| |
|
1891 |
![]() Map o'r Drenewydd Lliw wedi'i ychwanegu er mwyn rhoi pwyslais Archifau Sir Powys Gwaith Broad Street, Y Drenewydd Yn 1891, Broad Street oedd y brif stryd siopa yn Y Drenewydd, fel yr oedd wedi bod am gryn amser. Roedd ei dechreuadau fel ardal farchnad yn deillio o'r Canol Oesoedd ac roedd neuadd farchnad yng nghanol y stryd tan ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Roedd Broad Street yn parhau i gael nifer o eiddo masnachol gwahanol erbyn adeg cynnal cyfrifiad 1891. Nododd y cyfrifwr enw neu swyddogaeth yr eiddo yn y golofn FFORDD, STRYD, ac ati a rhif neu ENW TY ar ffurflen y cyfrifiad oedd yn ddefnyddiol iawn. Roedd yna wahanol fathau o eiddo: aneddleoedd na ddefnyddiwyd er dibenion masnachu, gwestai a thafarndai, pobl broffesiynol a busnesau bychain. Roedd rhai eiddo heb neb yn byw ynddynt ond yn y mwyafrif o achosion, roedd y bobl hynny oedd yn rhedeg yr amrywiol sefydliadau yn byw uwchben y siop. ![]() Broad Street, Y Drenewydd Amgueddfa Powysland a Chanolfan Camlas Sir Drefaldwyn ![]() Golygfa o Broad Street, Y Drenewydd, tua 1870 Amgueddfa Powysland a Chanolfan Camlas Sir Drefaldwyn |
¦ Mynegai ¦ Hafan ¦ Addysg ¦ Amodau Cymdeithasol ¦ Bywyd yn y Cartref ¦ Cyfraith a Threfin ¦ ¦ Cymuned ¦ Diwylliant ¦ Gofal Iechyd ¦ Gwaith ¦ Powys: Y Pryd Hynny a Nawr Trafnidiaeth ¦ ¦ Am y Prosiect ¦ Partneriaid ¦ Ffynonellau & Cydnabyddiaeth ¦ Llinell Amser - 1891 ¦ Llinell Amser - 2002 ¦ |
|