Amodau Cymdeithasol
Bwrdd y Gwarcheidwaid
Grwp o drethdalwyr lleol oedd Bwrdd y Gwarcheidwaid a oedd yn gweinyddu'r wyrcws, yn delio gyda materion ariannol, y staff, yn mynd ar ôl taliadau cynnal, lletya plant, taliadau i dlodion a'u trosglwyddo i ac o Undebau Deddfau'r Tlodion. Câi mwyafrif y Bwrdd eu hethol er yr oedd rhai yno'n rhinwedd eu swydd.
Roedd y Bwrdd yn cyfarfod bob pythefnos gan ddelio'n gyntaf gyda chyfrifon pythefnosol yr Undeb. Yn ogystal â gwneud taliadau, derbynnid taliadau hefyd oddi wrth amryw o swyddogion cymorth a gasglai Dreth y Tlodion yn eu hardal, a thalu arian i bobl anghenus.
Sefydlwyd y system Wyrcws Fictorianiadd yn bennaf gan y Ddeddf Diwygio Deddf
y Tlodion 1834 a geisiodd sefydlu un system cymorth i'r tlodion ar gyfer Prydain
i gyd. Galluogodd blwyfi i ffurfio Undeb er mwyn delio gyda'r tlodion a oedd
yn byw yn eu hardal a sefydlu tlodai fel lle i fyw ar gyfer y rhai nad oeddynt
yn gallu cynnal eu hunain. Gweinyddid y rhain gan Fwrdd y Gwarcheidwaid a etholwyd
o blith y trethdalwyr lleol. Am wybodaeth bellach ar Ddeddf y Tlodion ymwelwch
â http://www.poor-law.eu.org/.
|
Ym 1891 roedd gan Undeb Llanfyllin 28 Gwarchodydd, un o bob un o'r plwyfi yn yr Undeb a dau yr un o Lanfair Caereinion a Meifod a thri o Lanfair. Fel y gwelir o'r cofnodion, cafodd Mr Evan Evans o blwyf Llanfair ei ethol yn gadeirydd. Mae Evan Evans yn enw cyffredin ond mae dau a allai fod yn warchodydd Llanfyllin a oedd yn byw yn Llanfair ar y pryd. Yr un tebycaf yw ffermwr wedi ymddeol gydag, efallai, ychydig mwy o amser ar ei ddwylo ar gyfer dyletswyddau rheolaidd o'r fath.
|
| 1891 Census | ||||||
| Garthhiling, Llanfair | ||||||
| Name | Position in household |
Marital status | Age | Occupation | Place of Birth | English/Welsh speaker |
| Evan Evans | Head | M | 70 | Retired farmer | Montgomery, North Wales | Welsh |
| Jane Evans | Wife | M | 69 | Montgomery, North Wales | English | |
| Gwilim Maurice Evans | Son | S | 34 | Farmer | Montgomery, North Wales | English |
| Jane Evans | Dau | S | 30 | Montgomery, North Wales | English | |
Doedd dim posibl gwneud fawr ddim yn y Wyrcws nac yn yr Undeb yn gyffredinol heb gadarnhad y Bwrdd a châi llawer o faterion dibwys iawn eu trin gan y pwyllgor yn ystod y flwyddyn. Pryder mwyaf y Bwrdd oedd na ddylai'r Undeb dalu am gynnal pobl nad oeddynt yn cael eu hystyried yn lleol. Gallai tlodion gael eu hanfon yn ôl i'w man geni i geisio cael mynediad i wyrcws yn gwasanaethu'r ardal honno.