| |||||||
|
1891 |
Amodau Cymdeithasol Amgylchiadau yn Wyrcws Llanfyllin Parhâi'r wyrcws i fod yn lle garw, digroeso ym 1891, er fod yr amgylchiadau'n well nag yn gynharach yn y ganrif. Roedd wedi'u hadeiladu'n fwriadol i fod yn debyg i garchar, gyda rheolau caeth, didostur, gwahaniad llym ar ddynion, merched a phlant, dognau pitw o fwyd a gwaith gormesol, diddiwedd. Y syniad tu ôl i'r hyn oedd annog pobl i ymdrechu i gynorthwyo'u hunain. Canlyniad methu â gwneud hynny oedd cael eich hunan yn y wyrcws. Dengys cofnod o lyfr cofnodion Llanfyllin ar 5ed Mawrth 1891 fod crwydriaid yn dal i gael eu hel i weithio i dorri cerrig ar gyfer adeiladu ffyrdd:
Roedd hwn yn ffynhonnell ddefnyddiol o incwm i'r Undeb:
Tasg gyffredin arall i ddynion a merched oedd plicio ocwm. Ffibr oedd hwn a geid wrth dynnu hen raffau'n ddarnau. Câi ei ddefnyddio ar gyfer calcio (cau semau ar longau) ac fel defnydd ddal dwr. Yn ogystal roedd raid i bawb, ar wahân i'r ifanc iawn a'r musgrell, gynorthwyo gyda gwaith angenrheidiol rhedeg y wyrcws. Roedd meistr Wyrcws Ffordun yn destun cwyn gan un o'r tlodion oherwydd y gosb a gafodd.
Fodd bynnag, nid dim ond gwaith a gofid oedd rhan trigolion wyrcws Llanfyllin, gan y gwneid rhywfaint o ymdrech i wella eu byd. Adroddwyd yn y cyfarfod ar ôl y Nadolig: | ||||||
¦ Mynegai ¦ Hafan ¦ Addysg ¦ Amodau Cymdeithasol ¦ Bywyd yn y Cartref ¦ Cyfraith a Threfin ¦ ¦ Cymuned ¦ Diwylliant ¦ Gofal Iechyd ¦ Gwaith ¦ Powys: Y Pryd Hynny a Nawr Trafnidiaeth ¦ ¦ Am y Prosiect ¦ Partneriaid ¦ Ffynonellau & Cydnabyddiaeth ¦ Llinell Amser - 1891 ¦ Llinell Amser - 2002 ¦ |
|||||||