| |
|
1891 |
Cyfraith a Threfn Y Cyhuddiedig - Edward Bridgett Ychydig iawn sydd i wybod am Edward Bridgett. Mae'n cael ei ddisgrifio ym mhapurau'r achos fel "gynt o blwyf Cefnllys", ond nid oedd yn byw yn y plwyf hwnnw adeg y cyfrifiad ar y 6ed Ebrill 1891. Ar y 13eg o Ragfyr arhosodd yn yr Iard Frics yn Llandrindod. ![]() Dyma fap o Landrindod yn 1905 Arhosodd Edward Bridgett dros nos yn yr Iard Frics cyn dwyn y fest o Rose Cottage cyn y groesfan drenau. Nid oedd yr Iard Frics yn cael ei defnyddio erbyn 1905, ac erbyn hyn, tai sydd yno. Heb y wybodaeth werthfawr o'r cyfrifiad -- a fyddai'n cynnwys ei oed, proffesiwn, man geni, a'i deulu, os oedd teulu ganddo -- roedd yn amhosibl dod o hyd i fwy o wybodaeth amdano. |
¦ Mynegai ¦ Hafan ¦ Addysg ¦ Amodau Cymdeithasol ¦ Bywyd yn y Cartref ¦ Cyfraith a Threfin ¦ ¦ Cymuned ¦ Diwylliant ¦ Gofal Iechyd ¦ Gwaith ¦ Powys: Y Pryd Hynny a Nawr Trafnidiaeth ¦ ¦ Am y Prosiect ¦ Partneriaid ¦ Ffynonellau & Cydnabyddiaeth ¦ Llinell Amser - 1891 ¦ Llinell Amser - 2002 ¦ |
|