| |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
|
1891 |
Cyfraith a Threfn
Sesiwn Fach: Achos Ieuenctid, Bechgyn yn cael eu dal yn dwyn Ar Ragfyr 3ydd 1891, roedd Evan Morris ac Albert Davies, 13 a 12 oed ar blatfform Gorsaf Reilffordd Ffordun. Gofynnodd Albert i Evan i'w godi at ffenestr y swyddfa docynnau, ac yna dringodd drwy'r ffenestr. Aeth â 13 swllt o'r blwch arian. Rhannodd y bechgyn yr arian rhyngddynt a gadael
Roedd John Woosnam, rheolwr yr orsaf, yn byw gyda'i deulu yn nhy'r orsaf.
Roedd John wedi'u gweld ar y platfform, yn ymddwyn yn amheus. Aeth i'r swyddfa docynnau a gwelodd fod y ffenestr wedi'u hagor o'r tu allan. Yna gwelodd fod arian ar goll. Wedi galw am help ei gymydog, llwyddodd y ddau i fynd heibio'r ddau fachgen wrth yr afon. Cyfaddefodd y ddau iddynt ddwyn yr arian, ond dim ond hanner yr arian a gafwyd yn ôl, gan fod Albert wedi taflu ei gyfran ef dros y clawdd i gae. Buan iawn oedd yr awdurdod diannod yn y Sesiynau Bach. Cafodd y bechgyn eu dedfrydu:
"And it was adjudged that the defendant being a male under the age of fourteen years be as soon as practicable privately whipped by one of the Constables aforesaid in the presence of an Inspector of the said Police Force and also in the presence, if he desires the presence of the parent of the said defendant with twelve strokes of the Birch rod".
Mae'r achos nesaf yn ymwneud â dwyn fest wlanen oddi ar wrych golchwraig: Y Frenhines v Bridgett | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
¦ Mynegai ¦ Hafan ¦ Addysg ¦ Amodau Cymdeithasol ¦ Bywyd yn y Cartref ¦ Cyfraith a Threfin ¦ ¦ Cymuned ¦ Diwylliant ¦ Gofal Iechyd ¦ Gwaith ¦ Powys: Y Pryd Hynny a Nawr Trafnidiaeth ¦ ¦ Am y Prosiect ¦ Partneriaid ¦ Ffynonellau & Cydnabyddiaeth ¦ Llinell Amser - 1891 ¦ Llinell Amser - 2002 ¦ |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||