Partneriaid

Gwasanaeth Llyfrgelloedd ac
Archifau Cyngor Sir Powys

Ers ei sefydlu yn 1990, mae Swyddfa Archifau Powys wedi arloesi trwy gyflwyno delweddau digidol o ddeunydd hanesyddol lleol yng Nghymru a Lloegr. Cafodd Prosiect Hanes Digidol Powys ei lansio yn 1995 gan dyfu trwy gyfres o gamau, trwy grantiau, i'w maint presennol, gyda dros 1,000 tudalen ar gael ar lein; mae'r prosiect yn cael ei ddatblygu fel deunydd i blant 9-11 oed i gwrdd ag anghenion Cwricwlwm Cenedlaethol Cymru, trwy Grant Treftadaeth y Lotri.

Amgueddfa ac Oriel
Gelf Brycheiniog

Amgueddfa ac Oriel Gelf Brycheiniog yw amgueddfa ac oriel ranbarthol de Powys. Mae'n casglu dogfennau, ac yn cadw, arddangos a dehongli deunyddiau naturiol, cyn hanesyddol, hanesyddol a chelfyddydol perthnasol i'r ardal er budd y cyhoedd. Mae hefyd yn darparu rhaglen fywiog o arddangosfeydd trwy gydol y flwyddyn, sy'n adlewyrch themâu ehangach yng Nghymru. Mae ganddi raglen gynyddol o welliannau. Mae'r camau sydd wedi'u cwblhau yn cynnwys adnewyddu'r Oriel Gelf; gosod ystafell ddehongli gyda 'sain a golau', sy'n cynnwys ffigurau â gwisgoedd o safon uchel, o Ystafell wreiddiol y Brawdlys; darparu mynediad i'r anabl i bob llawr a arwyddion mewnol dwyieithog; ac adnewyddu'r siop. Cafwyd nawdd ar gyfer hyn gan Gronfa Treftadaeth y Lotri, Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewropeaidd a'r Bwrdd Croeso. Sefydlwyd Ymddiriedolaeth yn ddiweddar er mwyn cael gwaith celf cydnabyddedig i'r casgliad.

Ffôn: 01874 624121
Ffacs: 01874 611281

Amgueddfa Sir Faesyfed

Sefydlwyd Amgueddfa Sir Faesyfed yn 1930 yn gartref i gwch boncyff a ganfyddwyd ychydig cyn hynny, a thrysorau eraill a gafwyd yn rhodd gan Gymdeithas Sir Faesyfed. Roedd y rhain yn cynnwys cofnod safle llawn o Gastell Collen, un o brif safleoedd amddiffynfa canolbarth Cymru yn erbyn y Rhufeiniaid. Amcanion presennol yr amgueddfa yw i gofnodi a chyflwyno hanes Sir Faesyfed, sy'n cynnwys gwaith allanol mewn ysgolion lleol a chanolfannau cymunedol eraill. Mae ganddi raglen weithgar i Gyfeillion sy'n cynnwys darlithoedd a theithiau, ynghyd â chyfleoedd i wirfoddolwyr o fewn yr amgueddfa ei hunan. Ar hyn o bryd, mae'n ymestyn ei chyfrifoldebau addysgol trwy ddatblygu'i chasgliadau archaeolegol, casgliadau i'w trin, bocsys benthyca, ac fel lle ar gyfer gweithgareddau ac ymweliadau gan ysgolion. Yn olaf, mae'r Amgueddfa'n annog pobl i ddychwelyd trwy gael cyfres o arddangosfeydd dros dro i adlewyrchu diddordeb lleol, sy'n newid yn gyson.

Ffôn: 01597 824513
Ffacs: 01597 825781

Amgueddfa Powysland a
Chanolfan Camlas Sir Drefaldwyn

Sefydlwyd Clwb "Powysland" yn 1867 gan aelodau o'r Trallwng a'r ardal oedd â diddordeb mewn hanes, yn enwedig hanes Canolbarth Cymru. Roedd nifer ohonynt yn berchen ar gasgliadau o eitemau diddorol, a phenderfynwyd dod â'r arteffactau hyn i gyd at ei gilydd a sefydlu amgueddfa. Prynwyd darn o dir ar gornel "Red Bank" a Ffordd Amwythig, ac adeiladwyd amgueddfa - agorwyd yr amgueddfa yn 1874. Yn 1877, i goffau Jiwbilî'r Frenhines Fictoria, trosglwyddwyd yr amgueddfa i ymddiriedolaeth tref y Trallwng. Trosglwyddwyd cyfrifoldeb am redeg yr amgueddfa i Gyngor Sir Powys yn 1974, ond yna yn ystod yr 1980au, daeth yn glir nad oedd yr hen adeilad yn gallu cyfarfod â gofynion amgueddfa gyfoes. Cafodd y casgliad ei symud felly i gyn warws ar Gamlas Trefaldwyn - gwnaed gwaith adnewyddu helaeth a gofalus er mwyn cadw cymeriad yr adeilad, tra'n darparu amgylchedd diogel a chyfforddus i'r casgliad ac ymwelwyr. Agorwyd yr amgueddfa newydd ar 30ain Mai 1990. Yn 1993, enillodd yr amgueddfa Wobr Gulbenkian yn y categori "yr amgueddfa sydd wedi gwneud y gwelliannau gorau mewn ardal wledig"

Ffôn: 01938 554 656

Cymdeithas
Brycheiniog

Cymdeithas Brycheiniog yw'r gymdeithas hanes leol ar gyfer Sir Frycheiniog. Mae'r gymdeithas yn cyhoeddi cyfrol flynyddol o'r drafodion, o dan y teitl Brycheiniog ers 1955. Mae'r gymdeithas, sydd wedi'i hintegreiddio a Chyfeillion Amgueddfa Brycheiniog, wedi chwarae rhan allweddol wrth ddatblygu hanes lleol yn Sir Frycheiniog, ac ar hyn o bryd, mae'n ymwneud â phrosiect hanes llafar sylweddol i gofnodi atgofion nifer fawr o drigolion y sir.

Cymdeithas
Sir Faesyfed

Sefydlwyd Cymdeithas Sir Faesyfed yn 1930 ac mae ei diddordebau'n cynnwys hanes naturiol yn ogystal â hanes lleol Sir Faesyfed. Mae'n cynhoeddi cyfrol flynyddol o drafodion, gyda'r teitl 'The Transactions of the Radnorshire Society' ac mae ganddi ei llyfrgell ac archifdy bychan yn Llandrindod. Mae'r Gymdeithas yn noddi 4 darlith gyhoeddus y flwyddyn, ac mae ganddi Uned Faes, sy'n cyfarfod yn fisol rhwng mis Mawrth a mis Tachwedd.

Clwb Powysland

Sefydlwyd Clwb Powysland yn 1867 a hon yw'r gymdeithas hanesyddol sirol hynaf yng Nghymru. Ymhlith llwyddiannau sylweddol y Clwb mae cyhoeddi wyth deg wyth cyfrol o'i gyfnodolyn, sy'n cael clod academaidd, sef y 'Montgomeryshire Collections', creu amgueddfa gyhoeddus gyntaf Cymru a sefydlu a chynnal un o'r llyfrgelloedd hanesyddol orau yng Nghymru.

Cymdeithas Hanes
Teuluol Powys

Sefydlwyd y gymeithas yn 1980 gan nifer o bobl sydd â diddordeb mewn olhrain eu cyndadau yn un neu fwy o siroedd hanesyddol Brycheiniog, Maesyfed a Threfaldwyn, sydd erbyn hyn yn rhan o sir weinyddol Powys. Amcanion y Gymdeithas yw annog astudiaeth o hanes teuluoedd, ac wrth wneud hynny, annog copio a gwarchod cofnodion a gwybodaeth a fyddai, fel arall, yn cael ei golli. Mae gan y gymdeithas dri grwp (un i bob un o'r siroedd a enwyd) a'r tri yn gweithio ynghyd dan gysgod y prif gymdeithas. Mae pob grwp yn canolbwyntio'n bennaf ar gofnodion ei ranbarth, ond mae aelodaeth yn gyffredin i'r tri. Mae'r aelodau'n cyfnewid gwybodaeth ac yn helpu'i gilydd gyda'u hymchwil.