Am y Prosiect

Mae prosiect Powys: Diwrnod ym Mywyd yn gyfle cyffrous ac arloesol i unrhyw un sydd â diddordeb yn y gorffennol edrcyh ar sut beth oedd bywyd mewn gwirionedd ym Mhowys yn 1891. Gan ganolbwyntio ar beth oedd yn digwydd mewn blwyddyn lle cafwyd cyfrifiad cenedlaethol, mae hyn yn cynnig trawsdoriad trwy holl rannau'r gymuned. Beth oedd yn cael ei ddysgu yn yr ysgolion? Pa droseddau oedd yn cael eu cyflawni? Pwy oedd yn byw yn y tai mawr? Pa waith oedd pobl yn ei wneud? Beth oeddynt yn ei wisgo? Beth oeddynt yn ei fwyta? Pa fath o adloniant oedd ganddynt? Trwy ganolbwyntio ar storiau pobl oedd yn byw yn y cyfnod, mae'r prosiect yn cynnig y cyfle i bobl ddarganfod holl agweddau bywyd canolbarth Cymru yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg drostynt eu hunain.

Byddwn yn gofyn i bobl led led Powys i gyfrannu at 'diwrnod mewn hanes' fydd yn cynnwys dyddiadur o beth fuont yn ei wneud ar y 24ain Medi 2002. Bydd hyn wedyn yn dangos i genedlaethau'r dyfodol sut fath o beth oedd bywyd bob dydd ym Mhowys ar ddechrau'r Unfed Ganrif ar Hugain.

Yna bydd bywyd heddiw'n cael ei gymharu â bywyd dros gan mlynedd yn ôl. Mae'n siwr y bydd ambell syrpreis -- efallai y byddwn yn gweld fod bywyd yn well yn 1891 mewn llawer o ffyrdd!

Bydd y wybodaeth y byddwn yn ei gasglu i'w weld ar y wefan hon dros y misoedd nesaf, a byddwn hefyd yn dangos delweddau diddorol a dogfennau ac arteffactau o amgueddfeydd a Swyddfa Archifau'r sir. Bydd cymdeithasau hanes lleol, yn cynnwys Cymdeithas Brycheiniog, Cymdeithas Maesyfed, Clwb Powysland a Chymdeithas Hanes Teuluoedd Powys hefyd yn cyfrannu deunydd.

Mae'r prosiect hwn yn cael ei ariannu