| Gwaith
Swyddi
trigolion Oddfellows Street, Ystradgynlais
Mae Oddfellows Street yn rhan o'r
'Ynys' y canolir Ystradgynlais arni ac yn rhedeg o'r gamlas i'r afon.
Yn gyfochrog â Pelican Street,
yn 1891, roedd yn cynnwys 2 ysgol.
Roedd nifer o bobl yn byw yno yn
1891 nad oedd â gwaith neu heb nodi eu swydd i'r cyfrifydd. Serch
hynny, roedd y rhan fwyaf o'r rheini oedd yn gweithio'n cael eu cyflogi
fel glowyr.
Pwynt diddorol am gyfrifiad 1891
yw bod y cyfrifydd yn aml wedi nodi manylion yn y Gymraeg - yn wir, dim
ond Cymraeg y siaradai llawer o'r trigolion lleol. Serch hynny, newidiwyd
y cyfrifiad rhyw bryd fel y cafodd y manylion Cymraeg eu dileu a defnyddiwyd
geiriau Saesneg yn eu lle.
Gellwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth
am ardal Ystradgynlais ar safle Prosiect Hanes Digidol Powys.
|

Oddfellows Street, Ystradgynlais,
1906
Lliw wedi'i ychwanegu er mwyn rhoi pwyslais
Archifau Sir Powys |