| ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
|
1891 |
Gwaith Swyddi trigolion Pelican Street, Ystradgynlais
Mae Pelican Street yn rhan o'r 'Ynys' y canolir Ystradgynlais arni ac yn rhedeg o'r gamlas i'r afon. Roedd yn rhedeg yn gyfochrog ag Oddfellows Street ac yn cynnwys tafarn. Y tafarnwr, Frederick Jones oedd yn rhedeg The Butcher's Arms ac roedd yn byw yno gyda Mary ei wraig, eu pum plentyn a morwyn 15 mlwydd oed o'r enw Rachel Griffiths. Yn yr un modd ag Oddfellows Street, y swydd fwyaf cyffredin oedd y glöwr. Yn wir, roedd dros hanner yn cael eu cyflogi yn y diwydiant glo, gyda 31 glöwr, dau lafurwr, un cludwr ac un cydlafuriwr 16 mlwydd oed i'r glöwr. Roedd hyd yn oed bechgyn mor ifanc â 14 yn cael eu cyflogi fel glowyr. Serch hynny, roedd gan y stryd alwedigaethau llai cyffredin, megis gwneuthurwr clociau a watsiau, cwympwr coed, teiliwr a'r cloddiwr ffynhonnau. Yn y stryd hefyd roedd disgybl athrawes sef Gwen Edwards, 18 mlwydd oed, oedd efallai yn gweithio yn un o'r ysgolion yn Oddfellows Street. Roedd cyfrifydd yn byw drws nesaf - Dafydd Tomos Davies - oedd yn byw gyda Mary, ei fam weddw. Yn ogystal â Gwen Edwards, roedd yna wragedd eraill oedd yn byw yn Pelican Street oedd yn gweithio. Roedd rhai ohonynt yn weision domestig a hanner dwsin ohonynt yn wniadwragedd. Roedd un yn lanhawraig: cyflogwyd y gwragedd hyn yn y gweithfeydd haearn ar beiriannau i lanhau unrhyw ddeunyddiau oedd yn casglu arnynt yn ystod y broses wneuthuro. Serch hynny, byddai llawer o ferched wedi gweithio ond heb ddweud wrth y cyfrifydd bod ganddynt swydd o unrhyw fath. Gellwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth ar ardal Ystradgynlais ar safle Prosiect Hanes Digidol Powys.
| |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
¦ Mynegai ¦ Hafan ¦ Addysg ¦ Amodau Cymdeithasol ¦ Bywyd yn y Cartref ¦ Cyfraith a Threfin ¦ ¦ Cymuned ¦ Diwylliant ¦ Gofal Iechyd ¦ Gwaith ¦ Powys: Y Pryd Hynny a Nawr Trafnidiaeth ¦ ¦ Am y Prosiect ¦ Partneriaid ¦ Ffynonellau & Cydnabyddiaeth ¦ Llinell Amser - 1891 ¦ Llinell Amser - 2002 ¦ |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||