Gwaith
Broad Street, Y Drenewydd: Esgidiau a Chyfrwyaeth
![]() 7-8 Broad Street, Y Drenewydd, wedi dod o ffotograff mwy Amgueddfa Powysland a Chanolfan Camlas Sir Drefaldwyn |
Gan fod y rhan fwyaf o gludiant yn cael ei wneud gyda cheffyl yn 1891, roedd lle o hyd i'r cyfrwywr ar brif stryd siopa'r Drenewydd. Hysbysebodd Joseph Lloyd yng Nghyfeirlyfr Sutton fel Lloyd and Son, gan ei fod wedi cymryd yr awenau o ran y busnes cyfrwyaeth oddi ar ei dad, Richard.
Y drws nesaf, roedd y siop esgidiau. Er ei fod wedi'i restru yng Nghyfeirlyfr Sutton fel 'R & J Dicks, Bootmakers', Alexander Wallace oedd yn byw yno gyda'i wraig a chwe phlentyn oedd yn rheoli'r siop. Roedd Alexander wedi rhestru ei hunan fel a shopman in shoe shop (shoemaker) yng nghyfrifiad 1881 ond erbyn 1891, roedd wedi dod yn rheolwr. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
![]() Esgidiau Babi 19eg ganrif Amgueddfa Sir Faesyfed |
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
![]() 37-39 Broad Street, Y Drenewydd, wedi dod o ffotograff mwy Amgueddfa Powysland a Chanolfan Camlas Sir Drefaldwyn |
Roedd y siop esgidiau arall yn y dref ar draws Broad Street yn rhif 39. Roedd hon wedi bod yn siop esgidiau am gryn flynyddoedd. Bu farw'r perchennog blaenorol, Richard Morgan yn ddiweddar gan adael ei weddw i redeg y siop. Fel Alexander Wallace, roedd hi'n dod o'r Alban yn wreiddiol er bod ei gwr yn ddyn lleol, a hi oedd y 'deliwr' gyda'r esgidiau, yn hytrach na'r gwneuthurwr.
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
![]() Cneifiad, Ystad Rhydoldog Amgueddfa Sir Faesyfed |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||