| ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
|
1891 |
Bywyd yn y Cartref Pryce Jones a'r Royal Welsh Warehouse
Ganed Pryce Jones ar Hydref 16eg 1834 yn Y Drenewydd, Sir Drefaldwyn. Bu'n brentis i ddilledydd lleol, John Davies, ac fe gymerodd yr awenau gyda'r busnes yn 1856. Yn yr un flwyddyn, priododd Eleanor Rowley Morris o'r Drenewydd. Tyfodd y busnes i fod yn llewyrchus o dan yr enw newydd, sef y 'Royal Welsh Warehouse'.
Mewn ymgais i werthu ei nwyddau i gymaint o bobl ag oedd yn bosibl, datblygodd y syniad o anfon patrymau o'r nwyddau i'r bonedd lleol, a arweiniodd wedyn at anfon rhestrau o nwyddau a oedd ar gael o'i ffatri ei hunan a ffatrioedd eraill a oedd yn bellach i ffwrdd, gan hysbysebu dramor hefyd yn ddiweddarach. Un o'i nwyddau oedd wedi'i batentu oedd yr Euklisia Rug - a oedd yn ryg, siôl, blanced a gobennydd. Cafodd hon ei defnyddio'n helaeth gan filwyr yr Almaen yn ystod Rhyfel Ffrainc a Phrwsia yn 1870-1 a daeth i gael ei adnabod yn ddiweddarach fel y sach gysgu. Cafwyd adeilad newydd mwy ar gyfer y busnes yn y Drenewydd yn 1878, busnes a oedd yn tyfu'n gyflym, a chafodd ei agor gyda llawer o rwysg a seremoni ar y 3ydd o Hydref 1879.
Yn 1882, tra'r oedd Pryce Jones yn ymgyrchu i ddod yn AS Ceidwadol dros Fwrdeistrefi Maldwyn, cafodd gyfarfod â'r Postfeistr Cyffredinol ac awgrymodd y syniad o ddatblygu post parseli. Roedd post llythyron eisoes yn bodoli, ond roedd yn rhaid anfon parseli trwy gludwyr ar y ffordd a'r rheilffordd, proses ddrud yn aml -- ystyriaeth bwysig iawn yn amlwg i fusnes archebion trwy'r post. Roedd y Postfeistr Cyffredinol yn hoff o'r syniad, a datblygwyd y Post Parseli o ganlyniad i hyn. Daeth Pryce Jones yn AS o 1885-6, ac yn ystod 1892. Daeth yn Uchel Siryf Sir Drefaldwyn yn 1891. Cafodd ei Urddo'n Farchog yn 1887 am ei wasanaeth i fasnach a newidiodd ei enw i Syr Pryce Pryce-Jones. Talodd hefyd am adeiladu Eglwys yn Y Drenewydd, sef Eglwys yr Holl Saint ar gost o £3000. Yn y cyfamser, roedd y 'Royal Welsh Warehouse' wedi cael ei gwasg argraffu ei hunan, a chynhyrchwyd y catalog cyntaf gyda lluniau yn 1890 yn lle'r rhestr brisiau syml a anfonwyd cyn hynny. Roedd y teulu'n byw yn Nolerw, ty mawr i'r gogledd o'r afon yn y Drenewydd.
Serch hynny, adeg cyfrifiad 1891, nid oedd
Syr Pryce a'i wraig gartref:
Wrth i Syr Pryce ymwneud mwy â gwleidyddiaeth leol, er nad oedd ei brofiadau bob amser yn rhai hapus daeth i ymwneud llai â busnes ei gwmni, ac wrth i'w iechyd ddirywio, daeth ei fab Edward i reoli'r busnes yn 1906.
| |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
¦ Mynegai ¦ Hafan ¦ Addysg ¦ Amodau Cymdeithasol ¦ Bywyd yn y Cartref ¦ Cyfraith a Threfin ¦ ¦ Cymuned ¦ Diwylliant ¦ Gofal Iechyd ¦ Gwaith ¦ Powys: Y Pryd Hynny a Nawr Trafnidiaeth ¦ ¦ Am y Prosiect ¦ Partneriaid ¦ Ffynonellau & Cydnabyddiaeth ¦ Llinell Amser - 1891 ¦ Llinell Amser - 2002 ¦ |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||