11eg Ionawr
Ymgyrch yn erbyn Hwliganiaid
Cais i roi diwedd i yfed dan oed a thrais mewn dawnsfeydd yn y sir. Mae'r
Heddlu i lansio ymgyrch. Anghydfod fferm wynt.
Mae gwrthwynebiadau wedi'u lleisio i gynigion i godi 165 tyrbin gwynt yn
mesur 400 troedfedd dros ardal o 14 milltir yn ymestyn o Raeadr yng Nghwm
Elan i Geredigion.
Y galw am dai Fforddiadwy yng Ngogledd Powys. Mae Cynghorydd
Sir o'r Drenewydd wedi ymuno â'r drafodaeth ar ddiffyg tai fforddiadwy
yn Sir Drefaldwyn.
25ain Ion 2002
Plentyn ifanc wedi'i daro'n wael ac wedi marw o Lid yr Ymennydd. Mae swyddogion
Iechyd yr Amgylchedd o'r farn mai achos unigol yw'r achos Llid yr Ymennydd
diweddar yn Sir Frycheiniog.
Mae dyn o'r Trallwng wedi pledio'n euog i fod â
chyffuriau yn ei feddiant yng ngorsaf reilffordd Amwythig. Ceisiodd swyddogion
yr Heddlu atal y dyn wrth iddo ymdrechu i redeg i ffwrdd oddi wrthynt.
Gwelwyd ei fod â chyffur dosbarth A a B gydag ef. Cafodd ei ddirwyo'n
ddiweddarach.
Ffigyrau diweithdra ar y lefel isaf eto
Ar ôl cynnydd graddol ym mis Tachwedd, mae nifer y bobl ddi-waith
sy'n hawlio budd-daliadau wedi gostwng ym Mhowys o 1422 i 1392.
Cwrdd ag amseroedd ymateb i dân yn 2000 / 2001.
Llwyddodd brigâd dân Canolbarth a Gorllewin Cymru i gwrdd
ag amseroedd ymateb cenedlaethol i danau mewn 99.7 % o achosion gan eu
gosod ar frig y tablau perfformio ar gyfer pob brigâd dân
ym Mhrydain.
1af Chwefror
Gwirfoddolwyr Cymorth Cyntaf wedi'u hyfforddi o'r enw 'First Responders'
ym mynd i roi gwell cyfle o fyw i'r rheini sy'n dioddef trawiad ar y galon
yn y sir.
8fed Chwefror
Datblygwr yn osgoi cael ei erlyn dros goed.
Roedd trigolion wedi ffurfio grwp gweithredu ac yn protestio yn erbyn
penderfyniad cynllunwyr Sir Faesyfed i beidio ag erlyn datblygwr yn Llandrindod
er gwaethaf difrod i nifer o goed mawr mewn ardal sydd wedi'i diogelu
ym Mharc y Creigiau.
15fed Chwefror
Mae gwerthu Da Byw trwy arwerthiannau wedi dechrau unwaith eto mewn nifer
o rannau o Bowys ar ôl egwyl o bron blwyddyn. Cafodd y canolfannau
hyn eu cau a symudiadau stoc eu rheoli'n llym ar ôl argyfwng clwy'r
traed a'r genau yn 2001.
Yr Arglwydd Gibson Watt yn marw.
Bu'r farw'r Cyn Seneddwr, Gwas Sifil a thirfeddiannwr lleol, Yr Arglwydd
Gibson Watt yng nghartref y teulu yn Noldowlod, Ger Rhaeadr yn 83 mlwydd
oed.
Tân Plas Dinam
Difrodwyd Plas Dinam ger Llandinam yn ddifrifol â thân wrth
i fflamau ysgubo drwy loriau uchaf cartref yr Arglwydd David Davies.
Mawrth 1af
Y Sir yn Dathlu Dydd Dewi Sant
Llifogydd yn creu helynt ar ffyrdd a chysylltiadau rheilffyrdd
ar draws Powys. Anogir swyddogion y Cynulliad Cenedlaethol i fynd i'r
afael â phroblemau llifogydd parhaus yn enwedig yn Sir Drefaldwyn,
yr ardal sy'n cael ei effeithio waethaf yng ngogledd Powys.
Damwain Angheuol
Bu farw gwr 32 mlwydd oed mewn damwain mewn Melin Lifio yn y Bontnewydd-ar-Wy,
Sir Faesyfed (Canolbarth Powys). Cafodd ei ladd mewn damwain gyda wagen
fforch godi. Roedd wedi gweithio i'r cwmni am 15 mlynedd.
Mawrth 8fed
Galw i wella ein ffyrdd
Mae Cynghorwyr Sir wedi cefnogi galwadau i wella cefnffyrdd yn y Sir er
mwyn cynorthwyo gydag adfywio economaidd.
Tâl gwell i ddeintyddion
Mae AC lleol wedi galw am gyflog gwell i ddeintyddion cymunedol mewn ymgais
i'w denu i'r ardal. Mae'r gwahaniaeth o £6000 mewn cyflog o'i gymharu
â deintyddion ar draws y ffin yn Swydd Henffordd sy'n derbyn mwy
o gyflog na'u cydweithwyr ym Mhowys wedi rhoi hwb i'r ymgyrch hon.
15fed Mawrth
Y cyhoedd yn teimlo'n ddig am amser adfer byr i famau ar ôl geni
babanod yn Ysbyty Tref-y-clawdd oherwydd prinder Bydwragedd
Damwain fferm drasig gyda phlentyn 2 flwydd oed.
Cafwyd dedfryd o farwolaeth ddamweiniol yr wythnos hon yn dilyn cwest
i farwolaeth bachgen dwy flwydd oed a fu farw ar fferm y teulu ym Meifod,
Gogledd Powys.
Hwb o £540,000 i Gludiant Cyhoeddus Powys.
Mae arian cyhoeddus ar gael ar gyfer cynlluniau cludiant cymunedol a chyhoeddus.
Mawrth 22ain
Arian ychwanegol i ddenu Meddygon i'r ardal
Mae meddygon teulu yn Rhaeadr yn cael eu gorweithio oherwydd nad ydynt
yn gallu denu meddyg addas i gymryd lle meddyg teulu sy'n ymddeol.
29ain Mawrth
Undeb Trafnidiaeth a Gweithwyr Cyffredinol:- Undeb y sector cyhoeddus
yn annog aelodau i wrthod y cynnig o 3% o godiad cyflog a gynigwyd gan
Gynghorau Sir i weithwyr.
Pryder am Ffyrdd
Mae Cynghorwyr i lobïo Gweinidogion y Cynulliad Cenedlaethol dros
welliannau arfaethedig i ffyrdd ym Mhowys. Mae pryderon am yr oedi mawr
o ran amser wrth wneud gwelliannau ac mewn achosion eraill, mae rhai ffyrdd
wedi'u hanwybyddu'n llwyr.
Camerâu ysbïo i'w gosod er mwyn gostwng nifer
y gyrwyr sy'n mynd yn rhy gyflym.
Sadwrn 30ain Mawrth
Y Fam Frenhines yn marw yn 101 mlwydd oed -- cyhoeddi deuddydd o alaru
cenedlaethol gan y Llywodraeth.
5ed Ebrill
Nawdd ar gyfer Adnewyddu Tref y Ffynhonnau
Bydd Nawdd y Loteri Genedlaethol yn cael ei ddefnyddio i adfywio adeiladau
hanesyddol segur yn Llandrindod mewn ymgais i geisio adfywio ffyniant
economaidd y dref.
Y Sir yn galaru am farwolaeth y Fam Frenhines
Mae llyfrau cydymdeimlo ar gael i'r cyhoedd yn adeiladau'r cyngor ac mae
baneri i chwifio'n isel ar y mast.
Ebrill 19eg
Gwobrwyon am ddyfeisgarwch
Mae cwmni o ganolbarth Cymru wedi ennill y wobr gyntaf mewn seremoni i
roi gwobrau am ddyfeisgarwch oherwydd eu cynllun ar gyfer dyfais sy'n
canu larwm os bydd plentyn yn cwympo i mewn i bwll.
Galw am brofion TB ar wartheg
Mae undebau unwaith eto yn galw am brofion twberciwlosis ar wartheg ym
Mhowys a honnir fod yr afiechyd yn gyffredin ac ar led a bod y Llywodraeth
yn anwybyddu hyn.
26ain Ebrill
Gall pryderon am ddiffyg gwelyau yn ysbyty Henffordd olygu mwy o oedi
i gleifion ym Mhowys a gwasanaeth gwael ar gyfer triniaeth. Mae'r Ysbyty
yn brin o 120 o welyau.
Nawdd Gwyl Fictoraidd.
Rhoddwyd grant o £4000 i'r Wyl Fictoraidd yn Llandrindod gan Gyngor
y Dref.
Mae hyd bywyd ar gyfartaledd ym Mhowys wedi codi i 75.9
mlynedd i ddynion a 81.3 mlynedd i wragedd. Y cyfartaledd cenedlaethol
i Gymru yw 74.8 mlynedd i ddynion a 79.7 mlynedd i wragedd.
Mwy yn byw ar enedigaeth
Cafwyd cynnydd cyson yn y nifer sy'n byw ar enedigaeth yng Nghymru trwy
gydol y ddegawd diwethaf.
10fed Mai
Dywedwyd wrth gynghorwyr nad oedd cynlluniau i ddechrau ar ffyrdd osgoi
i Raeadr, Y Drenewydd a Llanfair-ym-Muallt am o leiaf y deng mlynedd nesaf.
Gwrthod honiad bod cronfa ddwr yn mynd i gael ei ehangu
Mae Dwr Hafren Trent yn gwrthod honiadau bod ganddo gynlluniau i ymestyn
cronfa ddwr Craig Goch yng Nghwm Elan, Rhaeadr.
Rhybudd am Hedfan Isel
Mae'r Awyrlu Brenhinol (R.A.F) yn mynd i gynyddu ymarferion hedfan isel
sy'n is na 100 troedfedd dros y sir. Mae hyn yn ychwanegol at ymarferion
hedfan isel rheolaidd o 250 troedfedd bob wythnos.
Protestiadau mamau yn arwain at ganlyniadau
Mae mamau wedi llwyddo i gynyddu cyfnod aros yn yr ysbyty ar ôl
genedigaeth yn Ysbyty Tref-y-clawdd.
Mai 24ain
Mae Sioe Frenhinol Cymru yn Llanelwedd, ger Llanfair-ym-Muallt wedi dioddef
colledion enfawr o ganlyniad i Argyfwng Clwy'r Traed a'r Genau ac yn honni
bod y Cynulliad yn troi clust fyddar i'w hanghenion.
Camgymeriad gan leidr
Roedd lleidr a fu'n ysbeilio ty gweithiwr coedwigaeth yng Nghoedwig Maesyfed
wedi gadael llwybr o fwyd o'r man troseddu i lle'r oedd yn cysgu. Cynigiwyd
sigár wedi'i ddwyn gan y lleidr i'r gwr y bu'n dwyn oddi arno wrth
iddynt aros i'r heddlu gyrraedd i ymchwilio.
31ain Mai
Rhwystrau ar lwybrau troed
Bydd yn cymryd 60 mlynedd i ailagor llwybrau troed sydd â rhwystrau
arnynt neu sydd â gormod o dyfiant ym Mhowys -- dyna glywodd Cyngor
Sir Powys yr wythnos hon. Mae yna dros 470 o gwynion o hyd ac nid yw staff
presennol yn gallu delio â hwy.
Nid yw busnesau yn llwyddo i fanteisio ar nawdd Amcan
2 i'w cynorthwyo i oresgyn effeithiau Argyfwng Clwy'r Traed a'r Genau
yn ddiweddar oherwydd bod ffurflenni cais yn cymryd yn rhy hir i'w prosesu.
Ymgyrch i gadw gwasanaethau rheilffordd
Mae gwasanaethau rheilffordd canolbarth Cymru o dan fygythiad os na fydd
pobl leol yn barod i ymladd amdanynt.
Galw i helpu plant sâl Chernobyl
Mae yna alw ar Deuluoedd Lleol o Bowys i gynnig lle i aros i blant o ardal
trychineb niwclear Chernobyl yn Belarussia mewn ymgais i roi cyfle i'w
systemau imwnedd wella o'r gwenwyn ymbelydrol.
3ydd a 4ydd Mehefin.
Dathlu'r Jiwbilî Aur mewn cymunedau ar draws y sir. Cafwyd dathliadau
mewn dyddiau hwyl a phartïon stryd mewn gwyliau deuddydd a roddwyd
yn genedlaethol ar y 3ydd a'r 4ydd Mehefin.
7fed Mehefin
Nawdd ar gyfer ffyrdd
Cyhoeddwyd £800,000 ychwanegol gan y Cynulliad Cenedlaethol ar gyfer
atgyweirio a chynnal a chadw ffyrdd i'w wario'n ychwanegol at y pecyn
18 miliwn o bunnoedd ar ffyrdd.
14eg Mehefin
Y Frenhines yn dod i Bowys
Miloedd yn dod allan i gyfarch y Frenhines a'r Tywysog Phillip wrth iddynt
gael eu tywys o amgylch Dolau lle cyraeddasant ar y trên. Bu'r Frenhines
yn cwrdd â phlant ysgol a gwylwyr o bob cwr o'r sir a ddaeth i'w
gweld ar ei thaith Jiwbilî o Brydain. Aeth oddi yno mewn hofrennydd
ar gyfer digwyddiadau eraill.
21ain Mehefin
Ymgais i herwgipio plentyn
Mae heddlu yn Y Drenewydd yn archwilio ymgais i herwgipio merch 14 blwydd
oed yn y dref yn ystod golau dydd am 12.30pm ar ddydd Gwener. Daeth dyn
gwyn at y ferch a cheisiodd ei llusgo i mewn i fan wen oedd wedi'i pharcio.
28ain Mehefin
Llawdriniaeth ar y Galon i blentyn
Mae rhieni wedi eu boddhau ar ôl clywed y bydd eu merch fach o Landrindod
yn cael llawdriniaeth ar ei chalon yn 'Bristol Royal Infirmary' a fydd
yn achub ei bywyd.
Meifod yn cynnal Eisteddfod Genedlaethol.
Disgwylir tyrfaoedd yn Y Trallwng ar gyfer seremoni gyhoeddi swyddogol
Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2003 i'w chynnal ym Meifod ger Y Drenewydd
Powys.
Senedd Ewrop yn derbyn tystiolaeth ysgrifenedig a llafar
ar effaith Clwy'r Traed a'r Genau ym Mhowys ar gymunedau unigol mewn cyfarfod
arbennig yn Llanfair-ym-Muallt.
5ed Gorffennaf
Ffigyrau a gyhoeddwyd ar gyfer 2001 yn dweud bod Ffermwyr Mynydd yn ennill
llai na'r Lleiafswm Cyflog yn ôl y Democrat Rhyddfrydol, Yr Arglwydd
Livsey o Dalgarth. £8,100 y flwyddyn yw y Lleiafswm Cyflog Cenedlaethol
ond mae enillion net ffermwyr mynydd a ffermwyr cig eidion yn y DU yn
llai na £4000.
Pencadlys Newydd i'r Heddlu
Mae Gorsaf Heddlu Llandrindod i ddod yn Bencadlys Rhanbarthol i Heddlu'r
Sir.
Osgoi damwain yn yr awyr dros Landrindod
Daeth awyrennau jet y BA sy'n cludo teithwyr yn agos at gael damwain dros
Landrindod, Powys, ar y 3ydd Gorffennaf gan adael bwlch o 1000 troedfedd
rhyngddynt. Byddai'r canlyniadau wedi bod yn angheuol i'r teithwyr a'r
bobl hynny oedd yn byw oddi tanynt.
Trafodwyd yr ofnau y gall ysgolion cynradd Trecastell a Libanus ger Aberhonddu
gau o ganlyniad i ostyngiad mewn niferoedd gan Gynghorwyr. Rhoddwyd blwyddyn
ychwanegol i'r ddwy ysgol i gael cynnydd er mwyn cael mwy na 28 disgybl
yr un.
19eg Gorffennaf
Sioe Frenhinol Cymru yn dychwelyd
Sioe Frenhinol Cymru yn dychwelyd mewn ffordd ysgubol ar ôl egwyl
oherwydd Argyfwng Clwy'r Traed a'r Genau yn 2001.
25ain Gorffennaf
Agoriad 18fed Gemau'r Gymanwlad ym Manceinion. Timau o wledydd y Gymanwlad
ynghyd ag athletwyr o Bowys sy'n cynrychioli Cymru yn cymryd rhan yn y
seremoni agoriadol ar ddechrau'r gemau a fydd ymlaen am bythefnos.
26ain Gorffennaf
Marwolaeth yn Nhrehafren yn arwain at archwiliad i lofruddiaeth
Cafodd mam ei brysio i Ysbyty'r Amwythig mewn ambiwlans yn dioddef anafiadau
difrifol. Bu farw deuddydd yn ddiweddarach. Mae gwr o Ffordun wedi'i gyhuddo
o'i lladd.
Cafodd beddi eu difrodi ym Mynwent Eglwys Santes Fair,
Abatycwm Hir - dywedwyd bod ymosodiad tebyg wedi bod ym mynwent Llandrindod
ychydig wythnosau ynghynt.
Ras Archeolegwyr yn erbyn amser
Archeolegwyr yn dod o hyd i dociau sych ac odynau calch yn dyddio'n ôl
i 1794 ac yn brysio i gofnodi eu canfyddiad cyn i ddatblygwyr symud i
mewn.
2il Awst
Plentyn ifanc sydd wedi cael llawdriniaeth ar y galon yn ddifrifol wael
Mae plentyn ifanc o Bowys mewn cyflwr difrifol ar ôl llawdriniaeth
agored o bwys ar y galon yn Ysbyty Bryste.
Gemau yn dod i ben ar 4ydd Awst ym mhresenoldeb y Frenhines.
Joanne Weale o Bowys ac Anwen Butten yn cynrychioli Cymru
mewn bowls i ferched. J Weale yn ennill medal efydd yn rowndiau cyn derfynol
y gystadleuaeth fel y gwna Gary Cole o Aberhonddu ar gyfer Jiwdo.
Y nifer sy'n ddigartref ym Mhowys yn cynyddu
Mae nifer y bobl ddigartref ym Mhowys yn cynyddu. Mae Cyngor Sir Powys
wedi gweld cynnydd o 30% mewn ceisiadau am dai.
9fed Awst
Rhoi terfyn i Streiciau Llywodraeth Leol
Rhoddwyd terfyn i streiciau gweithwyr cyngor ar ôl aflonyddwch eang.
Penderfynodd yr Undebau i fynd i ACAS ac maent yn debygol o dderbyn cynnig
cyflog diweddaraf y llywodraeth sy'n rhoi cynnydd mewn cyflog ac amodau
i weithwyr ar dâl isel.
23ain Awst
Agor Gwyl Fictoraidd yn Llandrindod.
Mae plentyn ifanc o Landrindod a aeth drwy lawdriniaeth
ar y galon i achub ei fywyd wedi cael ei dynnu oddi ar y rhestr cyflwr
difrifol.
Gwelir cynnydd bychan o ran ffigyrau diweithdra ym Mhowys.
6ed Medi
Dau yn cael eu lladd mewn damwain bws mini
Mae Tref Rhaeadr ym Mhowys mewn sioc o glywed am ddamwain bws mini lle
lladdwyd dau ac anafu chwe theithiwr arall yn ddifrifol yng Ngwlad Belg.
Roedd y bws mini yn mynd â theithwyr ar daith i wylio Ras Grand
Prix Gwlad Belg.
Plentyn ifanc a gafodd llawdriniaeth ar y galon yn dychwelyd
adref i Landrindod.
13eg Medi
Gwrthod llawdriniaeth ar y glun i glaf o Bowys gan ei fod yn byw yng Nghymru.
Datgelwyd y wybodaeth hon gan Feddyg Teulu o Lanidloes mewn llythyr a
dderbyniodd gan lawfeddyg orthopedig o fri.
20fed Medi
Gweithwyr 'Reality' o hen warws Pryse Jones yn Y Drenewydd, sy'n delio
â miloedd o alwadau'r dydd ar gyfer cwmnïau catalog, wedi rhoi
terfyn i'w cynlluniau i fynd ar streic gan taro ar fargen newydd gyda
phenaethiaid y cwmni.
22 Medi
Ymunodd nifer o bobl o Bowys â phrotestwyr gyda baneri gan lenwi
strydoedd canol Llundain. Mae oddeutu 400,000 o bobl o bob cwr o'r wlad
wedi gorymdeithio trwy ganol Llundain i bwysleisio anghenion cymunedau
gwledig.
23ain Medi
Siglwyd nifer o rannau o Loegr a Dwyrain Cymru gan Ddaeargryn pwerus am
1:30am oedd yn mesur 4.8 ar y raddfa Richter. Soniwyd am ddifrod o natur
lai i adeiladau a bu llinellau ffôn y gwasanaethau brys yn brysur
gyda thrigolion pryderus a oedd wedi'u deffro gan luniau a dodrefn yn
symud am gyfnod o amser.
24ain Medi
Diwrnod ym Mywyd Powys
Miloedd o Bobl ym Mhowys yn llenwi dyddiaduron ar gyfer Powys: Diwrnod
ym Mywyd. Nod y prosiect yw dangos y gwahaniaethau rhwng bywyd yn 1891
a heddiw.
4ydd Hydref
Prosiect Twristiaeth
Dadorchuddio cynlluniau prosiect twristiaeth £12 miliwn ar gyfer
Powys. Y prosiect a enwir 'Terra Nova' fydd safle y 'fferm weithiol hanesyddol'
fwyaf yn y DU. Bydd ganddo 10 fferm weithiol i gyd yn enghreifftiau gweithiol
o hanes yn dyddio yn ôl cyn belled â'r oes Neolithig hyd at
heddiw.
Claerwen, argae mwyaf Cwm Elan yn dathlu ei ben blwydd
yn 50.
Dirwy am lygru Afon
Ffermwr o Lanbrynmair yn cael dirwy ar ôl i slyri o'i fferm lygru
afon lleol.
11eg Hydref
Protest Gwrth-ryfel
Ymunodd protestwyr o Bowys â 150,000 o brotestwyr yn erbyn rhyfel
yn Sgwâr Trafalgar. Roedd yr orymdaith yn erbyn yr ymyrraeth filwrol
arfaethedig yn Irac gan UDA a'i chynghreiriaid.
18fed Hydref
Llwyddiant Marchnad y Ffermwyr, Y Trallwng
Mae Marchnad Gyntaf y Ffermwyr yn Y Trallwng wedi'i bod yn llwyddiant
mawr a bydd yn helpu i baratoi'r ffordd ar gyfer mwy ohonynt yn nhrefi
eraill Powys.
25ain Hydref
Criwiau Tân yn pleidleisio i fynd ar streic
Criwiau Tân yn pleidleisio i fynd ar streic ac yn dod ag anrhefn
i'r sir. Annog trigolion a busnesau i fod yn wyliadwrus ac i helpu lleihau
peryglon rhag cynnau tân.
Heddlu Dyfed/Powys yn beirniadu penderfyniad i dorri £4.1 miliwn
oddi ar eu cyllideb.
Ffigyrau diweithdra'n parhau yr un fath yn y sir.
1af Tach
Anrhefn o ganlyniad i stormydd
Gwyntoedd cryfion a llifogydd trymion yn creu anrhefn yn y sir wrth iddynt
ddymchwel coed a llinellau trydan. Un dyn yn cael ei ladd wedi i goeden
syrthio ar ei gar.
Cerflun Efydd o Thomas Jones -
Dadorchuddio cerflun o Thomas Jones, yr arlunydd o'r ddeunawfed ganrif
a thirfeddiannwr lleol Pencerrig, yn Llandrindod.
8fed Tach
Tynnu statws cefnffyrdd
Cefnffordd o Raeadr i Henffordd trwy'r Groes i golli ei statws Cefnffyrdd
a'i diraddio.
Pensiynwraig 73 mlwydd oed yn marw mewn tân mewn
ty yn Y Drenewydd, Powys yn ystod streic yr Ymladdwyr Tân. Gadawodd
yr Ymladdwyr Tân y streic i helpu gyda'r argyfwng.
15fed Tachwedd
Cynllun ailgylchu yn Sir Drefaldwyn i gael ei ehangu.
22ain Tachwedd
Sioc trais yn y cartref
Mae ystadegau syfrdanol am drais yn y cartref yn y sir yn dangos bod yr
Heddlu'n cael eu galw i 483 o ddigwyddiadau a arweiniodd at 178 o arestiadau.
Cynlluniau ar gyfer Marchnad y Ffermwyr yn Nhref y Ffynhonnau
Mae cynlluniau ar gyfer Marchnad y Ffermwyr yn Llandrindod wedi'u gohirio
am y tro. Serch hynny, mae gobeithion yn parhau'n uchel am farchnad gyda
gwahaniaeth.
29ain Tach
Damwain mewn melin lifio
Archwiliad i'r ddamwain ddiweddaraf mewn melin lifio ym Mhontnewydd-ar-Wy.
Roedd gweithiwr wedi torri ei fraich mewn nifer o fannau wedi iddo gael
ei ddal mewn peiriant. Dyma'r 3ydd damwain ddifrifol oedd yn cynnwys marwolaeth
yn y cwmni yn ystod y deuddeng mis diwethaf.
6ed Rhagfyr
Athro Cymraeg yn colli'i swydd
Athro Cymraeg a ddiswyddwyd o ysgol uwchradd Llanandras yn arwain at bryderon
gan rieni dros addysg cyfrwng Cymraeg. Nid oes athro/athrawes newydd wedi'i
ganfod eto ar gyfer Ysgol John Beddoes.
Rhag 13
Athro yn ymladd yn erbyn y diswyddiad
Mae Athro Cymraeg o Ysgol John Beddoes yn Llanandras yn ymladd i gael
ei adfer yn ôl i'w swydd gan honni iddo gael ei ddiswyddo'n annheg.
Ysgol Llanfair-ym-Muallt yn mabwysiadu cymhwyster arloesol
newydd
Bydd Bagloriaeth Gymraeg, sy'n cyfateb i arholiad lefel A, yn cael ei
arloesi yn y coleg chweched dosbarth. Bydd yn cael ei fabwysiadu'n genedlaethol
yn ôl pob tebyg.
Miloedd yn cymryd rhan yn y ras elusen Siôn Corn
Cynhaliwyd ras hwyl flynyddol er budd elusennau yn Y Drenewydd. Roedd
pob rhedwr oedd yn cymryd rhan yn gwisgo gwisg Siôn Corn.
20fed Rhagfyr
Dirwy am y ddamwain yn y felin lifio
Rhoddwyd dirwy o £7000 i felin lifio y Bontnewydd-ar-Wy am dorri
rheolau iechyd a diogelwch wedi i fysedd dyn gael eu rhwygo i ffwrdd mewn
damwain.
Rhagfyr
Ergyd o ran iechyd i wasanaeth arbennig
Disgwylir y bydd dileu gwasanaeth arbenigol i bobl ag anableddau dysgu
ym Mhowys yn golygu bod rhaid i gleifion deithio i Gaerfyrddin.
Rhagfyr
Hwb o ran swyddi i Bowys
Bydd ehangu cwmni ar gyfer ffatri prosesu cig yn dod â swyddi i
ardal Sir Faesyfed.
|
Dydd Gwener 1af Ionawr
Ewrop yn lansio arian sengl a fydd yn arwain yn awtomatig at ddileu arian
unigol mewn 11 gwlad ar ddiwedd Mehefin 2002 ar yr hwyraf. Nid yw Prydain
yn derbyn yr arian sengl, ond nid yw ychwaith wedi dweud na fydd yn ymuno
yn ddiweddarach.
11eg Ionawr
Tirlun Monet sef 'Prairie de Limetz' yn cael ei ddangos am y tro cyntaf
ers 1889. Disgwylir iddo werthu am bris o hyd at £3 miliwn mewn
arwerthiant celf yn Llundain.
Bydd darlun Renoir sef 'Le Premier Pas' yn ôl pob tebyg yn gwerthu
am rhwng £4m a £6m, tra disgwylir i ddarlun Paul Cezanne's
sef 'Maisons a Valhermeil vues en direction d'Auvers-sur-Oise' werthu
am rhwng £2.8m a £3.5m.
Gwelwyd darlun Claude Monet sef 'The Haystacks: Last Rays of the Sun'
ddiwethaf yn gyhoeddus yn 1895, a chafodd ei werthu'n ddiweddar am £10,123,500.
12fed Ionawr
Hedfanodd y Prif Weinidog Blair adref ddoe ar ôl bron pythefnos
dramor i wynebu galw arno i edrych ar faterion cartref, yn enwedig argyfwng
y rheilffyrdd.
12fed Ionawr
Mae Heddlu yn Swydd Gaerlyr yn awr yn cwestiynu 17 o bobl a arestiwyd
yng Nghaerlyr a Llundain yn yr ymgyrch fwyaf yn erbyn terfysgaeth ym Mhrydain
ers Medi 11eg. Mae'r cyrchoedd yn ymwneud ag arestiadau yn Ffrainc, Gwlad
Belg a'r Iseldiroedd sy'n deillio o gadw Djamel Beghal, ffigwr allweddol
yn rhwydwaith al-Qa'eda Ewrop, ym maes awyr Dubai y llynedd.
Prydain wedi'i ddatgan yn rhydd o Glwy'r Traed a'r Genau
Gallai nifer yr anifeiliaid a laddwyd yn ystod argyfwng clwy'r traed a'r
genau fod cymaint â 10 miliwn -- dwywaith mor uchel â ffigyrau
swyddogol y Llywodraeth.
Yr Arglwyddi yn cefnogi ymchwil am embryonau sydd wedi'u
clonio ac ailraglennu wyau dynol gyda DNA gan gyfranwyr er mwyn trin rhai
afiechydon genetig. Un diwrnod, gallai hyn arwain at eni babanod gyda
thri rhiant genetig.
9fed Chwefror
Y Dywysoges Margaret, chwaer ieuengaf Brenhines Elisabeth yr 2il, yn marw
ar ôl afiechyd yn 71 mlwydd oed. Gwelwyd cydymdeimlad a theyrngedau
yn cael eu mynegi yn dilyn hyn.
21ain Chwefror
John Thaw yn marw. Bu farw'r actor Prydeinig oedd yn chwarae cymeriad
y teitl yng nghyfres deledu "Inspector Morse", yn seiliedig
ar nofelau gan Colin Dexter, yn Wiltshire, Lloegr ar Chwef. 21 o gancr
yn 60 mlwydd oed.
27ain Chwefror
Spike Milligan yn marw.
Bu farw seren y rhaglen "Goon Show" a oedd yn parhau i wneud
i Brydain chwerthin wrth iddo frwydro am flynyddoedd yn erbyn iselder
ysbryd di-baid ar Chwefror 27 yn 83 mlwydd oed.
1af Mawrth
Y BAFTA (Academi Ffilm a Teledu Prydain) yn anrhydeddu cwmni ffilmiau
Prydeinig. Derbyniodd 'Merchant Ivory', y tîm sydd wedi dod yn ddihareb
am gyfnod coll urddasol Ymerodraeth Prydain, un o wobrau mwyaf mawreddog
y wlad am sinema.
27ain Mawrth
Dudley Moore yn marw. Bu farw'r actor Prydeinig oedd yn enwog am ei gomedi
corfforol eang a'i berfformiadau uchel-ael tu hwnt o ddigrif gan gynnwys
"10", "Arthur", a "Micki and Maude" yn Plainfield,
New Jersey ar Fawrth 27 o anawsterau gyda pharlys ymledol (progressive
supranuclear palsy) yn 66 mlwydd oed.
5ed Chwefror
Bydd effeithiau posibl bwydydd sydd wedi'u haddasu'n enetig yn cael eu
harchwilio'n drylwyr cyn gadael iddynt gael eu cynnwys mewn bwydydd babanod
neu eu marchnata i wragedd beichiog neu wragedd sy'n bwydo ar y fron,
yr henoed neu'r rheini gydag afiechydon cronig. Dyma ddywedodd y Gymdeithas
Frenhinol ddoe.
10fed Chwefror
Mae gwyddonwyr o'r grwp cadwraeth WWF wedi rhagdybio y bydd 80 y cant
o'r 155 cynefin bywyd gwyllt pwysicaf yn wyddonol yn cael eu dinistrio
gan gynnydd mewn tymheredd. Y rhai fydd yn cael eu dinistrio fwyaf fydd
Twndra Artig Isel Canada; taiga coediog Mynyddoedd yr Wral yn Rwsia; y
pwna sych Andeaidd yng nghanol Chili, Yr Ariannin a Bolifia; Paith Daurian
ym Mongolia; safana gogledd ddwyrain India a Nepal; ac ardal blanhigol
(fynbos) de Affrica.
10fed Mawrth
Irene Worth yn marw. Bu farw'r actores llwyfan a ffilm Brydeinig a enillodd
Wobrau Tony am ei rôl yn "Sweet Bird of Youth" gan Tennessee
Williams a "Lost in Yonkers" gan Neil Simon ac a ymddangosodd
mewn nifer o ffilmiau a sioeau teledu, yn Efrog Newydd ar Fawrth 10 yn
85 mlwydd oed.
11eg Mawrth
Gweithredu yn erbyn Irac. Derbyniodd Dick Cheney, y Dirprwy Arlywydd,
gefnogaeth gref gan y Prif Weinidog Tony Blair. Dywedodd Mr Blair bod
y ffordd yr oedd Saddam Hussein yn ceisio mynd ar drywydd arfau dinistriol
yn fygythiad difrifol. Roedd ei farn yn atgyfnerthu honiad gweinyddiaeth
yr Arlywydd Bush sef y byddai efallai angen gweithredu milwrol i fynd
i'r afael â bygythiad Irac.
Rhoddodd Prydain gyfarwyddyd i'r heddlu i gynyddu archwiliadau
heddlu ar y stryd (stop-and-search street investigations) ac i roi ffurflenni
i bobl yn esbonio pam eu bod wedi'u neilltuo ar gyfer hyn.
18fed Mawrth
Prydain yn anfon 1,700 o filwyr i ymladd Affganistan mewn ymateb i gais
gan Yr Unol Daleithiau i helpu'r Americanwyr i ddod o hyd i ymladdwyr
sy'n weddill ymysg y Taliban ac Al Qaeda.
19eg Mawrth
Gwahardd Mugabe /Zimbabwe o'r Gymanwlad. Bwriad y weithred anghyffredin
hon oedd i gosbi'r Arlywydd Robert Mugabe yn sgil yr etholiadau annheilwng
ar gyfer arlywyddiaeth fel y mae'n herio pwysau rhyngwladol trwy osod
ei hunan mewn pwer am chwe blynedd pellach.
21ain Mawrth
Amanda "Milly" Dowler yn diflannu wrth gerdded adref yn Walton-on-Thames,
Surrey.
23ain Mawrth
Yr Heddlu yn lansio helfa fawr yn cynnwys 50 o swyddogion a chwn wrth
i'r ofnau amdani dyfu.
27ain Mawrth
Rhieni Milly yn cyfaddef bod posibilrwydd bod eu merch wedi'i herwgipio.
24ain Mawrth
Terfysgoedd sectyddol yn Belfast ar ôl i wraig Brotestannaidd gael
ei hanafu mewn ymosodiad wrth i fom ffrwydro.
Mawrth
Hela llwynog yn cael ei wahardd yn y DU.
Roedd y Prif Weinidog yn cefnogi barn y rhan fwyaf o AauS wrth iddynt
roi cefnogaeth aruthrol i waharddiad llwyr o 386 o bleidleisiau i 175
-- mwyafrif o 211.
Gwrthodwyd hefyd y dewis o ganiatáu i hela gyda chwn barhau o dan
hunanreolaeth gan 401 o bleidleisiau i 154 -- mwyafrif o 247.
Mawrth
Trafodaeth ar 'ryfel pen agored'.
Bydd y Ceidwadwyr yn cynnal trafodaeth frys heddiw ar anfon 1,700 o gyrchluwyr
y Llynges Frenhinol i Affganistan ymysg ofnau am ymrwymiad pen agored.
Blair yn mynd i'r afael â throsedd ar y strydoedd
Mae grwp newydd o fewn y Llywodraeth sy'n gobeithio arafu'r cynnydd o
ran ymosodiadau (mygio), ymosodiadau ar bobl mewn ceir a lladradau yn
cyfarfod heddiw gyda Tony Blair fel cadeirydd.
30ain Mawrth
Y fam frenhines yn marw yn 101 mlwydd oed.
Cyhoeddir deuddydd o alaru cenedlaethol.
31ain Mawrth
Barry Took yn marw. Bu farw'r digrifwr ac ysgrifennydd Prydeinig a ddaeth
â chwe digrifwr, gan gynnwys John Cleese a Graham Chapman, ynghyd
ar gyfer comedi deledu i'r BBC a ddaeth yn enwog fel "Monty Python's
Flying Circus", o gancr yn Llundain ar Fawrth 31 yn 73 mlwydd oed.
9fed Ebrill
Daeth brenhinoedd a breninesau ynghyd heddiw yn Abaty Westminster ar gyfer
angladd y Fam Frenhines, gyda thyrfaoedd enfawr yn sefyll y tu allan.
Y Llysgenhadaeth Brydeinig yn symud staff o'r Llysgenhadaeth
yn Islamabad, prif ddinas Paskistan gan fod perygl mawr o ran ffrwydradau
lle lleddir y bomwyr (hunan-laddiad). Dywedir wrth Ddinasyddion Prydeinig
i adael ardal y gwrthdaro posibl ar unwaith.
24ain Mai
Cafwyd rhybudd gan Tony Blair ddoe y gallai Prydain golli ei safle blaenllaw
yng ngwyddoniaeth y byd er gwaethaf ei record trawiadol. " We have
relied too long on tradition and sentiment to aid out scientists,"
dywedodd. "We need strong funding and strong public support, not
just the warm glow of our traditions."
Caer Ewrop?
Mae Prif Weinidog Prydain wedi gofyn am gymorth gan Sbaen i gryfhau polisi
a rheolaeth ar hyd ffiniau o ran Mudwyr Economaidd ac Ymgeiswyr am Loches.
17eg Mai
Gwledd yng Nghastell Windsor
Ddoe, cyhoeddwyd fod y Frenhines yn diddanu brenhinoedd a breninesau Ewrop
mewn cinio preifat yng Nghastell Windsor. Disgwylir i'r wledd, ar Fehefin
17, fod yn un o'r digwyddiadau mwyaf lle mae teuluoedd brenhinol wedi
dod ynghyd yn ddiweddar.
17eg Mai
Annog gweithwyr i Bleidleisio o blaid mynd ar streic
Mae Undebau mwyaf y sector cyhoeddus yn annog gweithwyr cyngor i baratoi
i bleidleisio i fynd ar streic dros gyflog isel. Mae Streic Genedlaethol
wedi'i chynllunio.
28ain Mai
Yr ysgrifennydd trafnidiaeth, Stephen Byers, yn cyhoeddi ei ymddiswyddiad.
Mae Alistair Darling wedi'i benodi fel ysgrifennydd trafnidiaeth gyda'r
brîff llywodraeth leol yn cael ei drosglwyddo i Swyddfa John Prescott,
y Dirprwy Brif Weinidog.
Ymgyrchoedd Olew
Yn ystod diwrnod cenedlaethol o weithredu yn erbyn Esso, y cawr yn y maes
olew, gwelwyd ymgyrchoedd mewn gorsafoedd petrol ar draws y DU. Mae amgylcheddwyr
yn honni bod y cwmni a leolir yn Texas wedi gwneud mwy nag unrhyw gwmni
olew i rwystro'r cytundeb Rhyngwladol ar Gynhesu Byd Eang.
Argyfwng Trenau. Fe ddaeth taith trên 87 milltir
yn y prynhawn yn daith dros nos i 200 o deithwyr.
Mae miloedd o ddinasyddion Prydeinig sy'n byw dramor
oedd wedi'u gadael heb ddinasyddiaeth ar ôl y dadwladychu yn yr
1960au i dderbyn yr hawl i fyw ym Mhrydain.
Ddoe, dywedodd dyn, a dorrodd y pen i ffwrdd oddi ar
gerflun marmor gwyn o'r Foneddiges Thatcher gan greu difrod na ellir ei
drwsio, ei fod wedi gwneud hyn i arbed ei fab dwy flwydd oed rhag cyfalafiaeth
fydol.
Mehefin
Roedd llywodraeth Prydain wedi datgelu cynlluniau i archwilio a monitro
negeseuon e-bost a gwasanaethau Rhyngrwyd i bob dinesydd mewn ymgais i
ddelio â therfysgaeth ar ôl ymosodiad Medi 11eg 2003 ar Ganolfan
Fasnach y Byd.
Mehefin 3ydd a'r 4ydd -- Gwyliau Jiwbilî yn y DU
i ddathlu 50 mlynedd o deyrnasiad y Frenhines Elisabeth.
11eg Mehefin
Oriel Gelf y 'Tate Modern' wedi denu 5.25 miliwn o ymwelwyr yn ei blwyddyn
gyntaf a diddordeb mawr yn genedlaethol a rhyngwladol yng ngwaith arlunwyr
ieuainc Prydain.
Gorffennaf
Leo McKern yn marw. Bu farw'r actor Prydeinig oedd yn enwog am chwarae
Horace Rumpole yn "Rumpole on the Bailey" ar y teledu ynghyd
â rolau mewn 50 neu fwy o ffilmiau, ym mis Gorffennaf yn 82 mlwydd
oed.
3ydd Gorffennaf
Damwain posibl dros Landrindod
Daeth awyrennau jet y BA sy'n cludo teithwyr yn agos at gael damwain dros
Landrindod, Powys, ar 3ydd Gorffennaf gan adael bwlch o 1000 troedfedd
rhyngddynt. Byddai'r canlyniadau wedi bod yn angheuol i'r teithwyr a'r
bobl hynny oedd yn byw oddi tanynt.
12fed Gorffennaf
Heddiw, mae ffigyrau Arolwg Trosedd Prydain wedi dangos gostyngiad cyffredinol
o 22% mewn trosedd ers 1997, gyda gostyngiad o 39% mewn byrgleriaeth ddomestig,
gostyngiad o 26% o ran trosedd ceir a'r posibilrwydd o ddioddef trosedd
yn is nag unrhyw amser ers i'r arolwg ddechrau yn 1981. Mae trais wedi
cynyddu 2% ar un llaw neu wedi gostwng 5% ar y llaw arall, ond maent yn
cytuno bod cynnydd o 28% wedi bod o ran lladradau ar y stryd (plant a
ffonau symudol yn bennaf), er yn Llundain mae hyn wedi sefydlogi gyda
gostyngiad yn ôl i ffigyrau y llynedd.
15fed Gorffennaf
Bydd cyfanswm y gyllideb addysg yn cynyddu o £45 biliwn i £58biliwn
erbyn 2005/2006, gan gynrychioli cynnydd o 6% mewn gwirionedd ar gyfer
y tair blynedd nesaf. Esboniodd y Canghellor mai £50,000 fyddai'r
taliadau ychwanegol mewn nawdd uniongyrchol i ysgol gynradd "nodweddiadol"
gyda £165,000, yn cynyddu i £180,000, ar gyfer ysgol uwchradd
"nodweddiadol" fesul blwyddyn. Ar ôl chwyddiant, bydd
gwariant ar gyfartaledd fesul disgybl yn cynyddu i £4,900, mwy na
50% yn uwch nag yn 1997.
16eg Gorffennaf
Mae elusennau yn methu â chael y gorau o'u hadrannau cyfathrebu,
sy'n effeithio ar eu gallu i godi arian. Dyna a ddywedwyd heddiw yng Nghonfensiwn
y Sefydliad Codi Arian (Institute of Fund Raising).
17eg Gorffennaf
Mae ymchwilwyr gwyddonol Prydain wedi dangos am y tro cyntaf bod deunydd
DNA wedi'i addasu o gnydau yn llwyddo i ganfod ei ffordd at facteria yn
y coluddyn dynol, gan godi cwestiynau difrifol iawn am iechyd.
25ain Gorffennaf
Agor 18fed Gemau'r Gymanwlad ym Manceinion.
Posibilrwydd o Herwgipio awyren dros Lundain
Cafwyd gorchymyn gan Lys yn Sweden i gadw dyn dan amheuaeth o gynllunio
herwgipio awyren ar ei ffordd i Lundain yn y ddalfa am bythefnos yn ychwanegol.
Awst
Maurice Denham yn marw. Bu farw'r actor cymeriad o Brydain wnaeth ymddangos
mewn dros 100 o ffilmiau gan gynnwys "Day of the Jackal", "84
Charing Cross Road" a "Nicholas & Alexandra", ym mis
Awst yn 92 mlwydd oed.
4ydd Awst
Gemau'r Gymanwlad yn dod i ben ym Manceinion ar y 4ydd Awst ym mhresenoldeb
y frenhines.
4ydd Awst
Holly Wells a Jessica Chapman, merched deng mlwydd oed yn mynd ar goll
yn Soham, Swydd Caergrawnt.
5ed Awst
Cafodd uwch reolwr oedd yn gyfrifol am system awyru a oedd yn ôl
pob golwg wedi arwain at argyfwng clefyd y llengfilwyr yn Barrow ei wahardd
ddoe, fel y tyfodd nifer yr achosion ysbyty a gadarnhawyd o'r clwy i 47.
Mae pum ysbyty yn y gogledd orllewin yn trin mwy na 70 achos tybiedig
neu achosion wedi'u cadarnhau o'r clwy -- y cyfan ohonynt yn bobl a oedd
yn ôl pob golwg o fewn neu'n agos at Forum 28, man adloniant sy'n
eiddo i'r Cyngor lle'r oedd y system awyru yn chwythu stem heintus i mewn
i lôn gul.
10fed Awst
Dyma'r seithfed dydd o chwilio am Holly Wells a Jessica Chapman, y merched
ysgol sydd ar goll. Mae hwn wedi dod un o helfeydd mwyaf yr heddlu yn
hanes troseddol Prydain -- yn ail yn unig i'r chwilio am Sarah Payne oedd
yn wyth mlwydd oed.
17eg Awst
Cyhoeddodd yr heddlu fod gwr 28 mlwydd oed a gwraig 25 mlwydd oed wedi'u
harestio ar amheuaeth o ladd Holly a Jessica. Cafodd y dyn ei ddal ar
amheuaeth o ladd a herwgipio a'r wraig ar amheuaeth o ladd ar ôl
dod o hyd i "eitemau pwysig iawn" wrth chwilio yng Ngholeg Soham.Yn
ddiweddarach, daethpwyd o hyd i ddau gorff a chadarnhawyd hwy fel y merched
oedd ar goll.
19eg Awst
Mae pedoffilyddion wedi ceisio gwneud cysylltiad â mwy nag un mewn
pum plentyn tra'r oeddynt oddi cartref, yn ôl astudiaeth.
Cafodd cyfanswm o 2,420 o blant rhwng 9 ac 16 mlwydd oed o'r gogledd orllewin
eu cwestiynu gan Brifysgol Huddersfield -- yr astudiaeth gyntaf ar raddau'r
peryglon sy'n wynebu plant pan fyddant oddi wrth y cartref.
Gwelodd yr ymchwilwyr fod y plant a arolygwyd mewn mwy o berygl oddi wrth
rhywun yr oeddynt yn eu hadnabod yn hytrach na dieithriaid, er eu bod
oddi wrth cartrefi eu hunain.
Medi.
Katrin Cartlidge yn marw. Bu farw'r actores o Brydain a ymddangosodd mewn
cyfres o ffilmiau da gan gynnwys "Topsy Turvy", "No Man's
Land", "Breaking the Waves" a "From Hell" (2001),
o wenwyn bwyd tybiedig ym mis Medi yn 41 mlwydd oed.
Medi
Michael Elphick yn marw. Bu farw'r actor o Brydain oedd yn enwog am rolau
cofiadwy mewn nifer o gyfresi Saesnig ar y teledu ynghyd â mwy na
40 ffilm gan gynnwys "Quadrophenia" a "Elephant Man",
ym mis Medi o drawiad honedig ar y galon yn 55 mlwydd oed.
4ydd Medi
Rhoddir y ddyfais tracio cyntaf ar ffurf microchip ar Danielle Duval 11
mlwydd oed, o Reading, Berkshire.
12fed Medi
Gofynnir am help y FBI gydag achos Milly Dowler, merch ysgol sydd ar goll.
Maent yn credu bod ffilm o gamera CCTV yn dangos delwedd o ffigwr yn sefyll
wrth gerbyd salwn tywyll.
19eg Medi
Darganfyddir corff mewn coetir 25 milltir o'r man lle gwelwyd Milly Dowler
ddiwethaf. Mae swyddogion fforensig a phennaeth yr archwiliad i ddiflaniad
y ferch ifanc yn ceisio ei adnabod.
20fed Medi
Dywed yr Heddlu eu bod yn credu mai corff Milly yw'r un a ganfyddwyd yn
y coed. Mae'r achos yn dod yn archwiliad i Lofruddiaeth.
22ain Medi
Cefn Gwlad yn Gorymdeithio trwy'r ddinas!
Fe wnaeth bywyd arferol yn Llundain sefyll yn stond oherwydd un o'r protestiadau
mwyaf y mae'r brifddinas wedi'i gweld mewn blynyddoedd. Daeth dros 400,000
o bobl i'r brifddinas i brotestio dros nifer o faterion sy'n effeithio
ar bobl sy'n byw a gweithio yng Nghefn Gwlad Prydain. Mae nifer o'r farn
bod deddfwriaeth dros y blynyddoedd nesaf yn allweddol i ddiboblogi gwledig
a dirywiad y ffordd draddodiadol o fyw yng nghefn gwlad a hamdden.
22ain Medi
Mae technoleg ffotofoltäig yn ecsbloetio rhinweddau deunyddiau lled-ddargludo
megis silicon i ryddhau trydan pan fyddant yn cael eu datgelu i olau dydd.
Mae'r dechnoleg wedi bod mewn bodolaeth am gryn amser, ond disgwylir i'r
defnydd o baneli PV gynyddu gyda'r cynllun cymorth grant cyntaf i gartrefi.
Bydd y llywodraeth yn talu hyd at hanner y costau i berchnogion tai, a
hyd at 65% ar gyfer rhai adeiladau cyhoeddus.
23ain Medi
Siglwyd nifer o rannau o Loegr a Dwyrain Cymru gan Ddaeargryn pwerus am
1:30am oedd yn mesur 4.8 ar y raddfa Richter. Soniwyd am ddifrod o natur
lai i adeiladau a bu llinellau ffôn y gwasanaethau brys yn brysur
gyda thrigolion pryderus a oedd wedi'u deffro gan luniau a dodrefn yn
symud am gyfnod o amser.
3ydd Hydref
Dechreuodd 2,000 o filwyr Prydain ar ymarferion o bwys ar ddydd Mawrth
ond mae swyddogion milwrol yn gwadu nad oes gan hyn unrhyw beth i'w wneud
â'r paratoadau ar gyfer rhyfel yn Irac.
Methu wnaeth trafodaethau rhwng undebau a chyflogwyr
dros y dyfarniad cyflog a gynigwyd gan y llywodraeth i ddynion tân
dros gyflog ac amodau gwell.
21ain Hydref
Gwelwyd mewn arolwg TGCh diweddar mai'r eitemau mwyaf amlwg mewn cartrefi
oedd peiriannau fideo (87%), Cyfrifiaduron gyda Mynediad at y Rhyngrwyd
(35%), Teledu lloeren (27%), camerâu fideo (24%), Teledu gyda sgrîn
fawr (21%), Teledu cebl (19%) a chwaraewyr DVD (17%). Roedd 45 miliwn
yn arwyddo i gael ffôn symudol ym Mhrydain. Mae pobl dal eisiau
prynu'r dyfeisiau technolegol diweddaraf hyd os nad ydynt yn gallu ymdopi
gyda'r holl ddewisiadau a ddaw o hynny. Bydd rhaid i'r Teledu esblygu
dros y 10 mlynedd nesaf i'w helpu i ymdopi.
25ain Hydref
Richard Harris yn marw. Bu farw'r actor a aned yn Iwerddon o afiechyd
'Hodgkin's' yn 72 mlwydd oed. Roedd yn enwog fel un o bobl wylltaf y byd
gwneud ffilmiau gyda ffilmiau gwych megis "Camelot", "This
Sporting Life", "A Man Called Horse", "Unforgiven"
a "Gladiator" a ffilmiau "Harry Potter" yn fwy diweddar.
Cafodd gân lwyddiannus iawn yn 1968 gyda "Mac Arthur Park".
14eg Tachwedd
Ymladdwyr tân yn mynd ar streic. Mae 800 o Gerbydau Tân 'Green
Goddess' neu Gerbydau Tân y Fyddin wedi cael eu trefnu ar draws
Prydain.
Bu farw pensiynwraig 73 mlwydd oed mewn tân ty yn Y Drenewydd, Powys.
Fe wnaeth yr ymladdwyr tân lleol adael y streic i helpu gyda'r argyfwng.
1af Tachwedd
Beirniadodd Kim Howells, y gweinidog diwylliant y celfwaith diweddaraf
sy'n cael ei arddangos ar gyfer Gwobr Turner fel "conceptual bull***t".
Tachwedd
Bu farw Myra Hidley, llofrudd enwog y 'Moors', yn y carchar.
26ain Tachwedd
Cytunodd David Blunkett ddoe i newid y gyfraith i drosglwyddo ei bwerau
i farnwyr o ran gosod lleiafswm yr amodau carcharu i lofruddwyr sydd wedi'u
dedfrydu, ar ôl i saith o arglwyddi'r gyfraith ddyfarnu ei fod wedi
torri'r confensiwn Ewropeaidd ar hawliau dynol.
Mae ieithyddion y llywodraeth yn credu mai llais Osama
bin Laden yw'r un ar dap sain newydd yn clodfori ymosodiadau terfysgol
diweddar a ddarlledwyd ar deledu Arabaidd.
Mae Paul Burrell, cyn fwtler y Dywysoges Diana, wedi
gwneud honiadau ynglyn â threisio cydweithiwr gan gynorthwy-ydd
i'r Tywysog Charles yn y palas. Roedd Burrell yn wynebu dedfryd yn ddiweddar
mewn achos yn yr uchel lys. Dilëwyd yr achos ar ôl i'r Frenhines
roi tystiolaeth hwyr.
10fed Rhagfyr
Cafodd pecyn gwerth £5.5biliwn o welliannau trafnidiaeth eu dadorchuddio
gan Mr Darling, gyda dros £3 biliwn o hyd i'w wario ar adeiladu
ac estyn ffyrdd. Roedd grwpiau amgylcheddol dig yn cyhuddo'r llywodraeth
o newid eu meddyliau o ran y polisi ar hyrwyddo cludiant cyhoeddus.
13eg Rhagfyr
Mae'r Adran Trafnidiaeth yn cyfaddef na fydd targedau i leihau tagfeydd
traffig erbyn 2010 yn cael eu cwrdd.
19eg Rhagfyr
Lluoedd Prydain yn paratoi ar gyfer Rhyfel ar Irac.
23ain Rhagfyr
Cafodd cyn uwch gadlywydd o'r Khmer Rouge ei ddedfrydu i garchar am oes
am fod y tu cefn i gynllwyn i herwgipio a lladd tri theithiwr o'r gorllewin,
gan gynnwys gwr o Brydain, yn 1994.
7fed Ionawr 2003
Prydain yn galw 1500 milwr wrth gefn a milwyr meddygol i fod yn barod
am ryfel ag Irac.
Arestio Terfysgwyr.
Cafodd 6 gwr o Algeria eu harestio o dan y Ddeddf Atal Terfysgaeth yn
Llundain gyda'r gwenwyn Ricin yn eu fflat.
|
Dydd Gwener 1af Ionawr
Ewrop yn cymryd y cam hanesyddol i lansio arian sengl a fydd yn arwain
yn awtomatig at ddileu arian unigol mewn 11 gwlad ar ddiwedd Mehefin 2002
ar yr hwyraf. Nid yw Prydain yn derbyn yr arian sengl, ond nid yw ychwaith
wedi dweud na fydd yn ymuno yn ddiweddarach.
9fed Ionawr
Yr adran cyfiawnder yn agor archwiliad troseddol ar Enron a'i rôl
yn sgandal mwyaf y byd hyd yn hyn.
Mae Enron, y cawr ynni corfforaethol o'r UDA wedi osgoi talu biliynau
o ddoleri mewn trethi gyda chymorth rhai o gyfrifwyr, banciau buddsoddi
a chyfreithwyr gwychaf y genedl ("some of the nation's finest"),
yn ôl adroddiad a gyhoeddwyd yn ddiweddar. Mae cwymp Enron dros
ddyledion cudd yn gadael nifer o'i weithwyr heb gronfeydd ymddeoliad,
yn codi cwestiynau dros ei gysylltiadau â gweinyddiaeth Bush a
llywodraeth Blair, ac yn dinistrio gyrfa Arthur Andersen, archwiliwr
Enron.
Ion 11
"lumpy sauce decision simmers on".
Cyfarfu pwyllgor aneglur yr UE ym Mrwsel i benderfynu a ddylid codi'r
"lump threshold" o 20% i 30% ar sawsiau coginio ar gyfer gwneuthurwyr.
Yn ôl diffiniad yr UE, ystyrir unrhyw beth sydd dros y trothwy
yn llysieuyn. Roedd rhai gwneuthurwyr yn gandryll am reolau'r UE ar
dewder sawsiau ac am weld dileu'r rheolau hyn yn llwyr fel y gellir
mewnforio ac allforio eu cynnyrch gyda phrisiau saws is na'r pris llysiau
ofnadwy o uchel a all yn ôl pob golwg gyrraedd 288% fel yn erbyn
20%. Mae'r pwyllgor wedi gohirio'r penderfyniad tan y mis nesaf.
Ionawr
Astrid Lindgren, 94, crëwr 'Pippi Longstocking' yn marw
12 Ionawr
Nathan Chapman, 31, yw milwr cyntaf America i farw wrth ymladd yn erbyn
Afghanistan.
Bydd Slobodan Milosevic cyn Arlywydd Iwgoslafia, yn
wynebu prawf unigol am droseddau rhyfel y mis hwn a fydd yn archwilio
ei rôl mewn erchyllterau a gyflawnwyd yn ystod y rhyfel wyth mlynedd
yn Croatia, Bosnia ac yn ddiweddar yn Kosovo yn 1999.
Bydd gwr penfoel o'r UDA sydd dan amheuaeth o fod yn
aelod o'r Taliban yn dychwelyd adref i wynebu cyfiawnder. Ymddangosodd
John Walker Lindh, Americanwr 20 mlwydd oed a ymladdodd dros y Taliban,
o flaen y llys yn Virginia ddoe i wynebu honiadau o gynllwynio i ladd
ei gyd-ddinasyddion.
Chwefror
Gordon Matthews, dyfeisiwr yr e-bost yn marw.
1af Chwefror
Hildegard Knef yn marw. Bu farw'r actores Almaenig gyda'r llais melfedaidd
a ddaeth yn enwog yn America am ei pherfformiad fel comisâr Sofietaidd
yn "Silk Stockings" gan Cole Porter ac a ymddangosodd yn "The
Snows of Kilimanjaro", yn Berlin ar Chwef. 1 yn 76 mlwydd oed.
10fed Chwefror
Mae gwyddonwyr o'r grwp cadwraeth WWF wedi rhagdybio y bydd 80 y cant
o'r 155 cynefin bywyd gwyllt pwysicaf yn wyddonol yn cael eu dinistrio
gan gynnydd mewn tymheredd. Y rhai fydd yn cael eu dinistrio fwyaf fydd
Twndra Artig Isel Canada; taiga coediog Mynyddoedd yr Wral yn Rwsia;
y pwna sych Andeaidd yng nghanol Chili, Yr Ariannin a Bolifia; Paith
Daurian ym Mongolia; safana gogledd ddwyrain India a Nepal; ac ardal
blanhigol (fynbos) de Affrica.
Mawrth
Billy Wilder, 95, cyfarwyddwr ffilmiau ac awdur yn marw.
7fed Mawrth
Lluoedd Israel yn ymosod ar Llain Gaza, Israel. Ysgrifennydd Colin L.
Powell yn ceryddu Prif Weinidog Israel, Ariel Sharon am ddwysáu'r
trais.
Pashtuns yn Ffoi
Mae'r Pashtuns o ogledd Affganistan yn ffoi o'u pentrefi yn y miloedd
erbyn hyn, gan adrodd straeon am lofruddiaeth, trais a dwyn.
Cafwyd galw am fwy o filwyr Americanaidd a Hofrenyddion
ddydd Mercher i ymuno yn yr hyn sydd wedi dod yn frwydr o bwys yn y
rhyfel Affganistanaidd pum mis.
11eg Mawrth
Yr Arlywydd Bush yn datgan fod yr Unol Daleithiau yn barod i hyfforddi
a darparu cymorth milwrol i "governments everywhere" i ymladd
yn erbyn terfysgaeth a'r hyn a ddywedodd a fyddai'n frwydau y tu hwnt
i Affganistan.
12fed Mawrth
Sergei B. Ivanov, Gweinidog Amddiffyn Rwsia heddiw'n rhybuddio bod cynnig
America mewn sgyrsiau lleihau arfau i storio ("warehouse")
arfbennau sydd dros ben yn hytrach na'u dinistrio ond yn annog cynyddu
arfau niwclear ac y byddai hyd yn oed yn gallu symbylu math newydd o
ras arfau.
Tsieina'n protestio
Bu oddeutu 5,000 o weithwyr o chwe ffactri sydd wedi dod yn fethdalwyr
yn ddiweddar yn protestio a rhwystro traffig yn ninas Liaoyang ddoe,
gan gwyno bod ar y ffactrïoedd flwyddyn neu fwy o gyflogau iddynt
ac yn cyhuddo swyddogion o dwyll.
12fed Mawrth
Cafodd y Deyrnged Olau (Tribute of Light) ar gyfer y Ddau Dwr (Twin
Towers), sy'n filltir o uchder ac i'w gweld 20 milltir i ffwrdd, eu
troi ymlaen wedi i'r Arlywydd Bush ddechrau ar ail gam y rhyfel ar derfysgaeth.
Chwe mis i'r diwrnod ers i'r awyrennau a herwgipiwyd ymosod ar Efrog
Newydd a Washington, dywedodd Mr Bush ei fod yn bwriadu rhwystro eithafwyr
'al-Quaeda' rhag sefydlu hafanau newydd, gan ddechrau gydag Yemen, Georgia
a'r Philippines.
14eg Mawrth
Marion, Iarlles Donhoff yn marw
Yr uchelwraig o Brwsia oedd yn ymwneud â chynllwyn i ddienyddio
Hitler a ddaeth yn un o brif newyddiadurwyr Almaen.
Mawrth 17
Islamabad, Pakistan. Cerddodd dau ddyn i mewn i eglwys Brotestannaidd
yn agos at Llysgenhaty America gan daflu sawl grenâd. Lladdwyd
pump o bobl, gan gynnwys gweithiwr yn y llysgenhadaeth a'i ferch.
Arwisgwyd yr Arlywydd Robert Mugabe o Simbabwe ar ddydd
Sul, ar ôl ei ddatgan yn enillydd yr etholiad mwyaf cynhennus
ers iddo ddod i rym yn 1980.
Mae gwyddonwyr wedi gwneud camau breision gyda chyfrifiadur
DNA, sy'n gallu mewn theori cyflawni triliynau o gyfrifiadau mewn eiliadau.
Rhyddhawyd Telesgop Ofod 'Hubble' wedi'i adnewyddu
gan wennol ofod 'Columbia' 365 milltir uwchben y Ddaear ar ddydd Sadwrn.
Arwyddion o Lifogydd Mawr ar y blaned Mawrth.
Mae ffotograffau newydd o long ofod Arolygu'r blaned Mawrth yn awgrymu
bod yna rhai llifogydd wedi bod yn gymharol ddiweddar. Mae tystiolaeth
bod rhan mewnol y blaned Mawrth yn parhau'n weithgar yn ddaearyddol.
Y silff iâ yn Antartica yn dadfeilio. Dywed Ymchwilwyr
mai dyma'r tro cyntaf mewn miloedd o flynyddoedd y gwelwyd cymaint o
erydu iâ ar arfordir dwyreiniol y penrhyn siâp braich yn
Antartica.
19eg Mawrth
Jakarta, Indonesia. Pedwar swyddog milwrol, y diffynyddion milwrol cyntaf
yn sefyll prawf dros Ddwyrain Timor.
Ewrop yn rhoi pwysau ar U.D. A ar Brisiau Dur
Gwnaed ymdrechion ffurfiol heddiw gan drafodwyr masnach o'r Unol Daleithiau
a'r Undeb Ewropeaidd 15 cenedl i drafod setliad yn ymwneud â chwynion
Ewropeaidd bod prisiau yn cael eu gwahardd dan reolau Sefydliad Masnachu'r
Byd (World Trade Organization).
Mawrth, - uwch-gynhadledd Arabaidd yn gwrthod gweithred
filwrol yn erbyn Irac
26ain Mawrth
Ofnau bod mwy nag 1,500 o bobl yn farw ar ôl cyfres o ddaeargrynfeydd
yn taro mynyddoedd Hindu Kush yn Affganistan.
28ain Mawrth
Gelyn y dalaith
Cyhuddo Arafat o fod yn elyn y dalaith gan Israel ac yn cael ei gornelu
yn ei adeiladau llywodraethol gan filwyr Israel.
Ebrill
Ruth Handler, dyfeiswraig doliau Barbie i ferched yn marw.
1af Ebrill
Mae cynnydd mewn digwyddiadau gwrth-iddewig wedi annog y Prif Weithredwr,
Lionel Jospin i ddefnyddio 1,110 o swyddogion heddlu ychwanegol i ddiogelu
synagogau ac ysgol Iddewig Ffrainc.
Y Dde Eithafol yn rhagori ar y sosialwyr yn Ffrainc.
28ain Ebrill
Seroxat yn hytrach na Prozac i'w ddefnyddio fel y cyffur ar draws y
byd ar gyfer iselder ysbryd.
2il Mai
Sihung Lung yn marw.
Bu farw'r actor o Taiwan a fu'n chwarae cymeriadau tadol mewn ffilmiau
gan Ang Lee megis "The Wedding Banquet" ac "Eat Drink
Man Woman" yn Taipei ar Fai 2 yn 72 mlwydd oed.
22ain Mai
Ffrwydrad yn siglo Tref Israelaidd Rishon Letzion gan achosi nifer o
anafiadau.
Mae ysgarmes ar y ffin, ymosodiad gwleidyddol ar Senedd
India a thensiwn dros Kashmir wedi arwain at argyfwng diplomyddol a
thebygolrwydd mawr o weithredu milwrol yn y rhanbarth.
Ystyriwyd bod y perygl o ryfel niwclear yn uchel iawn.
Dywedodd Atal Behari Vajpayee wrth filwyr Indiaidd ar hyd y ffin sy'n
llawn tensiynau yn Kashmir ar ddydd Mercher i baratoi ar gyfer "decisive
battle" yn erbyn terfysgaeth.
19eg Mai
Newyn yn Rhanbarth De Affrica - Mae Malawi yn dweud bod dros 12 miliwn
o bobl yn newynu i farwolaeth. Mae angen bwyd ar frys wedi i gnydau
yd fethu unwaith eto.
Dydd Gwener, Mai 24, 2002
U.D.A. a Rwsia yn Arwyddo Cytundeb Lleihau Arfau Niwclear i leihau eu
hystordai arfau niwclear i rhwng 1,700 a 2,200 o arfau rhyfel dros y
degawd nesaf.
Mae Pakistan yn paratoi i symud milwyr o'r ffin ag
Affganistan i'r ffin yn Kashmir, lle mae tensiynau gydag India yn cynyddu'n
gyflym.
Pakistan yn dechrau profi taflegrau.
Aeth awyren Boeing 747-200 o 'China Airlines' gyda
225 o deithwyr a chriw arni i mewn i'r môr heddiw ar daith o Taiwan
i Hong Kong.
26ain Mai
Gofynnodd yr Arlywydd Bush i Pakistan roi terfyn i gyrchoedd gan filwriaethwyr,
tra'r oedd yr Arlywydd Vladimir V. Putin o Rwsia yn rhoi pwysau am drafodaethau
newydd yn y rhanbarth.
Mehefin
Spud Melin, cydsylfaenydd y 'Wham-O toy' yn 'company USA' a wnaeth glasuron
megis y 'Hula-Hoop' a'r 'Frisbee' ym myd y teganau yn marw.
7fed Mehefin
Yr Arlywydd Bush o U.D.A. yn datgelu cynlluniau i dynhau diogelwch ar
dir mewnol America.
India yn gwneud consesiynau i dawelu'r tensiynau rhyngddi a Pakistan
a Kashmir. Mewn ymgais i leihau tensiynau, fe gymerodd India yr hyn
a alwodd yn "significant step" heddiw trwy gyhoeddi bod ymgyrchoedd
hedfan i ac oddi wrth Pakistan yn mynd i gael eu dirwyn i ben yn fuan.
India a Pakistan yn tynnu'n ôl rhag mynd i Ryfel
Niwclear.
U.D.A. yn arestio Dyn am Gynllwyn Honedig ar gyfer
Ymosodiad Bom Ymbelydrol.
Daeargryn yn Iran
Cafodd gogledd orllewin Iran ei ysgwyd gan ddaeargryn cryf heddiw, gan
ladd o leiaf 500 o bobl ac anafu 1,600 - dyna oedd cyhoeddiad y wasg
yn Iran sy'n cael ei rheoli gan y dalaith.
Gorffennaf.
Rod Steiger yn marw. Bu farw'r actor sydd wedi ennill gwobrau'r Academi
ac sy'n enwog am ffilmiau clasurol megis "On the Waterfront"
ac "In the Heat of the Night" ar ôl cymhlethdodau wedi
llawdriniaeth ar y goden fustl yng Ngorffennaf yn 77 mlwydd oed.
Gorffennaf
Y Cadfridog Choi Hong Hi, sylfaenydd y grefft ymladd a adwaenir fel
'Tae Kwon Do' yn yr 1940au yn marw.
5ed Gorffennaf
Dyn â gwn yn dechrau tanio tuag at ddesg docynnau 'El Al' ym maes
awyr rhyngwladol Los Angeles, gan ladd dau o bobl ac anafu pedwar cyn
iddo gael ei saethu'n farw gan swyddog diogelwch.
13eg a 14eg Gorffennaf
Mae asiantaethau gorfodi'r gyfraith yn U.D.A wedi bod yn gweithio law
yn llaw â byddin America yn Pakistan mewn ymgais anghyffredin
i ddod o hyd i ymladdwyr 'Al Qaeda'.
27 o hindwiaid yn cael eu lladd mewn ymosodiad gan
Kashmir ar slymiau llawn. India yn beio Pakistan heddiw am ymosodiad
gan herwfilwyr Islamaidd sydd dan amheuaeth.
14eg Gorffennaf
Cefnogwr Neo Nazi yn ymdrechu i lofruddio Arlywydd J Chirac o Ffrainc
ar ddathliadau Diwrnod y Bastille ym Mharis.
11-14eg Awst
Llifogydd
Almaen, Awstria a'r Weriniaeth Tsiec yn boddi mewn llifogydd. Galw Salzburg
yn ardal argyfwng. Prague o dan 16 medr o ddwr a miloedd yn cael eu
symud yn y llifogydd gwaethaf a welwyd mewn 150 o flynyddoedd, tra bo
rhannau eraill o ganolbarth Ewrop yn parhau'n wyliadwrus.
Awst
Uwch-Gynhadledd Daear y Cenhedloedd Unedig yn Johanesburg. Mwy na 100
o arweinyddion y byd yn ymuno yn uchafbwynt y Gynhadledd. Mae materion
yn cynnwys hyrwyddo ynni glân, diogelu stociau pysgod ac ymladd
yn erbyn Aids.
31ain Awst
Daeth ofnau i'r wyneb eto am sefydlogrwydd ym Macedonia ddoe cyn etholiadau
o bwys ar ôl i'r heddlu ladd dau wr ethnig o Albania ac wrth i
luoedd arbennig ddod yn agosach at ddal herwgipwyr tybiedig a gipiodd
5 o bobl o Macadonia.
Medi 4ydd
Mugabe yn ymosod ar Brif Weinidog Prydain gan ddweud wrtho i beidio
ag ymyrryd ym materion Zimbabwe. Ffermwyr gwyn yn cael eu gorfodi oddi
ar eu tiroedd a sgwatwyr neu gefnogwyr plaid rheoli Mugabe yn meddiannu'r
ffermydd. Yn y cyfamser, nid yw 90% o'r ffermydd yn cynhyrchu cnydau
ac mae newyn yn gyffredin.
Uchel Lys Israel yn dyfarnu y gellir symud perthnasau
Palesteinaidd a ddrwgdybir o fod yn derfysgwyr o'r Glan Orllewinol i
Llain Gaza.
Medi
Kim Hunter yn marw. Bu farw'r actores, sydd wedi ennill Oscar am "Streetcar
Named Desire" yn 1951 ac sydd yn fwy adnabyddus yn ôl pob
tebyg am ei rôl fel Dr. Zira yn y tair ffilm 'Planet of the Apes',
o drawiad ar y galon ym mis Medi yn 79 mlwydd oed.
11eg Medi
America'n cofio'r ymosodiad ar ganolfan fasnachu'r byd flwyddyn ar ôl
y digwyddiad. Yr Arlywydd Bush yn bwriadu herio'r Cenhedloedd Unedig
i orfodi penderfyniadau a basiwyd mewn perthynas ag Irac. Bydd y Cadfridog
Kofi Annan yn annog America i beidio â gweithredu ar ben ei hunan.
Bygythiad gan yr Arlywydd Vladimir V. Putin ar ddydd
Mercher i orchymyn ymosodiadau milwrol yng nghyn-weriniaeth Sofietaidd,
Georgia.
17eg Medi
Irac yn derbyn Arolygwyr y Cenhedloedd Unedig heb amodau i archwilio
arfau dinistriol. America a'r cynghreiriaid yn ymatal rhag mynd i ryfel.
Arlywydd U.D.A yn dweud bod hyn yn dechneg oedi.
30ain Medi
Ym Mrwsel, mae 15 o genhedloedd yr Undeb Ewropeaidd wedi cytuno i eithrio
milwyr a swyddogion llywodraeth America rhag cael eu herlyn am droseddau
rhyfel yn y Llys Troseddau Annibynnol. Daethpwyd i'r cyfaddawd hwn yng
nghyfarfod gweinidogion tramor yr UE ar ddydd Llun ac roedd hyn bron
â chyflawni'r gofyniad gan weinyddiaeth Bush sef i roi eithriad
i bob un o weithwyr y llywodraeth. Pwysleisiodd swyddogion Ewropeaidd
nad oedd hyn yn tanseilio'r llys.
7fed Hydref
Israeliaid yn lladd 13 ar gyrch yn nhref Gaza
Cafwyd beirniadaeth anghyffredin gan weinyddiaeth Bush ynglyn â'r
cyrch, a dywedodd bod Israel yn peryglu dinasyddion.
Ymosodiad ar dancer olew Ffrengig oddi ar arfordir
Yemen - tystion yn sôn am gwch yn llawn o ffrwydron yn cael ei
yrru ar gyflymder uchel i mewn i'r llong. Dim marwolaethau.
2il Hydref
Canfod Jakob von Metzler, bachgen 11 mlwydd oed - aelod ieuengaf teulu
bancio mwyaf parchus Almaen - wedi'i ladd gan ei herwgipwyr. Bu farw
er gwaethaf y ffaith bod ei deulu wedi rhoi 1m ewro (£630,000)
i'r herwgipwyr. Aeth ton o arswyd trwy ganolfan ariannol cyfandir Ewrop
o ganlyniad i'r newyddion gan roi hwb i nifer o'i dinasyddion cyfoethocaf
i ystyried diogelwch llymach i'w hunain a'u teuluoedd.
11eg Hydref
Cenhadon Americanaidd yn pwyso am eithriad llawn gan y llys troseddau
rhyfel.
Cyngres U.D.A yn cefnogi rhyfel
Pleidleisiodd y Senedd, gan ymuno â'r Ty Gwyn, yn gynnar y bore
yma i awdurdodi'r Arlywydd Bush i ddefnyddio grym yn erbyn Irac.
12fed Hydref
Cyn Arlywydd America, Jimmy Carter yn ennill y Wobr Heddwch Nobel heddiw
am ddod o hyd i atebion heddychlon i wrthdrawiadau rhyngwladol, ac am
wneud cynnydd gyda democratiaeth a hawliau dynol.
12fed Hydref
Ymosodiad terfysgol gyda bom yn lladd mwy na 190 o bobl - yn Bali. Bom
mewn car a gafodd ei thanio o flaen clwb nos. Awstralia yn paratoi ei
hunan i glywed am farwolaethau.
13eg Hydref
Helsinki: Roedd dyn a osododd bom o dan ganolfan siopa mewn ardal drefol
yn Helsinki yn un o saith o bobl a fu farw yn y ffrwydrad. Anafwyd 80
o bobl.
Mae swyddogion gwybodaeth U.D.A. wedi dod i'r casgliad
bod Pakistan yn gyflenwr offer critigol o bwys ar gyfer rhaglen arfau
niwclear Gogledd Korea sydd wedi'i datgelu'n ddiweddar.
20fed Hydref
Saddam Hussein, arlywydd Irac yn agor y carchardai gan adael i gannoedd
o garcharorion gwleidyddol a charcharorion rhyfel fynd yn rhydd. Protestiadau
gan deuluoedd sy'n gweld bod perthnasau wedi diflannu wrth law y lluoedd
diogelwch.
24ain Hydref
Saethwr yn U.D.A wedi cael ei ddal
Awdurdodau yn arestio dau ddyn y canfuwyd yn cysgu mewn car mewn arhosfan
gorffwys ym Maryland mewn cysylltiad ag ymosodiadau gan saethwyr sydd
wedi lladd 10 o bobl.
25ain Hydref
40 o derfysgwyr o Chechnya yn meddiannu Theatr ym Moscow gan gymryd
cyn gymaint â 700 o bobl fel gwystlon a bygwth ffrwydro'r adeilad.
Lladdwyd mwy na 120 o wystlon wrth i luoedd arbennig Rwsia ymosod ar
y theatr ym Moscow. Lladdwyd pob un o'r 41 milwr o Chechnya hefyd oedd
yn gyfrifol am y cyrch.
Cyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig yn derbyn cynnig
i anfon gwyddonwyr i Irac i chwilio am arfau dinistriol neu wynebu'r
canlyniadau gan UDA a'i chynghreiriaid.
18fed Tachwedd
James Coburn yn marw. Bu farw'r actor â'r ddelwedd 'tough-guy'
o drawiad ar y galon ar 18 Tachwedd yn 74 mlwydd oed. Ymddangosodd neu
bu'n seren mewn dros 100 o ffilmiau gan gynnwys perfformiadau gwych
yn "The Magnificent Seven" ac "Our Man Flint", ond
diflannodd o fyd y ffilmiau yn yr 1980au oherwydd cryd y cymalau difrifol,
cyn ymddangosodd eto mewn ffordd ddramatig yn 1998 pan enillodd Oscar
ar gyfer "Affliction".
25ain Tachwedd
Deunaw o arolygwyr y Cenhedloedd Unedig i gyrraedd Baghdad heddiw. Disgwylir
cynnal yr archwiliad cyntaf ddydd Mercher.
27ain Tachwedd
Wolfgang Preiss yn marw. Bu farw'r actor Almaenig ar Dachwedd 27 yn
82 mlwydd oed. Ymddangosodd mewn dros 100 o ffilmiau, gan gynnwys nifer
o ffilmiau Americanaidd megis "Raid on Rommel", "A Bridge
Too Far", "Von Ryan's Express", "The Longest Day"
a chyfresi byr megis "War and Remembrance" a "Bloodline"
gan Sidney Sheldon.
28ain Tachwedd
Dim rhwystr i arolygwyr arfau ar ymweliad â 3 safle yn Irac.
28ain Tachwedd 2002
11 yn cael eu lladd mewn ymosodiadau cydamserol ar Israeliaid yn Kenya.
17eg Rhagfyr
Y deng ffilm gorau erioed. Ddoe, enwodd y Sefydliad Ffilmiau Americanaidd
mawr ei barch ei 10 ffilm gorau ar gyfer y flwyddyn, gan gynnwys "Lord
of the Rings: The Two Towers" a "Gangs of New York" gan
Martin Scorsese ar ei rhestr.
Roedd ffilmiau eraill yn cynnwys "About a boy", addasiad o
lyfr Nick Hornby, "Chicago", "About Schmidt", "Antwone
Fisher", "Frida", "The Quiet American" a "The
Hours".
Daeth "Gangs of New York" yn ail ar restr beirniaid Boston
yn y categori ffilm gorau, ond eu ffefryn gwirioneddol oedd "The
Pianist" gan Roman Polanski, sy'n seiliedig ar stori go iawn am
Wladyslaw Szpilman, cerddor Iddewig a
unigolyn a oroesodd ghetto yn Warsaw. Enillodd Polanski y wobr am y
cyfarwyddwr gorau ac enillodd Adrien Brody y wobr am actor gorau am
ei rôl yn y ffilm.
20fed Rhagfyr
U.D.A yn dweud wrth yr Almaen i sicrhau bod 2000 o filwyr ar gael i
ymdopi â'r gostyngiad mewn milwyr mewn canolfannau milwrol yn
yr Almaen fel y caiff y fyddin ei ail-leoli yn y Gwlff.
28ain Rhagfyr
Fe wnaeth pump o bobl Siapaneaidd a gafodd eu herwgipio gan Ogledd Korea
feirniadu y dalaith Gomiwnyddol yn gyhoeddus ddoe, gan ddisgrifio eu
herwgipio yn 1978 fel "a state-organised crime".
3ydd Ionawr 2003
Arlywydd U.D.A yn chwarae lawr y rhwyg gyda'r cynghreiriaid dros y ffordd
y caiff sefyllfa Korea ei drin.
|