| |||||||||||||
|
1891 |
Addysg Blwyddyn ym mywyd Ysgol Genedlaethol Abaty Cwm Hir Emily Taylor y brifathrawes 40 oed oedd yn gyfrifol am ysgol fach bentref Abaty Cwm Hir, Sir Faesyfed yn 1891. Cafodd ei hunan yn ceisio cynnal y safonau uchel oedd yn ofynnol gan yr arolygwyr ysgol a hynny pan yn wynebu absenoldeb parhaus, ac yn ddiweddarach salwch hi ei hunan. Roedd yn flwyddyn o aeafau gwael ar y dechrau a'r diwedd. Roedd yn rhaid i lawer o blant deithio'n bell er mwyn cyrraedd yr ysgol, ac roedd hyn yn gwneud gwahaniaeth i niferoedd oedd yn bresennol. Ar ddiwrnod cyntaf yr ysgol dim ond 5 o blant oedd yn bresennol i ddechrau, syrthiodd i 2 y diwrnod canlynol. Ond nid dim ond y tywydd oedd yn achosi problemau. Roedd plant yn cael eu cadw gartref yn aml iawn i weithio neu i ennill arian i'r teulu. Cadwyd un bachgen Pryce Powell, i ffwrdd o'r ysgol i weithio fel curwr ceiliogod y mynydd. Yna cafodd ei rwystro rhag dychwelyd i'r ysgol gan nad oedd ganddo esgidiau -- problem i lawer o blant trwy gydol y flwyddyn.
Serch hynny, y prif reswm o bell dros fod yn absennol oedd salwch. Roedd plant yn dioddef yn wael o anwydau a dolur gwddf:
Ym mis Mai wnaeth y ffliw daro'r ardal a chaewyd yr ysgol am 3 wythnos pan aeth Miss Taylor ei hunan yn sâl. Pan wnaeth ddychwelyd ym mis Gorffennaf wnaeth ymweld ag un teulu yn Y Groes oedd yn gorfod teithio pellter hir.
Daeth cryn ddiddordeb mewn ysgol wedi i'r ffioedd ysgol ddiflannu. Yn ddiweddarach yn y mis nid oedd yn rhaid i rieni dalu am ddeunyddiau ysgol chwaith, nid oes esboniad sut y digwyddodd hyn. Gwaethygu wnaeth iechyd Miss Taylor a gychwynnodd ar ddechrau'r flwyddyn gyda'r ffliw, niwralgia a broncitis, a pharhau i waethygu y gwnaeth. Caewyd yr ysgol ym mis Hydref ar gyngor ei meddyg:
Mae'n ymddangos o'r hyn a ysgrifennwyd
ar ddechrau 1892 ei bod yn anodd iawn dod o hyd i athrawon cymwys, gan ni lwyddwyd
â dod o hyd i athro i ddod yn lle Miss Taylor tan 1893. | ||||||||||||
¦ Mynegai ¦ Hafan ¦ Addysg ¦ Amodau Cymdeithasol ¦ Bywyd yn y Cartref ¦ Cyfraith a Threfin ¦ ¦ Cymuned ¦ Diwylliant ¦ Gofal Iechyd ¦ Gwaith ¦ Powys: Y Pryd Hynny a Nawr Trafnidiaeth ¦ ¦ Am y Prosiect ¦ Partneriaid ¦ Ffynonellau & Cydnabyddiaeth ¦ Llinell Amser - 1891 ¦ Llinell Amser - 2002 ¦ |
|||||||||||||