| ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
|
1891 |
Cymuned Henadur William Jones Thomas Roedd gan William Jones Thomas hanes nodedig cyn iddo ddod yn gynghorydd sir dros Sir Frycheiniog pan sefydlwyd y cyngor gyntaf yn 1889. Ganed yr Henadur Jones Thomas ar 12fed Rhagfyr 1839 a'i addysgu yn Harrow ac yna yn Sandhurst. Cafodd ei ddyrchafu i safle Capten yng Ngwarchodlu'r Marchfilwyr a dyfarnwyd medal iddo am ei wasanaeth yn y Gwrthryfel Indiaidd cyn ymddeol i'r Gwarchodlu yn 1870. Bu ef yn gadlywydd ar Fyddin Sir Faesyfed ac yn gadlywydd wedi hynny ar y Bataliynau Cyfunol pan unodd y fyddin gyda byddin Sir Frycheiniog i ddod yn Gyffinwyr Brenhinol De Cymru. Ei dad oedd ficar Llaneigon, y Parch William Jones Thomas o Lanthomas, oedd hefyd yn Ynad Heddwch a thirfeddiannwr cefnog. Roedd un ar ddeg o blant yn y teulu. Roedd un o'i ferched, Fanny, yn wrthrych serchiadau y Parch Kilvert, a ddaeth yn ddyddiadurwr enwog wedi hynny. Galwodd hi yn Daisy a gofynnodd iddi ei briodi. Na oedd yr ateb, serch hynny; fel curad, nid oedd Kilvert yn cael ei ystyried yn ddewis digon da i ferch teulu bonheddig â thir. Ni phriododd Daisy erioed. Bu farw yn 1928. Yn 1891, roedd yr Henadur Jones Thomas
yn byw yn Llanthomas mewn ty yn llawn o ferched:
Bu farw yn 69 mlwydd oed ac mae cofnodion Plwyf Llaneigon yn dweud ei fod wedi'i gladdu yno ar 27ain Medi 1909. | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
¦ Mynegai ¦ Hafan ¦ Addysg ¦ Amodau Cymdeithasol ¦ Bywyd yn y Cartref ¦ Cyfraith a Threfin ¦ ¦ Cymuned ¦ Diwylliant ¦ Gofal Iechyd ¦ Gwaith ¦ Powys: Y Pryd Hynny a Nawr Trafnidiaeth ¦ ¦ Am y Prosiect ¦ Partneriaid ¦ Ffynonellau & Cydnabyddiaeth ¦ Llinell Amser - 1891 ¦ Llinell Amser - 2002 ¦ |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||