|
1891
In English
Hafan
Addysg
Amodau Cymdeithasol
Bywyd yn y Cartref
Cyfraith a Threfu
Cymuned
Diwylliant
Gofal Iechyd
Gwaith
Powys: Y Pryd Hynny a Nawr
Trafnidiaeth
Mynegai
E-bost
|
Amodau Cymdeithasol
Wyrcws Llanfyllin
Wyrcws Llanfyllin c1907
Archifau Sir Powys
Adeiladwyd wyrcws Llanfyllin ym 1838 mewn
ymateb i Ddeddf Diwygio Deddf y Tlodion 1834. Câi ei alw Y Dolydd a gwasanaethai
Lanfyllin a 25 plwyf cyfagos.
Ar 5ed Ebrill 1891, ddiwrnod y cyfrifiad,
roedd 49 o drigolion yn y wyrcws: 19 o ddynion, 14 o wragedd ac 16 o blant 13
oed neu iau.

Wyrcws Llanfyllin
Archifau Sir Powys
Dengys y llun uchod de dathlu o ryw fath
yn y wyrcws ac mae'n dangos gwrthgyferbyniad llwyr rhwng gwisg y trigolion a
gwisg y staff. Mae'n dangos hefyd sut y câi dynion, gwragedd a phlant
eu rhannu -- a hynny o'r eiliad yr oeddynt yn mynd i'r wyrcws -- gan gynnwys
rhieni a'u plant. Roedd canran uchel o'r trigolion dros 60 oed (19 ohonynt).
Un o gyfrifoldebau Bwrdd y Gwarcheidwaid oedd ceisio
gorfodi plant i dalu am gynnal eu rhieni hen a diymgeledd. Heb hyn byddai'r
rhieni'n gorfod mynd i'r wyrcws.
|
Roedd dau o'r oedolion yn fud a byddar,
disgrifiwyd un fel 'mud o fabandod'. Gwelir o gofnodion Ffordun yr ymdrechid
ym 1891 i gynorthwyo plant a gafodd eu geni gydag anabledd:
"John Corfield
A report was received from the Cardiff Deaf & Dumb School stating that
this boy was making very satisfactory progress and inclosing Account for
maintenance and clothing. Resolved that the Account be paid and that the
father of the boy be called upon to repay the cost of the clothing and
the amount agreed upon between him and the Guardians."
|

Archifau Sir Powys |
| Roedd yno hefyd 7 a ddisgrifiwyd ar
y cyfrifiad fel 'gwallgof' a châi'r bobl hyn eu cadw ar wardiau'r
cleifion neu 'ward wallgof' y wyrcws. Fodd bynnag, câi'r achosion
gwaethaf eu hanfon i'r gwallgofdy ym Mhicton, Swydd Amwythig, a oedd yn
sefydliad mawr iawn yn gwasanaethu Swydd Amwythig a Sir Trefaldwyn. Dengys
cofnod yn y cyfrifon ar 23ain Gorffennaf pa symiau mawr o arian a wariwyd
ar gynnal y rhai gwallgof yn y sefydliadau hyn. |

Archifau Sir Powys |
Mae cofnodion Ffordun yn cynnwys adroddiad
gan y pwyllgor ymweld ar achosion rhai gwallgof y tybid eu bod yn addas i'w
rhoi yn y wyrcws yn hytrach na'u hanfon i'r gwallgofdy.

Archifau Sir Powys |
"The report
stated that the Commissioner found that all the inmates were fit cases
for workhouse care, that they were usefully employed, adequately dieted,
and generally well cared for. Attention was however recommended to the
following matters.
(1) That in future for the permanent detention of every fresh case an
order by a justice supported by two medical certificates will be necessary
as directed by Sec 24 of the Lunacy Act 1890.
(2) That more frequent bathing of these inmates is desirable and that
they should have a bath once a fortnight each in clean water
(3) That there is in the Workhouse a great want of a housemaid's closet
with hot and cold water laid on over a sink where utensils can be washed,
and that a fireguard is wanted in the young men's ground floor day room
for the protection
Resolved that the
Master's attention be drawn to the report"
|
|