| Diwylliant
ac Adloniant
Marwolaeth
Roedd marwolaeth yn realiti
dyddiol i bobl oes Fictoria. Bu'r Frenhines ei hunan yn treulio
y rhan fwyaf o'i theyrnasiad yn galaru; fe ddaeth hi'n fater o drefn
i gadw at yr elfennau ffurfiol oedd yn ddyledus petai aelod o'r
teulu yn marw. Fel gyda defodau newid byd eraill, roedd gan farwolaeth
ei ddefodau ei hunan. Roedd gwisgo du wedi dod yn arfer ers cryn
amser a daeth yn fusnes eithaf llewyrchus i wneuthurwyr crêp,
megis Pryce-Jones yn Y Drenewydd.
Roedd maint yr angladd yn adlewyrchu
statws yr un a fu farw. Byddai'r corff yn gorwedd yn y cartref tan
yr angladd, ac ar ddiwrnod y seremoni, byddai galarwyr yn ymgynnull
i adrodd gweddi a byddai cymdogion yn canu emynau cyn cludo'r arch
i'r eglwys.
|

Hers yn Felinfach,
tua 1925
Amgueddfa ac Oriel Gelf Brycheiniog |
|
![Fferm Pantpurlais. Archifau Sir Powys]](../../images/u_pantp4.gif)
Fferm Pantpurlais
Archifau Sir Powys
|
Roedd hi'n arfer digon cyffredin
i roi arian i'r torrwr beddau ar ôl yr angladd. Gelwid hyn
yn 'shovel money' a pharhau wnaeth yr arfer o dalu mwy na'r ffi
i'w dalu i'r torrwr beddau. Wedi hynny, byddai bwyd a diod yn cael
eu cyflenwi gan adlewyrchu statws yr un a fu farw unwaith eto.
Roedd y teulu Davies
yn byw ym Mhantpurlais, ffermdy ychydig y tu allan i Landrindod
yn Sir Faesyfed. Roeddynt wedi byw yn y ty am ychydig o flynyddoedd,
ers o leiaf yr 1850au, ac wedi creu bywoliaeth i'w hunain o'r ardal
gyfagos oedd yn aml yn anghysbell a digroeso.
Rhieni'r teulu oedd Ezekiel
ac Elizabeth Davies, ac roedd ganddynt 8 o blant gyda'i gilydd:
Elizabeth, ganed 1846; Fortune, ganed 1848; John, ganed 1850; William,
ganed 1852; Sarah, ganed 1854; Anne, ganed 1858; Martha, ganed 1861;
a Thomas, ganed 1870.
|
Ezekiel Davies
o Bantpurlais
Archifau Sir Powys |
Elizabeth Davies
o Bantpurlais
Archifau Sir Powys |
Cerdyn galar ar gyfer Ezekiel Davies
Archifau Sir Powys |
Cerdyn galar
ar gyfer Elizabeth Davies
Archifau Sir Powys
|
|
Roedd hi'n arferol cael cardiau
galar fel y rhain a brintiwyd ar ôl y farwolaeth. Bu farw
Elizabeth ym mis Chwefror 1883, a bu farw Ezekiel 22 mis yn ddiweddarach;
claddwyd y ddau yng Nghapel Bedyddwyr Hawy.
Mae'r llun merched y cwpl hwn
wedi gwisgo mewn dillad difrifol.
|
Hysbyseb am Gardiau Galar,
o Brecon & Radnor Express 1891
Archifau Sir Powys
|
|
Betsy, Fortune,
Sarah, Annie a Patti
Archifau Sir Powys
Cyhoeddwyd rhybuddion angladdau yn y papurau newyddion
lleol cymaint ag y gwneir heddiw. Mae'r canlynol yn ddetholiad o'r
Brecon and Radnor Express yn 1891, sy'n disgrifio angladd unigolyn
uchel iawn ei barch yn y gymuned - yn yr achos hwn, roedd Mrs Amelia
Edwards yn wraig i'r Parchedig D Bowen Edwards, Gweinidog Capel
Y Bedyddwyr Watergate yn Aberhonddu:
|
Roedd yr holl blant wedi gadael
cartref erbyn 1883 heblaw am Annie a arhosodd i ofalu am ei thad.
Roedd hi wedi priodi Thomas Morgan, a dderbyniodd denantiaeth yr
eiddo oedd wedi tyfu mewn maint ers cyfnod ei dad. Llwyddodd i brynu'r
eiddo yn 1899. Serch hynny, bu tân yn yr eiddo rhywbryd rhwng
1899-1903 a chafodd ei ailadeiladu fel cartref llawer mwy cyfforddus,
gan ddod yn llety ac ystafell de ar ddechrau'r ugeinfed ganrif.
Disgrifiad o
angladd Mrs Amelia Edwards,
o'r Brecon and Radnor Express
Archifau Sir Powys
|
|