Cymuned

Cyngor Sir Faesyfed

Daeth Cyngor Sir Faesyfed i fodolaeth trwy Ddeddf Llywodraeth Leol 1888 a chynhaliodd ei gyfarfod cyntaf ar 31ain Ionawr 1889. Yn nyddiau cynnar ei fodolaeth, nid oedd gan y Cyngor Sir ei eiddo ei hunan. Fel arfer, byddai'n cwrdd yng Ngwesty'r Ty Pwmpio, Llandrindod. Roedd hwn ar y safle lle mae Neuadd y Sir yn sefyll heddiw, cartref Cyngor Sir Powys.

Y Ty Pwmpio, Llandrindod
Y Ty Pwmpio, Llandrindod
Archifau Sir Powys

Cynhaliwyd cyfarfod y 6ed Tachwedd 1891 yma ac roedd 26 aelod o'r Cyngor yn bresennol. Y cadeirydd oedd yr Arglwydd Ormathwaite roedd yna 7 henadur a 18 cynghorwyr cyffredin.

Roedd y cyfarfod yn delio â materion amrywiol, gan gynnwys:

  1. Adroddiad Gwallgofdy'r Siroedd ar y Cyd yn Y Fenni
  2. Adroddiadau Syrfëwr y Sir ar ffyrdd a phontydd, gan gynnwys digwyddiad gydag injan tyniant oedd yn eiddo i Mr Read o Burghill
  3. Mabwysiadu mân-ddeddfau o dan y Ddeddf Priffyrdd a Threnau 1878
  4. Ymddiswyddiad Syrfëwr Rhanbarth Priffyrdd Castell-paen
  5. Adroddiad Prif Gwnstabl Heddlu Sir Faesyfed
  6. Cais am drwydded i storio powdr gwn gan John Roberts o Raeadr
  7. Trafod y cynllun a argymhellwyd gan Gorfforaeth Birmingham mewn perthynas â gwaith dwr Cwm Elan
  8. Cyfrifon y Cyngor