| Gwaith
Golchwraig
Byddai'r tai mawrion yn gallu cyflogi
morwyn yn benodol i ddelio â gwaith golchi y cartref, ond byddai'n
rhaid i dai llai wneud hyn eu hunain neu ddefnyddio gwasanaethau golchwraig.
Weithiau byddent yn wragedd a fyddai'n dod i mewn i'r cartref i wneud
y gwaith golchi, yn debyg i forwyn, ond yn amlach na pheidio, byddent
yn mynd â'r gwaith golchi i'w cartrefi eu hunain.
I'r wraig briod, roedd hyn yn ffordd
amhrisiadwy o ychwanegu at incwm y teulu a gallai'r gwaith hwn fod yn
hanfodol i wraig sengl neu weddw. Gallai hwn fod yn waith celfydd iawn
a gallai'r olchwraig wneud incwm gweddol dda. Roedd y gwaith, serch hynny,
bob tro yn llafurus a blinderus. Byddai gwragedd yn gweithio chwe diwrnod
yr wythnos ac yn gwneud y gwaith trwy gydol eu bywydau mewn nifer o achosion.
Gellir cael mwy o syniad am fywyd
dyddiol yr olchwraig yn The Art
and Practice of Laundry Work gan Margaret Cuthbert Rankin.
|

Hysbyseb ar gyfer
Sebon 'Sunlight'.
Archifau Sir Powys |