|
Diwylliant
1af Ionawr
Cynhaliwyd y 9fed Eisteddfod flynyddol yn Neuadd Fictoria, Llanwrtyd,
gyda'r Capten Penry Lloyd yn llywyddu.
"In the course of his introduction he referred to the movement to
establish Intermediate Educational Schools in Wales, as the means to combat
with the English and Scotch speaking peoples in the various aspects of
life."
Brecon & Radnor Express.
16eg Ionawr
Cynhaliwyd Cystadleuthau Sglefrio ym Mhwll 'Newton' ( Yr Afon Wysg), Aberhonddu.
Rhoddwyd £10 mewn Gwobrau ac arian.
Brecon & Radnor Express.
Celfyddyd a Diwylliant. "Cymru" wedi'i gyhoeddi.
Roedd cylchgrawn misol "Cymru" yn cynnwys erthyglau ar hanes,
llenyddiaeth a diwylliant Cymru.
Mawrth
Madam Patti, Y Difa Operatig yn derbyn £30,000 am ugain perfformiad
operatig yn Rio-de-Janeiro.
Brecon & Radnor Express.
Castell Craig y Nos yn agor, 12 Gorffennaf 1891 - cartref
Madam Adelina Patti, y gantores opera enwog.
"Buffalo Bill's "Wild West" show has just
been stationed at Cardiff; 200,000 people visited the show in one week."
Mont. Express & Radnor Times, 6.10.91
Digwyddiadau
Deddf Llywodraeth Leol yn 1888, a greodd cynghorau sir a threfi mawrion
fel seddi sirol gan ddatganoli grym.
5ed Ionawr
Isabella a Charlotte Beddoes, o'r Gelli yn cael eu dirwyo 7d. gan gynnwys
costau, am gardota yn Aberhonddu. Y dewis arall oedd carchar am 7 niwrnod.
Cwestiynwyd y P.C. John Powell a'r P. S. Stephen Davies.
28ain Chwefror
Neuadd y Sir, Aberhonddu yn diddymu gorchmynion a chyfyngiadau ar gyfer
Twymyn y Moch yn yr ardaloedd canlynol:- Pontsarn , Gwestai Aberglas a
Fferm Penkelly Fawr ym Mhlwyf Vaynor, Aberhonddu.
Brecon & Radnor Express.
23ain Ionawr
Cyfarfod y Ceidwadwyr i drafod Ymreolaeth i Iwerddon. Neuadd Victoria
Hall, Llanwrtyd.
Brecon & Radnor Express.
6ed Mawrth
Rhingyll E Nilson (Cyffinwyr De Cymru) oedd yn enwog am frwydr 'Roukes
drift', yn marw yn Ysbyty Cambridge, Aldershot.
Brecon & Radnor Express.
29ain Mawrth
Cychwynnodd tân mewn adeilad allanol yn Lower Pentre Farm, Llanbister
Road, sef eiddo'r Arglwydd Ormathwaite.
Llwyddodd nifer o geffylau a gwartheg i ddianc gydag anhawster mawr ac
roedd llawer o wartheg wedi'u llosgi'n ddifrifol. Mr Morgan a welodd y
tân gyntaf ond ni ellid achub yr adeilad a chafodd ei losgi'n ulw
o fewn 10 munud.
Brecon & Radnor Express.
22ain Ebrill
Cyhoeddiad Ffair Calan Mai ar gyfer cyflogi gweision yn y Guild hall,
Aberhonddu. 10 am - 6pm.
Brecon & Radnor Express.
Mehefin
Cadarnhau Maniffesto Pwyllgor Ymgyrch Datgysylltu Eglwys Cymru. ''It points
out to Welsh people religious equality is truly a national question. Shows
how Church establishment has brought religion into disrepute by plotting
for the destruction of other Churches and claims that supporters of establishment
have employed Church machinery for the purpose of all that is distinctive
in Welsh nationality.''
Brecon & Radnor Express.
Ebrill 5: Y Chweched Cyfrifiad Prydeinig llawn
12fed Mehefin
Mr Edwards o Gwmquarry ger Llanddewi yn cael ei daro i lawr yng ngorsaf
Dolau gan ei wagen lle aeth yr olwynion dros ei glun a'i goes. Cafodd
ei wasgu'n ddifrifol.
Brecon & Radnor Express
Addysg gynradd yn rhad ac am ddim ac yn orfodol.
12fed Mehefin
Cyflwynwyd dyfarniad o farwolaeth ddamweiniol gan grwner gorllewin Sir
Faesyfed yn The Severn Arms, Penybont, wedi damwain angheuol yn Dalau
a wnaeth adael un gwr yn farw ac un arall wedi'i anafu'n ddifrifol. Cafodd
coeden ei thorri lawr gan daro dau ddyn na lwyddodd i rhedeg yn glir ohoni.
Bu farw John Francis o Rose Cottage, o'i anafiadau'n ddiweddarach ac anafwyd
Benjamin Devonport yn ddifrifol.
Brecon & Radnor Express
Awst
Yr Athro Shipley yn ymdrechu i fynd fyny mewn balwn yn sioe geffylau'r
Gelli Gandryll. Methiant fu ei ymgais pan gododd y balwn 4 llath mewn
uchder a throi drosodd wrth i'r nwy ddianc ohoni. Clymodd rhaff lac o
amgylch gwddf Mr Shipley am gyfnod byr cyn iddo lwyddo i ddatgysylltu
ei hunan. Brecon & Radnor Express
Medi -- Deddf Addysg Rhad ac am Ddim yn dod i rym
Mont. Express & Radnor Times, 1.9.91
Ymweliad aelodau Pwyllgor Dwr Cyngor Tref Rhaeadr, Cadeirydd
y Pwyllgor Gwaith Cyhoeddus, Clerc y Dref, Peiriannydd yr Adran Ddwr a
Swyddog Meddygol Iechyd. Aethant i weld Rhaeadr a Chwm Elan i weld y tir
y bwriadwyd adeiladu'r cronfeydd dwr arnynt. 24.2.91 Montgomeryshire Express
& Radnor Times
Diffyndollaeth America
Llywodraeth America yn pasio Toll McKinley i hyrwyddo diwydiannau, yn
enwedig gan fod tri chwarter o gynnyrch diwydiant tun Cymru wedi cael
eu mewnforio i'r Unol Daleithiau. Roedd pasio'r Doll yn ergyd drom i ddiwydiant
Cymru; ni lwyddodd rhai ardaloedd i adfer eu hunain yn llwyr o'i effeithiau.
"The efforts made by the officials of the Welsh
Tinplate Workers' Union to avert the enforced idleness for at least four
weeks of 25,000 operatives have proved unsuccessful. At the end of the
present week most of the tinplate works in the Principality will be closed."
Mont. Express & Radnor Times, 30.6.91
"Landslip on the Cambrian Railway. Trains delayed.
A Man Killed. On Monday evening, a landslip occurred at Talerddig Cutting,
which is a rocky district between Llanbrynmair and Carno railway stations."
Mont. Express & Radnor Times, 11.8.91
Llifogydd difrifol yn Sir Drefaldwyn. Mont. Express &
Radnor Times,
1.9.91"GREAT FIRE IN NEWTOWN. "Partial Destruction
of a Mill - Enormous Damage - Mill Hands Thrown out of Work - Grand Work
by the Fire Brigades."
Tân ym melin 'Jones, Evans & Co. Ltd.' yn Y
Drenewydd. Mont. Express & Radnor Times, 20.10.91
Hydref
Mr Frank Edwards yn mynd ar daith o amgylch y Siroedd mewn ymgais i gael
ei ethol fel yr Aelod Seneddol Rhyddfrydol ar gyfer Aberhonddu a Maesyfed.
Trafododd bolisïau'r Blaid Ryddfrydol megis Datgysylltu'r Eglwys,
Ymreolaeth i Iwerddon a Diwygio Ty'r Arglwyddi. Brecon & Radnor Express
Mwy o lifogydd yn Y Drenewydd. Mont. Express & Radnor
Times, 15.12.91
13eg Mawrth
Hen Bensiynwr Rhyfel, y Rhingyll Samual Warriner o Lanandras yn marw.
Bu'n bresennol ym mrwydr Waterloo ac yn Rhingyll ar staff Byddin Frenhinol
Reifflwyr Sir Faesyfed.
13.3.91 Brecon & Radnor Express
Adrodd ar farwolaeth J W Gibson-Watt Esq. o Ddoldowlod.
Bu farw ar 19.6.91 yn Brighton. Cafodd ei eni yn 4.8.31. Gor-wyr i James
Watt.
22.6.91
Marwolaeth Iarll Powis ar 12.5.91 Montgomery Express
& Radnor Times, hefyd yng nghofnodion Cyngor Sir Drefaldwyn.
27ain Tachwedd
Dywedodd Mrs Hamer o Church Street, Rhaeadr fod £44 mewn aur wedi
cael ei ddwyn o flwch yr oedd yn ei gadw dan ei gwely. Credwyd mai dau
grwydryn wnaeth aros y nos oedd wedi dwyn yr aur. Aeth y Rhingyll Jones
ar eu holau a llwyddodd i'w dal tua 19 milltir o Raeadr. Llwyddodd un
i ddianc. Serch hynny, wedi iddo archwilio un o'r dynion a arestiwyd,
daeth o hyd i £22, hanner o'r hyn a ladratwyd.
Brecon & Radnor Express.
|
Diwylliant
Syniad ar gyfer "Gemau'r Gymanwlad"
Deng mlynedd ar hugain cyn Gemau cyntaf y Gymanwlad, fe blanwyd hadau'r
gystadleuaeth fel yr ydym yn ei hadnabod heddiw gan glerigwr Saesneg o'r
enw Y Parch J Astley Cooper.
Mae'r arlunydd plant Kate Greenaway (45) yn cynnal arddangosfa
o'i gwaith gyda'r Gymdeithas Celfyddyd Gain yn 1891.
Genedigaeth Agathe Christie, yr awdur llyfrau dirgelwch
o Brydain.
Genedigaeth Stanley Spencer.
Fe wnaeth y cartwnydd David Low (1891-1963) groniclo
a gwneud sylwadau ar nifer o ddigwyddiadau mawr yr ugeinfed ganrif.
Chwefror 1891
Genedigaeth Ronald Coleman yn Surrey, Lloegr.
Awst 1891
Genedigaeth y Cyfansoddwr Authur Bliss.
Yn y byd llenyddol, cyhoeddwyd 'Tess of the d'Urbervilles',
nofel glasurol Thomas Hardy.
Cyhoeddwyd llyfr Oscar Wilde sef 'The Picture of Dorian
Gray'.
The Judge's House (Holly Leaves)' a 'The Snake's Pass':
gan Bram Stoker. 1891.
'Noughts and Crosses' 1891 gan Sir Authur Quiller-Couch.
Mae 'The Sherlock Holmes mysteries', gan Arthur Conan
Doyle, hefyd yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf.
Medi -- daw Deddf Addysg Rad ac am Ddim i rym. Mont.
Express & Radnor Times, 1.9.91
'In a Music Hall' gan John Davidson
'Poems by the Way' gan William Morris
Roedd Clwb y Rhigymwyr ('Rhymers Club') yn dod
at ei gilydd yn 'Cheshire Cheese' yn Fleet Street, Llundain, 1891-93,
gan gynnwys John Davidson, Ernest Dowson, W. B. Yeats, ac eraill.
'Lapsus Calami' a 'Quo Musa Tendis' gan James
Kenneth Stephen
Sefydlu "The Strand Magazine". Efallai mai
dyma'r cylchgrawn linoteip cyntaf rhad a gynhyrchwyd o fwydion coed. Y
dosbarth canol mawr oedd y gynulleidfa darged ar gyfer testunau ffuglen
a ffeithiol. Sicrhawyd llwyddiant y cylchgrawn pan gafwyd cytundeb ag
Arthur Conan Doyle am gyfres o storïau Sherlock Holmes.
Digwyddiadau
Roedd y Frenhines Victoria yn 72 mlwydd oed yn 1891. Roedd hi hefyd yn
Ymerodres India, teitl a roddwyd gan y Prif Weinidog Disraeli, trwy ddeddf
Seneddol yn 1877.
Yn 1891, roedd yr Ymerodraeth yn cynnwys oddeutu 10,500,000
milltir sgwâr. Roedd yn ymestyn o Ganol America, India'r Dwyrain,
Tsiena, India a rhannau mawrion o orllewin, dwyrain a de Affrica. Erbyn
1901, roedd yr Ymerodraeth wedi ehangu'n ymhellach i 1,908,378 milltir
sgwâr. Roedd cyfanswm ardal ymerodraeth Prydain, ei dibynwledydd
a phrotectoriaethau ar y pryd yn fwy nag un rhan o bump o arwynebedd tir
y byd.
Prif Weinidog 1891
Robert Arthur Talbot - Gascoyne-Cecil Salisbury. 3ydd Marcwis Salisbury.
1885-86, 1886-92, 1895-1901
Wedi i Disraeli farw yn 1881, daeth Sailsbury yn arweinydd y Ceidwadwyr
ac ym mis Mehefin 1885, daeth yn brif weinidog. Yn ystod ei ail lywodraeth,
cafodd Deddf Llywodraeth Leol ei phasio yn 1888, a greodd gynghorau sir
a threfi mawrion fel seddi sirol gan ddatganoli grym. Gwelwyd clymblaid
rhwng yr Undebwyr, Ceidwadwyr a Rhyddfrydwyr yn ystod ei drydydd Llywodraeth.
Roedd ei amser yn cael ei dreulio'n bennaf ar ail Ryfel y Böer (1899-1902).
Chwef.13eg 1891" Jack the Ripper"
Frances Coles oedd yr unigolyn olaf i gael ei lladd (11 ohonynt) i gyd
gan 'Jack the Ripper'. Nid oes gan Scotland Yard unrhyw wybodaeth o hyd
mewn gwirionedd ynglyn â phwy oedd y llofruddiwr a frawychodd slymiau
Llundain.
Joseph Chamberlain yn dod yn arweinydd yr Undebwyr Rhyddfrydol
yn Nhy'r Cyffredin. Mae'r Blaid Ryddfrydol yn cefnogi ymreolaeth i Iwerddon,
datgysylltu Eglwys Cymru, Seneddau tair blynedd a diwygio Ty'r Arglwyddi.
5ed Ebrill: Y chweched Cyfrifiad Prydeinig llawn
Addysg gynradd yn rhad ac am ddim ac yn orfodol
Deddf Iechyd Cyhoeddus (Llundain) yn ceisio rheoli mwg
o simneai ffactrïoedd yn y brif ddinas.
"The threatened strike in the Clyde shipbuilding
yards came into force on Tuesday, when 7,000 men, employed in six of the
yards, came out on strike as a protest against a 5 per cent. reduction."
Montgomeryshire Express & Radnor Times, 16.6.91
Streic Reilffordd Scotch. Ymosododd yr heddlu mewn picedi
ar derfysgoedd yn siedau peiriannau Greenock.
Adroddiad am farwolaethau yn Bradford o'r gynddaredd.
Mont. Express & Radnor Times, 18.8.91
Cytundeb Heddwch 1891, cyfeillgarwch a mordwyaeth rhwng
Prydain ac Oman.
Daeth heddwch o ganlyniad i weithgaredd y Llynges Frenhinol a wnaeth roi
cyfle i'r fasnach ffynnu, tra bu Byddin Prydain yn ceisio cynorthwyo arweinyddion
yr arfordiroedd rhag cael eu dymchwel gan lwythau'r mewndir. Cadarnhawyd
perthynas ffurfiol Prydain gydag arweinyddion Omani trwy gytundebau 'peace,
friendship and navigation' pellach a arwyddwyd yn 1891.
Diddordebau Prydeinig dan fygythiad o ganlyniad i Ryfel
Cartref Chili 1891
Roedd y gwrthryfel yn apelio i entrepreneuriaid Prydain a oedd yn pryderu
am fygythiad Balmaceda i amharu ar annibyniaeth a refeniw y gweithfeydd
nitrad oedd â pherchnogion tramor. Er nad oedd yn gwrthwynebu buddsoddiad
tramor, roedd Balmaceda wedi cynnig mwy o rôl i'r dalaith a threthi
uwch yn sector cloddio.
Hydref 1891
Bu farw Charles Stewart Parnell, arweinydd deinamig a charismataidd y
symudiad Ymreolaeth i Iwerddon, ym mis Hydref yn Brighton, wedi i'w blaid
ymrannu dros sgandal a ddigwyddodd flwyddyn yn gynharach.
"No fewer than twenty-five thousand people visited
Mr Parnell's grave on Sunday week." Mont. Express & Radnor Times,
27.10.91
W.H. Smith, gwerthwr papur newydd a llyfrau yn marw.
Mr W H Smith, Arglwydd Cyntaf y Trysorlys ac Arweinydd y Ty Cyffredin.
"Up to the age of forty he devoted all his energies to the business
of "W H Smith and Son"." Mont. Express & Radnor Times,
13.10.91
Cafwyd y casgliad stryd cyntaf ar gyfer elusen ym Manceinion
ar gyfer y Diwrnod Cychod Achub.
Hydref 1891
Geni Syr James Chadwick, darganfyddwr y niwron ym Manceinion.
Gandhi yn Morio i Loegr ym mis Medi i astudio'r gyfraith.
Siarter y 'British South Africa Company' yn cael ei estyn
i ogledd Zambesi; Nyasaland yn cael ei ddatgan yn Diffynwlad Brydeinig.
|
Diwylliant
'Ragtime' yw'r gerddoriaeth boblogaidd newydd. Roedd
Jazz (er nad oedd wedi'i alw'n hynny tan ar ôl 1917) yn ei blentyndod
cynnar yn New Orleans.
Darganfyddwyd y 'Javaman' gan Marie Eugene Dubois,
sy'n cael ei adnabod fel y 'Homo erectus' erbyn hyn.
Yn 1891, sefydlwyd Cymdeithas Japan
(The Japan Society) i hyrwyddo perthnasoedd Eingl-Siapaneaid.
Guy de Muapassant yn gwallgofi ar ôl ysgrifennu
nofelau, dramâu a 300 o storïau byrion.
Croce a seiclo'n dod yn boblogaidd iawn. Dyfeisiwyd
pêl-fasged yn 1891 gan James Naismith, hyfforddwr yr Y.M.C.A yn
Massachusetts.
Morrison (Des Moines) yn dyfeisio'r car trydanol i'w
ddefnyddio gyntaf yn U.D.A. Roedd yn honni ei fod yn gallu gwneud 22kph.
Yn 1891, fe wnaeth Jesse W. Reno greu grisiau symudol
a oedd yn codi teithwyr ar gludfelt ar ongl o 25 gradd. Dangoswyd y
ddyfais yn ddiweddarach yn Arddangosfa Paris 1900, lle cafodd ei alw
gyntaf yn 'escalator'. Cafodd y grisiau symudol neu escaladur fel yr
ydym yn ei adnabod ei ailgynllunio gan Charles Seeberger yn 1900.
Pavlova yn ymuno â'r Imperial Theatre 1891.
4 Gorffennaf 1891
Phineas T. Barnum, perchennog Syrcas, yn marw yn 80 mlwydd oed.
Gaugin yn setlo yn Tahiti.
Geni Sergei Prokofiev.
Yn yr Iseldiroedd, mae'r llong danfor ymarferol gyntaf
yn cael ei dyfeisio. "The first to use a combination of battery
power and internal combustion engines."
Claude Monet, yr arlunydd argraffiadol yn darlunio
ei lun enwog sef 'Haystacks'.
Enrico Caruso yn dechrau ar y gwaith hyfforddi difrifol
ar gyfer ei lais.
Y lens 'telephoto' yn cael ei gysylltu i gamera. Gall
ffotograffwyr hefyd roi ffilm mewn camera yng ngolau dydd, ac nid mewn
ystafell dywyll yn unig.
1891: Harry Houdini yn dod yn gonsuriwr/dewin proffesiynol.
1891: Sefydlu Cymdeithas Lenyddol Gwyddelod Llundain
(Irish Literary Society of London) yn nhy W.B.Yeats.
Geni Erwin Johannes Eugen Rommel ger Ulm, Almaen. Cafodd
ei adnabod yn ddiweddarach fel y "Desert Fox" am reoli ymgyrch
Gogledd Affrica yn ystod yr ail ryfel byd.
Henry Miller 1891-1980, Awdur Americanaidd.
Henrik Ibsen yn ysgrifennu'r 'The Master Builder'.
1891: Drama Ibsen sef 'Hedda Gabler'.
W L Judson yn dyfeisio'r sip (zipper).
1891: George Bartholomew yn gosod y stryd goncrit gyntaf
yn UDA yn Bellefontaine, Ohio, UDA. Mae dal yn bodoli.
Georges Seurat, arlunydd Argraffiadol Ffrengig a sylfaenydd
y ' Pointillism', yn marw.
Geni Bronislava Nijinska yn Rwsia
Geni Cole Porter, cyfansoddwr caneuon, yn 1891
Ffwrn drydanol -- 'Carpenter Electric Heating Manufacturing
Co.' 1891
Dyfeisio'r modur cyntaf go iawn (nid cerbyd gyda modur)
gan René Panhard ac Emile Lavassor, Ffrainc, 1891.
Peter Ilyich Tchaikovsky yn arwain rhan o'i gyngerdd
cyntaf yn Neuadd newydd sbon 'Carnegie'.
Geni Max Ernst, Arlunydd Almaenig. Yn ddiweddarach,
daeth yn arweinydd 'afresymegedd mewn celf' ('irrationality in art')
a sylfaenydd y sector realaeth yn y symudiad Swrrealaeth.
Digwyddiadau
Roedd Arlywydd yr Unol Daleithiau, Benjamin Harrison mewn grym ar y
pryd. Ei Dymor yn y Swydd oedd 1889-93. Ganed ef yn 1833. Bu farw yn
1901.
Roedd Harrison o blaid codi tollau a phrisiau uchel. Cafwyd enghraifft
o hyn yn y ffordd y bu'n meithrin Toll McKinley (McKinley Tariff) yn
1890, a oedd yn gosod tollau mewnforio uchel i ddiogelu corfforaethau
America ond a arweiniodd at gynnydd mewn prisiau -- safiad a fyddai'n
gwneud iddo golli pleidleiswyr.
Ionawr 16, 1891.
Yn yr Unol Daleithiau, fe ildiodd Indiaid y Siwaid (Sioux). Dyma'r gwrthdaro
olaf o bwys gyda'r Indiaid ac fel y lleill i gyd, yr Indiaid wnaeth
ildio.
Mawrth 24ain & Ebrill 15fed
Cytundebau Eingl-Eidalaidd dros Abysinia (Ethiopia).
Ebrill 1af 1891
Brasil yn mabwysiadu cyfansoddiad newydd.
3ydd Ebrill
Gweinidog Cyllid Bwlgaria yn cael ei saethu a'i ladd yn Sofia.
*B&R 1891.
Ebrill 9fed 1891
Sylfaenu Cynghrair Pan Almaenaidd.
Rhyfel Cartref Chili 1891
Mont. Express & Radnor Times, 16.6.91 yn adrodd "...of civil
war in Chile. 20,000 engaged, an estimated 3,000 dead..."
17eg Ebrill. 150 o Iddewon yn cael eu harestio yn y
rhannau Iddewig o Foscow. Iddewon o fewn ac o amgylch St. Petersburg
a Moscow heb statws cyfreithlon nac awdurdodaeth yn cael eu herlid a'u
gyrru allan yn ddidrugaredd gan yr heddlu.
*B&R 1891.
Mai 31ain 1891
Y gwaith yn dechrau ar adeiladu Rheilffordd Traws-Siberia (Trans-Siberian).
Awst 27ain 1891
Cynghrair Ffrainc-Prwsia
Montgomeryshire Express & Radnor Times, o Fis Mehefin
ymlaen - "Great damage was caused on Sunday morning in Lombardy,
Verona, Venetia, and part of Tuscany by an earthquake. At Marcenego
three persons were killed."
Mont. Express & Radnor Times, 1.9.91"Terrible
Earthquake in Japan. Despatches have been received at New York giving
details of the recent terrible earthquake in Japan. . . .The lowest
computation gives the number of deaths as 24,000, but it is probable
that this will prove far below the actual total."
Mont. Express & Radnor Times, 3.11.91
Cylchlythyr y Pab ar amodau y dosbarthiadau gweithiol.
Newyn yn Rwsia.
Fe effeithiodd ar rhwng pedair ar ddeg ac ugain miliwn o bobl, gyda
375,000 i 400,000 yn marw, o afiechyd yn bennaf.
Tachwedd 1891
Deodoro da Fonseca, Arlywydd Brasil yn diddymu Senedd newydd Brasil
sy'n arwain at wrthdrawiadau. Mae'n ymddiswyddo'n fuan er mwyn ethol
Is-arlywydd Peixoto.
Awstralia yn hawlio Amddiffynfa i Fasnach ac uniad
Diffyndollaeth U.D.A
Llywodraeth America yn pasio Toll McKinley Tariff i hyrwyddo diwydiannau
cartref.
Yr Almaen yn rhoi system bensiynau cyntaf y byd i'r
henoed ar waith a argymhellwyd gan y Prif Weinidog Otto von Bismark.
Rhoddodd Bismark orau i'w swydd fel Prif Weinidog flwyddyn ynghynt.
Protestiadau Arabaidd cyntaf yn erbyn gwladfeydd Seionaidd
ym Mhalestina.
Ghandi yn dechrau ar ei waith fel Cyfreithiwr yn India.
Cytundeb rhyngwladol ar hawlfraint.
Jomo Kenyatta yn cael ei eni.
Daeth ef yn arweinydd gwrthdaro'r Mau Mau yn Kenya yn 1953. Yn ddiweddarach,
daeth yn Brif Weinidog ac yna'n Arlywydd yn 1964.
American Express yn cyhoeddi sieciau i deithwyr (travellers
cheques).
Y galwad ffôn cyntaf drwy gebl llong danfor,
Llundain - Paris.
Alltudion o Ymerodraeth Ottoman, a elwir yn Dyrciaid
Ifainc, yn cwrdd yn Genefa. Yn ddiweddarach, daeth y Tyrciaid Ifainc
yn benseiri'r symudiad Twrciaidd cenedlaethol.
Cytundeb Eingl- Portiwgeaidd yn 1891. I nifer o wleidyddion
ac entrepreneuriaid, daeth hyn â'r gobaith o ledaeniad Prydeinig
ar gyfandir Affrica i ben mewn gwirionedd.
Byddin y Böer yn symud yn Ne Affrica -- dywedwyd
bod oddeutu 20,000 wedi dechrau gorymdeithio.
|