|
Diwylliant ac Adloniant Y theatr yng Nghraig-y-Nos Penderfynodd Madam Patti i adeiladu theatr yn ei Chastell yng Nghraig-y-Nos lle byddai'n gallu rhoi perfformiadau preifat. Cynlluniwyd y theatr gan Bucknall and Jennings, penseiri o Abertawe, gyda chyfraniad gan Henry Irving, ac roedd yr adeilad yn seiliedig ar dy opera Wagner yn Bayreuth. Daeth nifer o bobl bwysig a sêr y byd opera i'r agoriad swyddogol a gynhaliwyd ar y 12fed Gorffennaf 1891 a dywedwyd bod 450 potel o siampên wedi'u hyfed yn y parti. |
![]() Madam Patti mewn rôl anhysbys (fel Rosina yn Il Barbiere di Siviglia o bosibl) Amgueddfa ac Oriel Gelf Brycheiniog. |
|
|
|
Gallai'r theatr ddal 150 o bobl. Roedd yna lawr mecanyddol hefyd oedd yn codi'r awditoriwm hyd at lefel llwyfan fel y gellid ei ddefnyddio fel neuadd ddawns. Roedd aelod o'i staff, sef Ethel Rosate-Lunn yn ei gofio:
|
|
Yn ogystal, roedd yna organ urddasol a roddwyd iddi yn UDA ar ôl un o'i theithiau yno. Cafodd ei ddiosg yn yr 1920au pan trawsnewidwyd yr adeiladau'n ysbyty. Defnyddiwyd y theatr yn aml ar gyfer perfformiadau a oedd yn arddangos doniau cerddorol lleol. Gweler isod ambell i raglen o rai o'r perfformiadau yn theatr Patti. Mae'r cyntaf ar gyfer perfformiad cyntaf arbennig o 'East Lynne' - 'a play without words, founded upon Mrs Henry Wood's novel'. Mae Madam Patti yn ymddangos ar waelod rhestr y perfformwyr. Mae'r rhaglen yn nodi fel a ganlyn: 'The lullaby sung by Madame Patti in the last scene has been expressly composed for and dedicated to her by M. Andre Pollonnais; the words by Mr Hermann Klein. |
Yr Organ yng Nghraig-y-Nos Amgueddfa ac Oriel Gelf Brycheiniog |
|
![]() Gorchudd rhaglen ar gyfer Perfformiad Cyntaf Arbennig Awst 17eg, 1895 Amgueddfa ac Oriel Gelf Brycheiniog |
![]() Rhestr y perfformwyr o'r rhaglen Amgueddfa ac Oriel Gelf Brycheiniog |
| Dyma'r rhaglen ar gyfer perfformiad o Camille gyda Madam Patti a Robert Nicolini yn cymryd y prif rannau. | |
Rhaglen ar gyfer Perfformiad Cyntaf Arbennig, Medi 8fed, 1892 Amgueddfa ac Oriel Gelf |
Rhestr y perfformwyr ar gyfer y rhaglen Amgueddfa ac Oriel Gelf Brycheiniog |
Mae'r theatr wedi cael ei adnewyddu ac yn cael ei ddefnyddio heddiw o hyd - am fwy o wybodaeth edrychwch ar dudalen Theatr Adelina Patti.