| |
|
1891 |
Cymuned
Cylch Methodistiaid Cyntefig Tref-y-clawdd
Roedd y Methodistiaid Cyntefig yn rhan o'r adfywiad methodistaidd a ddechreuodd yn gynnar yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ac a enwyd ar ôl sylw gan John Wesley: "I still remain a primitive Methodist." Ei arweinydd oedd Hugh Bourne, a gafodd dröedigaeth i Fethodistiaeth yn 1799. Datblygodd y mudiad newydd y syniad o 'Gymanfa Awyr Agored', sef cyfarfod gweddi a phregethu yn yr awyr agored am ddiwrnod cyfan. Serch hynny, nid oedd yr awdurdodau methodistaidd yn cytuno â hyn; ymrannu wnaeth Bourne a'i ddilynwyr o'r brif eglwys gan ffurfio'r Methodistiaid Cyntefig. Roedd y Mudiad yn un efengylaidd a dyfodd yn gyflym iawn, gyda nifer o gapeli newydd yn cael eu hadeiladu fel yr aeth y ganrif yn ei blaen. Roedd gan Gylch Methodistiaid Cyntefig Tref-y-clawdd 8 o gapeli yn ardal Tref-y-clawdd:
Capel Tref-y-clawdd, Brookhouse, Llwyni, Llangynllo, Cwm-y-Gaist, Bleddfa, Providence
a Llanddewi. Bob chwarter, byddai cynllun y gweinidog yn cael ei gyhoeddi oedd
yn fath o daflen ffeithiau, amserlen a chylchlythyr ar y cyd. Ynghyd â gwasanaethau a chasgliadau i'w cynnal, mae'r cynllun yn rhoi manylion am wasanaethau arbennig a chyfarfodydd cymanfa i'w cynnal mewn canolfannau amrywiol.
Mae gan Gynllun yr haf hwn fanylion am gyfarfodydd cymanfaoedd - nad oedd yn nodwedd o fisoedd yr hydref a'r gaeaf! Mae'r cynllun hefyd yn atgoffa
a dyletswyddau rhieni tuag at
Yn ychwanegol at hyn, roedd y pwyllgor cylch
yn cynnal cyfarfodydd chwarterol. |
¦ Mynegai ¦ Hafan ¦ Addysg ¦ Amodau Cymdeithasol ¦ Bywyd yn y Cartref ¦ Cyfraith a Threfin ¦ ¦ Cymuned ¦ Diwylliant ¦ Gofal Iechyd ¦ Gwaith ¦ Powys: Y Pryd Hynny a Nawr Trafnidiaeth ¦ ¦ Am y Prosiect ¦ Partneriaid ¦ Ffynonellau & Cydnabyddiaeth ¦ Llinell Amser - 1891 ¦ Llinell Amser - 2002 ¦ |
|