd prisiau gan
y Senedd.
Roedd trenau hefyd yn mynd yn gynt
ac yn gynt gyda rhai trenau yn cyrraedd cyflymder o bron 100 milltir yr
awr. Fodd bynnag, nid oedd fawr o ofal am ddiogelwch a chafodd llawer
eu lladd mewn damweiniau. Bu gwelliant graddol
mewn arwyddion a gorfododd y Ddeddf Rheoleiddio'r Rheilffyrdd 1889 gwmnïoedd
i gyflwyno breciau awtomatig parhaus.
Nododd H R Sandbach o Sir Drefaldwyn
yn ei ddyddiadur ym 1891 y profiad newydd o fynd drwy Dwnnel Hafren ar
ei ffordd i Dde Orllewin Lloegr.
|