Cymuned

Baron Ormathwaite

Baron Ormathwaite
Baron Ormathwaite
Archifau Sir Powys

Arthur Walsh oedd ail Farwn Ormathwaite, wedi dilyn ei dad i'r teitl yn 1881. Ganed ef ar 14eg Ebrill 1827 a'i addysgu yn Eton a Choleg y Drindod. Priododd y Foneddiges Katherine Somerset, merch Dug Beaufort, ac roedd ganddynt 7 mab a 3 merch. Roedd eu cartref yn Eywood, Titley, Swydd Henffordd.

Roedd ef yn gapten yn y Gosgorddlu a daeth yn gyrnol anrhydeddus i Drydydd Bataliwn Cyffinwyr De Cymru. Roedd yn weithgar iawn mewn bywyd cyhoeddus - daeth yn AS dros Lanllieni rhwng 1865-8 ac yna ar gyfer Sir Faesyfed rhwng 1868-80; ef oedd Arglwydd Raglaw y sir rhwng 1875-95, roedd yn Ynad Heddwc a hefyd yn Gadeirydd Cyngor Sir Faesyfed.

Bu farw yn 1920.


Cyngor Sir Faesyfed