| |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
|
1891 |
Amodau Cymdeithasol Lletya Plant Allan Erbyn diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg cynyddai'r teimlad na ddylid cadw plant yn y wyrcws. Nid oedd yn cael ei weld yn lle addas i fagu plentyn. Gwnaed ymdrechion i faethu'r plant gyda theuluoedd a gelwid hyn yn lletya allan. Gallai hynny fod yn waith proffidiol i deuluoedd a gymerai blant y wyrcws fel y dengys cyfrif y lletya allan. ![]() Ar 19eg Mawrth, cytunodd Bwrdd Gwarcheidwaid Llanfyllin y dylai Lewis Edwards letya y tu allan i'r Wyrcws:
Roedd Edward Jones yn byw gyda'i wraig
a'i nai ar adeg y cyfrifiad, felly, doedd Lewis ddim wedi'i anfon i fyw ato
yr adeg hynny. Cadarnhaodd y Bwrdd yn y diwedd y dylid ei symud ar 16eg Ebrill
a chytunodd Miss Hayhurst i'w oruchwylio.
Ymddengys fod y Bwrdd yn ymdrechu i ddarganfod
cartrefi da ar gyfer y plant ac yn parhau i fod yn gyfrifol amdanynt hyd yn
oed ar ôl eu pen-blwydd yn 14 ac felly'n gallu gweithio. Gwelir hyn o'r
darn canlynol o'r cofnodion ar gyfer 14eg Mai pan oedd y plant yn rhy sâl
i ddechrau gweithio.
Anfonwyd John Tudor i letya gyda'i dad-cu yn ei gartref ym mhlwyf Cegidfa ar 14eg Mai a chafodd ei anfon yno gyda'r siwt arferol o ddillad:: "It was decided to board out John Tudor with his grandfather Wm. Owen of Cloddia Guilsfield and the necessary outfit was ordered to be provided for him." Mae John Tudor ar gyfrifiad y wyrcws yn 1891. Fodd bynnag, mae yno hefyd Charles Tudor, ei frawd, er does dim sôn amdano'n cael ei letya allan. Os oedd hynny'n wir, mae'n rhaid ei bod yn anodd iawn ar y brodyr wrth gael eu gwahanu.
Roedd un Tudor arall yn byw yng Nghegidfa ar adeg y cyfrifiad.
Hon oedd chwaer fach John a Charles, fel y dengys cofrestr bedydd y plwyf.
Does dim William Owen yng Nghloddia, Cegidfa ar adeg y cyfrifiad, ond efallai nad oedd ei enw bedydd cywir gan y Bwrdd.
| ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
¦ Mynegai ¦ Hafan ¦ Addysg ¦ Amodau Cymdeithasol ¦ Bywyd yn y Cartref ¦ Cyfraith a Threfin ¦ ¦ Cymuned ¦ Diwylliant ¦ Gofal Iechyd ¦ Gwaith ¦ Powys: Y Pryd Hynny a Nawr Trafnidiaeth ¦ ¦ Am y Prosiect ¦ Partneriaid ¦ Ffynonellau & Cydnabyddiaeth ¦ Llinell Amser - 1891 ¦ Llinell Amser - 2002 ¦ |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||