| ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
|
1891 |
Amodau Cymdeithasol Gweithwyr eraill y Wyrcws Ynghyd â'r staff oedd yn byw yn Wyrcws Llanfyllin, roedd yr Undeb yn cyflogi pobl amrywiol eraill. Roedd swyddogion meddygol yn bwysig iawn, i weithio â phobl oedd yn byw yn y Wyrcws a thlodion yn byw yn y gymuned. Byddai'r Undeb yn cyflogi swyddogion meddygol amrywiol a'r pwysicaf ohonynt, yn ôl pob golwg, oedd Dr Gill o ardal Cegidfa oedd yn cael ei gyflogi gan Undebau Llanfyllin a Ffordun, gyda chymorth gan Dr Marston, ei ddirprwy. Gofynnwyd i Dr Gill i roi cyfrif i Fwrdd Gwarcheidwaid Undeb Ffordun am farwolaeth Thomas Davies o'r Trallwng, oedd yn newydd i'r Wyrcws ac a fu farw ychydig ar ôl iddo gyrraedd. Gellir gweld mwy o fanylion am yr achos hwn ar dudalen ar wahân. Yn ogystal â thrin pobl sâl, roedd y swyddogion meddygol yn darparu brechiadau i bobl yn yr ardal. Cafwyd achosion o'r ffliw yn wyrcws Llanfyllin ym mis Mehefin ac roedd angen newid ystafell y teiliwr yn ward ar gyfer y dwymyn:
Cyflwynwyd cwyn gan John Roberts, y teiliwr, ar 12 Tachwedd am ei amodau gweithio:
Roedd yn byw yn lleol gyda'i wraig:
Roedd barbwr, garddwr a golchwraig yn cael eu cyflogi hefyd. Ni wnaeth Jane Dyas, golchwraig , ddweud beth oedd ei swydd yn y cyfrifiad, fel yr oedd yn digwydd yn aml ar y pryd.
| |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
¦ Mynegai ¦ Hafan ¦ Addysg ¦ Amodau Cymdeithasol ¦ Bywyd yn y Cartref ¦ Cyfraith a Threfin ¦ ¦ Cymuned ¦ Diwylliant ¦ Gofal Iechyd ¦ Gwaith ¦ Powys: Y Pryd Hynny a Nawr Trafnidiaeth ¦ ¦ Am y Prosiect ¦ Partneriaid ¦ Ffynonellau & Cydnabyddiaeth ¦ Llinell Amser - 1891 ¦ Llinell Amser - 2002 ¦ |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||