|
Diwylliant ac Adloniant Mme. Patti: Castell Craig-y-Nos Prynodd Adelina Patti Gastell Craig-y-Nos a'i barc amgylchynol yn 1878 am £3500. Gwnaeth addasiadau ac ychwanegiadau mawr i'r ty tra'r oedd yn berchennog arno, gan bron ddyblu ei faint gwreiddiol. Ymysg yr ychwanegiadau a wnaed ganddi a Nicolini oedd twr y cloc, cerbyty a bloc stabl, golchdy, capel Catholig bychan, theatr a gardd aeaf - ar gost o dros £100,000, swm enfawr o arian am y cyfnod hwnnw. |
![]() Castell a thiroedd Craig-y-Nos Amgueddfa ac Oriel Gelf Brycheiniog |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
![]() Adelina Patti Amgueddfa ac Oriel Gelf Brycheiniog |
Roedd yr ardd aeaf yn ystafell wydr fawr yn llawn o blanhigion ac adar trofannol gyda ffownten goeth. Dyma'i hoff ran o'r ty lle byddai'r Madam yn difyrru ei gwesteion. Cyflwynwyd yr ardd aeaf ganddi i bobl Abertawe yn 1918, lle cafodd ei alw'n 'Patti Pavilion' yn ddiweddarach. Roedd Craig-y-Nos yn dy mawr a chostus i'w redeg oedd yn defnyddio swm enfawr o danwydd. Dyma oedd un o'r tai preifat cyntaf i gael ei wifrio ar gyfer trydan ac roedd ganddo ei eneradur ei hunan. Yn ogystal, roedd ganddo gasomedr a pheiriant gwneud rhew hyd yn oed. Nid oedd popeth yn rhedeg yn esmwyth yn y ty bob tro serch hynny fel mae'r llythyr hwn gan H J D Alcock i'r plymwr a osododd y pibellau yn ei ddangos. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
![]() Llythyr gan H J D Alcock i Edward ?Nino Amgueddfa ac Oriel Gelf Brycheiniog |
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
|
Roedd y parc a'r gerddi yn cynnwys dau lyn, gyda chychod arnynt o'r enw 'The Trout' a 'Mary Ann'. Hefyd, roedd yna erddi ffrwythau a llysiau eang, a thyfai ffrwythau trofannol yn y tai gwydr. Mae'r ffotograffau isod yn dangos rhai o ystafelloedd moethus y Castell gyda nifer ohonynt yn cynnwys pianos cyngerdd. |
Madam Patti a chylch o edmygwyr anhysbys Amgueddfa ac Oriel Gelf Brycheiniog |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
![]() Lle tân, Craig-y-Nos Amgueddfa ac Oriel Gelf Brycheiniog |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
| Yn dilyn marwolaeth Adelina yn 1919, fe wnaeth ei gwr gweddw, y Barwn Cederstrom etifeddu'r castell a'i stadau. Wedi hynny, gwerthodd yr eiddo yn 1921 i Gymdeithas Goffa Gymreig y Brenin Edward VII am y swm cymharol fychan o £19000, i'w drawsnewid yn ysbyty'r ddarfodedigaeth (TB). | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||