Trafnidiaeth yn y Trallwng

Map o'r Trallwng yn dangos
ffordd (brown), rheilffordd (llwyd) a chamlas (glas)
Ychwanegwyd lliw i'w dangos yn well
Archifau Sir Powys
![]() Y Staff, Gorsaf y Trallwng Canolfan Camlas Trefaldwyn ac Amgueddfa Powys |
Fel gyda llawer o drefi eraill ym 1891, manteisiodd y Trallwng ar ddyfodiad y rheilffordd, ac roedd llawer o drigolion y dref yn gweithio arni. Bu'r London and North Western a Great Western Joint Railways a Rheilffordd y Cambrian yn gwasanaethu'r dref. |
Fodd bynnag, roedd y gamlas yn dal i fod y ddull trafnidiaeth pwysig gyda'r Shropshire Union Railways a'r Cwmni Camlas. Hysbysebwyd yn Sutton's Directory ym 1890: |
![]() Archifau Sir Powys |
Felly roedd y gamlas yn dal i gyflogi gweithwyr
o'r Trallwng. Roedd y rhain yn cynnwys pobl a weithiai ar y cychod camlas eu
hunain, megis John Jones:
| 1891 Census | ||||||
| 7 Canal Cottage, Welshpool | ||||||
| Name | Position in household |
Marital status |
Age | Occupation | Place of Birth | English/Welsh speaker |
| John Jones | Head | M | 30 | Boatman | Berriew Montgomeryshire | English |
| Mary A Jones | Wife | M | 24 | Chirbury Salop | English | |
| John J Jones | Son | 4 | Guilsfield Montgomeryshire | English | ||
| Bertram C Jones | Son | 2 | Forden Montgomeryshire | English | ||

Roedd hefyd yn cynnwys pobl fel Francis R Hawkins, a oedd yn gweithio fel llafuriwr ar y gamlas yn llwytho ac yn dadlwytho cychod camlas:
| 1891 Census | ||||||
| 4 Canal Wharf, Welshpool | ||||||
| Name | Position in household |
Marital status |
Age | Occupation | Place of Birth | English/Welsh speaker |
| Francis R Hawkins | Head | M | 29 | Canal Porter | Stafford Wolverhampton | English |
| Emily Hawkins | Wife | M | 29 | Cheshire Congelton | English | |
| Amy Hawkins | Dau | 7 | Scholar | Cheshire Chester | English | |
| Muriel Hawkins | Dau | 4 | Scholar | Montgomery Welshpool | English | |
| Percy Hawkins | Son | 2 | Montgomery Welshpool | English | ||
Roedd ceidwad y loc yno hefyd a oedd yn byw gyda'i deulu mawr yn Nhai Loc y Gamlas:
| 1891 Census | ||||||
| 1 Canal Lock Houses, Welshpool | ||||||
| Name | Position in household |
Marital status |
Age | Occupation | Place of Birth | English/Welsh speaker |
| Pryce Bebb | Head | M | 43 | Lock Tender | Castle Caereinion | English |
| Sarah Bebb | Wife | M | 39 | Castle Caereinion | English | |
| Cornelius Bebb | Son | S | 21 | Labourer | Welshpool | English |
| Richard Bebb | Son | S | 19 | Labourer | Welshpool | English |
| Alice Anne Bebb | Dau | 10 | Scholar | Welshpool | English | |
| Albert Bebb | Son | 8 | Scholar | Welshpool | English | |
| William Henry Bebb | Son | 6 | Scholar | Welshpool | English | |
| Ellen Bebb | Dau | 4 | Scholar | Welshpool | English | |
| Emily Bebb | Dau | 2 | Welshpool | English | ||
| George Bebb | Dau | 1 month | Welshpool | English | ||
Bu farw Pryce Bebb tua 1897 o ganlyniad i law driniaeth i dynnu carreg yn yr arenau a berfformiwyd ar ford y gegin. Fodd bynnag, aeth ei fab Cornelius (a gâi ei alw'n 'Neil') yn ei flaen i fod yn geidwad y loc ei hunan, fel y gwnaeth mab arall, hefyd o'r enw Pryce.
Cewch ragor o wybodaeth am hanes Camlas Trefaldwyn ar wefan Hanes Digidol Powys.
Roedd grwp diddorol arall o bobl a deithiodd i'r Trallwng ar y ffordd ac yr oedd yn y dref ar adeg cyfrifiad 1891.