| Gwaith
Groseriaid Gan gynnwys un gwerthwr llysiau, roedd 5 groser yn Broad Street. George Ellison oedd yr un mwyaf cyfoethog o'r rhain o bosibl, ac roedd yn byw uwchben y siop gyda'i deulu mawr a phedwar o weision. Yr oedd, serch hynny, wedi bod yn wr gweddw ers yn ifanc iawn ac roedd ei fam a'i chwiorydd yng nghyfraith yn gofalu am ei dy a'i bedwar o blant bach iddo. |
![]() Hysbyseb ar gyfer Sigarets 'Player's Navy Cut' Archifau Sir Powys |
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
| Roedd George Ellison yn
ddigon cyfoethog i agor siop arall yn Y Drenewydd yn 1891, yn 8 Severn Street.
Groser arall oedd yn medru fforddio gwasanaethau gwas oedd Hugh Davies. Roedd ef hefyd yn gallu rhoi addysg i'w fab hynaf yn hytrach na'i gael yn y siop i'w gynorthwyo. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
|
|
Y busnes gwerthu llysiau y drws nesaf, serch hynny, oedd maes gwaith gwraig â theulu sef Mary Ann Owen, gyda'i gwr yn dod o hyd i ffynonellau gwaith eraill. Dim ond newydd sefydlu'r busnes yr oeddynt, gan fod Cyfeirlyfr Sutton yn ei restru fel siop teiliwr o dan berchnogaeth Henry Jenkins.
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
|
|
Trefniadau
domestig eithaf gwahanol oedd gan y ddau groser oedd yn weddill. Roedd John
Edwards ar un llaw yn byw yn y siop gyda'i wraig, pum merch a mab.
Yn olaf, un o'r groseriaid mwyaf anarferol yn Broad Street oedd cwmni'r Brodyr Lewis oedd yn gwmni oedd wedi hen sefydlu ac a oedd yn galw'i hunan yn Lewis Brothers, grocers, Italian warehousemen and provision dealers, and agents for W A Gilbey's wines and spirits. Roedd eu mam, oedd yn cadw'r ty iddynt, wedi bod yn wraig weddw ers mis Gorffennaf 1888. Ei gwr oedd David Kinsey oedd wedi bod yn dafarnwr yn The Kings Head yn 53 Broad Street.
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||