| |||||
|
1891 |
Cyfraith a Threfn Sesiwn Fach Y Frenhines v. Edward Bridgett ![]() Cafwyd achos y Frenhines v Bridgett yn (Llyfr Cofnodion) y llys Sesiwn Fach Cefnllys ar y 18fed Rhagfyr 1891. Byddai'r ynadon yn y llys hwn fel rheol yn gwrando ar achosion o ddwyn, lladrata, ymosodiadau, plant ddim yn mynychu ysgolion, anifeiliaid yn crwydro a gorchmynion bastardiaeth. [Gorchymyn bastardiaeth oedd achos lle'r oedd mam sengl yn ymgeisio am gynhaliaeth gan y tad.]
Cyhuddwyd Bridgett o ddwyn fest wlan oddi ar wrych Rose Cottage, Llandrindod ar fore'r 14eg Rhagfyr 1891. Cafodd y fest ei rhoi ar y gwrych yn gynnar y bore hwnnw gan Margaret Harris , golchwraig. Mae ei thystiolaeth yn glir:
Yn fuan wedyn, sylwodd fod y fest ar goll, a chysylltodd â'r heddlu. Deliodd PC William Morris Vaughan â'r achos, gan ddal Bridgett 12 milltir i ffwrdd yn Llanbadarn Fynydd. Cafwyd datganiad hefyd gan Francis Cooke, perchennog y fest. Roedd yn byw yn Ysbyty Bywyd Llandrindod"oherwydd fy iechyd". Mae'r dystiolaeth yn dangos yn glir mai Bridgett oedd wedi dwyn y fest, oherwydd yng ngeiriau PC Vaughan: "I searched him and found the vest I now produce on his back. He was wearing it." Dewisodd Bridgett i'r achos gael ei gynnal yn gyflym, h.y. heb reithgor. Felly, cafodd y ddau ynad, J Percy Severn a Maj. W E Twyning yn euog o'r cyhuddiad, a'i ddedfrydu i bedwar diwrnod ar ddeg o lafur caled yng Ngharchar Henffordd.
Câi achosion pwysicach eu cyfeirio at y Sesiwn Chwarter. Roedd achos J J Frost v Thomas Price yn achos o'r fath. | ||||
¦ Mynegai ¦ Hafan ¦ Addysg ¦ Amodau Cymdeithasol ¦ Bywyd yn y Cartref ¦ Cyfraith a Threfin ¦ ¦ Cymuned ¦ Diwylliant ¦ Gofal Iechyd ¦ Gwaith ¦ Powys: Y Pryd Hynny a Nawr Trafnidiaeth ¦ ¦ Am y Prosiect ¦ Partneriaid ¦ Ffynonellau & Cydnabyddiaeth ¦ Llinell Amser - 1891 ¦ Llinell Amser - 2002 ¦ |
|||||